Showing 51 results

Archival description
Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr),
Print preview View:

Llythyrau'n ymwneud â'r canghennau,

Llythyrau'n ymwneud â changhennau Merched y Wawr ledled Cymru, 1967-1975, gan gynnwys yn bennaf llythyrau at Zonia M. Bowen fel Ysgrifennydd Cenedlaethol, 1967-1970, Llywydd Anrhydeddus, 1972-1975, a golygydd y Wawr, 1968-1975, ynghylch sefydlu canghennau newydd a materion gweinyddol amrywiol; ynghyd â llythyrau gan y swyddogion cenedlaethol. Ceir llythyrau hefyd yn adrodd hanes y canghennau a'r gweithgareddau a drefnwyd ganddynt. Ceir rhestrau o gynnwys y ffeiliau, a grëwyd gan Zonia M. Bowen, o fewn y ffeiliau.

Gohebiaeth gyffredinol,

Gohebiaeth gyffredinol, 1967-1977, rhwng Zonia M. Bowen, fel Ysgrifennydd Cenedlaethol, 1967-1970, Llywydd Anrhydeddus, 1972-1975, a golygydd y Wawr, 1968-1975, a chorfforaethau, mudiadau ac unigolion amrywiol yn ymwneud â Merched y Wawr a'i sefydliad. Ceir rhestrau o gynnwys rhai o'r ffeiliau, a baratowyd gan Zonia M. Bowen, o fewn y ffeiliau perthnasol.

Gohebiaeth ag Undeb Cymru Fydd,

Gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen ac Undeb Cymru Fydd, 1966-1969, gan gynnwys llythyrau yn trafod sefydlu Merched y Wawr; manylion am gyfarfodydd Cyngor Undeb Cymru Fydd a chopïau o gofnodion y cyfarfodydd; a chopïau o Llythyr Ceridwen (rhifynnau 26-28), 1966-1968, cylchgrawn Pwyllgor Merched Undeb Cymru Fydd.

Undeb Cymru Fydd.

Llythyrau gan Plaid Cymru,

Llythyrau at Zonia M. Bowen gan swyddogion Plaid Cymru, 1968-1971, gan gynnwys cais am ysgrif ar lwyddiant Merched y Wawr ar gyfer Y Ddraig Goch, 1968; pamffled ynglŷn â boddi cymoedd Cymru er mwyn darparu dŵr i ardaloedd yn Lloegr, 1971; ac adroddiad ar ddiweithdra yng Nghymru, 1971.

Plaid Cymru

Gohebiaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru,

Gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru ynglŷn â chylchgrawn Y Wawr, 1968-1975, gan gynnwys llythyrau yn trafod grantiau amrywiol ar gyfer gwella clawr Y Wawr. Ymysg y gohebwyr mae Meic Stephens, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Arts Council of Wales.

Gohebiaeth â'r Adran Addysg a Gwyddoniaeth,

Gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen â'r Adran Addysg a Gwyddoniaeth, 1969-1976, yn trafod grantiau i gynorthwyo gyda gwaith Merched y Wawr, gan gynnwys llythyrau gan Zonia Bowen at Gyngor yr Iaith Gymraeg yn gofyn am gefnogaeth tuag at ymdrech y Mudiad i sicrhau cymorth ariannol, 1973; ynghyd â dogfennaeth berthnasol, megis crynodebau o hanes a disgrifiadau o weithgareddau'r Mudiad.

Llythyrau'n ymwneud ag ysgolion meithrin,

Llythyrau at Zonia M. Bowen yn ymwneud ag ysgolion meithrin, 1969-1977, gan gynnwys rhai oddi wrth Gronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg yn trafod ymgyrch i agor a chynnal ysgolion meithrin Cymraeg; cyfrif o gyfraniadau Merched y Wawr i'r achos, 1972-1973; cyfarwyddiadau ar sut i fynd ati i gychwyn ysgol neu gylch meithrin; ac adroddiad blynyddol a chopi o bolisi gan Mudiad Ysgolion Meithrin, 1976-1977.

Mudiad Ysgolion Meithrin.

Results 1 to 20 of 51