Showing 40 results

Archival description
Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Print preview View:

Llythyr yn Saesneg, dyddiedig 5 Tach. [19]10, oddi wrth J. Kyrle Fletcher mewn copi o'i lyfr The Gwentian Poems of ....

Llythyr yn Saesneg, dyddiedig 5 Tach. [19]10, oddi wrth J. Kyrle Fletcher mewn copi o'i lyfr The Gwentian Poems of Dafydd Benwyn (Cardiff, 1909). Y mae'n cyflwyno'r llyfr. Mae ymgais ar droed yng Nghasnewydd i gael dysgu Cymraeg yn yr ysgolion elfennol fel pwnc dewisol. Y gohebydd wedi dysgu darllen Cymraeg mewn dosbarthiadau ac yn gofyn cyngor ar sut i gyflwyno'i achos gerbron yr awdurdod addysg. Mynegodd holl gynghorwyr yr awdurdod eu cefnogaeth i'r Gymraeg yn ystod yr etholiadau diweddar.

Llythyr dyddiedig 27 Gorff. [19]17 oddi wrth y Parch. Edward Griffith (Meifod) wedi'i ludo mewn copi o'i gyfrol Hanes Methodistiaeth ....

Llythyr dyddiedig 27 Gorff. [19]17 oddi wrth y Parch. Edward Griffith (Meifod) wedi'i ludo mewn copi o'i gyfrol Hanes Methodistiaeth Trefaldwyn Isaf (Caernarfon, 1914). Y mae'n llawen o glywed am adferiad iechyd y derbynnydd. Y gohebydd, sydd ar drothwy 80 oed, yn dioddef â'i galon. Ymddiheuro am beidio cyfrannu erthygl ar John Hughes Pontrobert i Cymru.

Llythyr dyddiedig 20 Mawrth 1908 o Llywel, Aberystwyth, oddi wrth y cyfansoddwr David Jenkins Mus. Bac. (Cantab.) mewn copi o'i ....

Llythyr dyddiedig 20 Mawrth 1908 o Llywel, Aberystwyth, oddi wrth y cyfansoddwr David Jenkins Mus. Bac. (Cantab.) mewn copi o'i waith Llyn y Morwynion (The Maiden's Lake - Dramatic Cantata (Aberystwyth, [1908]). Y cyfansoddwr yn anfon copi o'i waith newydd sydd i'w berfformio yn Eisteddfod Llangollen [Y Genedlaethol, 1908]. Testun wedi ei seilio ar eiriau gan 'Glasynys' a [J. T.] Job. Cred y cyfansoddwr mai hwn yw ei waith mwyaf Cymreig eto a byddai'n fraint ganddo weld y derbynnydd yn y perfformiad cyntaf.

Llythyr dyddiedig 12 Gorff. [19]07 oddi wrth yr awdur 'Cybi' (Robert Evans) mewn copi o'i gyfrol Ardal y Cewri - ....

Llythyr dyddiedig 12 Gorff. [19]07 oddi wrth yr awdur 'Cybi' (Robert Evans) mewn copi o'i gyfrol Ardal y Cewri - Enwogion Plwyf Llangybi a'r Cylch ... (Pwllheli, 1907). Mae'n cyflwyno'r llyfr gan obeithio cael adolygiad arno yn Cymru. Argraffwyd 500 copi. Gofynnir am farn y derbynnydd ar gasgliad o emynau yn dwyn y teitl 'Adlais y Diwygiad'.

Llythyr dyddiedig 7 Tach. [19]11 o Caer Hirfryn, Edward St., Alltwen, Pontardawe oddi wrth yr awdur J. E. Morgan (Hirfryn) ....

Llythyr dyddiedig 7 Tach. [19]11 o Caer Hirfryn, Edward St., Alltwen, Pontardawe oddi wrth yr awdur J. E. Morgan (Hirfryn) mewn copi o'i gyfrol Hanes Hen Frodorion Gellinudd (Abertawe, d.d.). Yn y llythyr mae'n holi am wybodaeth ieithegol ynglyn â'r ddau air 'Tragwyddoldeb' a 'Gwybodaeth'.

Llythyr dyddiedig 20 Rhag. 1926 o 21 New Road, Rhydaman, yng nghyfrol Nantlais (William Nantlais Williams), Murmuron Newydd [Rhydaman, 1926] ....

Llythyr dyddiedig 20 Rhag. 1926 o 21 New Road, Rhydaman, yng nghyfrol Nantlais (William Nantlais Williams), Murmuron Newydd [Rhydaman, 1926]. Y mae'n gofyn i'r derbynnydd roi sylw i'r gyfrol yn Cymru neu Cymru'r Plant. Cydnabod fod un gerdd wedi ymddangos yn Cymru. Cyfarchion tymhorol.

Llythyr dyddiedig 5 Tach. [19]09 o Capel Seion, Glais, oddi wrth T. E. Nicholas mewn cyfrol o'i Salmau'r Werin (Ystalyfera ....

Llythyr dyddiedig 5 Tach. [19]09 o Capel Seion, Glais, oddi wrth T. E. Nicholas mewn cyfrol o'i Salmau'r Werin (Ystalyfera, 1909). Y mae'n gofyn am sylw i'r gyfrol yn Cymru a nodi bod llawer ohonynt eisoes wedi ymddangos yn y cylchgrawn hwnnw. Yr awdur yn ceisio 'dysgu Llafur i siarad Cymraeg' yn Y Glais trwy adrodd rhai o'r cerddi iddynt.

Results 1 to 20 of 40