Showing 39 results

Archival description
Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent
Print preview View:

Siopau preifat

Gohebiaeth; adroddiadau; torion o’r wasg; nodiadau; cofnodion cyfarfodydd; a datganiadau i’r wasg; 1984-2001; yn ymwneud â defnydd yr iaith Gymraeg mewn nifer o siopau a busnesau preifat a storfeydd cenedlaethol. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys nifer fach o ffotograffau.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Spar; Staples; Stead & Simpson; Toys R Us; Thorntons; Thomas Cook; JJB Sports; River Island; Arthur Llewelyn Jenkins; Ladbrokes; a nifer o siopau lleol ac annibynnol

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a busnesau lleol yng Nghaerdydd, a storfeydd cenedlaethol, yn trafod polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1994-1997); a nifer o ffotograffau o arwyddion siop.

Woolworths; Londis; Marks & Spencer

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1984-1998, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o storfeydd cenedlaethol; nifer o Aelodau Senedd Cymraeg; nifer o aelodau Tŷ’r Arglwyddi; yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Wayne David; a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o gylchlythyr Cymdeithas yr Iaith (1994); datganiadau i’r wasg (1994); a nifer o bosteri ymgyrch.

Office World; Richer Sounds; Safeway; Sainsburys; H. Samuel; Tesco; Specsavers; Superdrug; Sport & Soccer

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1989-2001, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg mewn nifer o siopau lleol ac archfarchnadoedd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1993-1996); cofnodion cyfarfodydd (1990-1991); a nifer fach o daflenni.

Results 1 to 20 of 39