Showing 76 results

Archival description
Papurau Marion Eames,
Print preview View:

Y Gaeaf Sydd Unig,

Drafft, 1981, o ran (diwedd pennod 7 i'r diwedd) o nofel Marion Eames Y Gaeaf Sydd Unig (Llandysul, 1982), wedi ei ddiwygio'n sylweddol. = A draft, 1981, with extensive revision, of part (end of Chapter 7 to the end) of Marion Eames's novel Y Gaeaf Sydd Unig (Llandysul, 1982).

I Hela Cnau,

Drafft, 1974-1975, o nofel Marion Eames, I Hela Cnau (Llandysul, 1978), wedi ei ddiwygio'n sylweddol, yn cynnwys nodiadau ac yn amlinellu'r cymeriadau. Gweler hefyd NLW MS 22498D. = A draft, 1974-1975, of I Hela Cnau (Llandysul, 1978) by Marion Eames, with extensive revision and notes and brief character outlines used in the compilation of the novel. With NLW MS 22498D.

I Hela Cnau,

Drafft, 1974-1975, o nofel Marion Eames, I Hela Cnau (Llandysul, 1978), wedi ei ddiwygio'n sylweddol, yn cynnwys nodiadau, yn amlinellu'r cymeriadau, ac yn dwyn y teitl gwreiddiol Tir Nod. Gweler hefyd NLW MS 22499D. = A draft, 1974-1975, of I Hela Cnau (Llandysul, 1978) by Marion Eames, with extensive revision and notes and brief character outlines used in the compilation of the novel and bearing the original title Tir Nod. With NLW MS 22499D.

Y Rhandir Mwyn,

Drafft, 1970, o nofel Marion Eames, Y Rhandir Mwyn (Llandybïe, 1972), wedi ei ddiwygio'n sylweddol ac yn gwahaniaethu mewn mannau i'r gwaith cyhoeddedig. Gweler hefyd NLW MS 22496D. = A draft, 1970, of Y Rhandir Mwyn (Llandybïe, 1972) by Marion Eames, bearing substantial revision and differing in parts from the published text. With NLW MS 22496D.

Y Rhandir Mwyn,

Drafft, 1970, o nofel Marion Eames, Y Rhandir Mwyn (Llandybïe, 1972), wedi ei ddiwygio'n sylweddol ac yn gwahaniaethu mewn mannau i'r gwaith cyhoeddedig. Gweler hefyd NLW MS 22497D. = A draft, 1970, of Y Rhandir Mwyn (Llandybïe, 1972) by Marion Eames, bearing substantial revision and differing in parts from the published text. With NLW MS 22497D.

Y Stafell Ddirgel,

Cyfrol, [1964x1969], yn cynnwys drafft, wedi ei ddiwygio'n sylweddol, o nofel Marion Eames, Y Stafell Ddirgel (Llandybïe, 1969), a nodiadau a wnaed ganddi cyn dechrau ysgrifennu (tt. 2-225); ynghyd â drafft anghyflawn o waith a ymddengys yn angyhoeddedig, Heibio i'r Lafant (tt.226-291). Yn wreiddiol defnyddiwyd y gyfrol gan Marion Eames i gofnodi'r rhaglenni radio a gynhyrchwyd ganddi i BBC Cymru yn 1964. = A volume, [1964] x [1969], containing a draft, with substantial revision, of Marion Eames's novel Y Stafell Ddirgel (Llandybïe, 1969), with notes made in preparation for writing the novel (pp. 2-225); and an incomplete draft of an apparently unpublished work, Heibio i'r Lafant (pp. 226-291). The volume was previously used by the author to record radio programmes produced by her for BBC Wales in 1964.

Seren gaeth

Teipysgrif gyda chywiriadau mewn llawysgrif (rhan olaf pennod 9 a penodau 10-15) o'r nofel Seren Gaeth gan Marion Eames (Llandysul, 1985). = Typescript with manuscript corrections (last part of chapter 9 and chapters 10-15) of Marion Eames's novel Seren Gaeth (Llandysul, 1985).

Seren gaeth

Teipysgrif gyda chywiriadau mewn llawysgrif (penodau 1-8 a dechrau 9) o'r nofel Seren Gaeth gan Marion Eames (Llandysul, 1985). = Typescript with manuscript corrections (chapters 1-8 and beginning of 9) of Marion Eames's novel Seren Gaeth (Llandysul, 1985).

Y gaeaf sydd unig

Drafft llawysgrif, [1981], o ran (rhan o bennod 4, rhan o 5, a rhan o 7) o nofel Y Gaeaf Sydd Unig gan Marion Eames (Llandysul, 1982). = A manuscript draft, [1981], of part (part of chapter 4, part of 5, and part of 7) of Marion Eames's novel Y Gaeaf Sydd Unig (Llandysul, 1982).

Y gaeaf sydd unig

Drafft llawysgrif, [1981], o ran (penodau 1, rhan o 2, 3, rhan o 4, rhan o 5, 6, a rhan o 7) o nofel Y Gaeaf Sydd Unig gan Marion Eames (Llandysul, 1982). = A manuscript draft, [1981], of part (chapters 1, part of 2, 3, part of 4, part of 5, 6, and part of 7) of Marion Eames's novel Y Gaeaf Sydd Unig (Llandysul, 1982).

Dyddiadur,

Dyddiadur poced Marion Eames, 2001, yn cofnodi ei hapwyntiadau. = Marion Eames's pocket diary, 2001, recording her various appointments.

Personalia,

Personalia, 1928-2002, gan gynnwys adroddiadau ysgol, 1928-1931; tystysgrifau amrywiol; tystlythyrau ar gyfer ceisiadau swyddi, 1939-1941; copïau o lythyron a dderbyniodd ei brawd-yng-nghyfraith yn ei longyfarch ar ennill y Groes Filwrol, 1945; rhaglenni cyngherddau amrywiol, 1954-2000; ysgrifau coffa, 1959-1979; taflenni trefn gwasanethau angladdau ei mam, 1979, a Saunders Lewis, 1985; a phrint gan Llewelyn Petley-Jones. = Personalia, 1928-2002, including school reports, 1928-1931; various certificates; character references for job applications, 1939-1941; copies of letters to her brother-in-law congratulating him on being awarded the Military Cross, 1945; various concert programmes, 1954-2000; obituaries, 1959-1979; orders of service for the funerals of her mother, 1979, and Saunders Lewis, 1985; and a print by Llewelyn Petley-Jones.

Papurau personol,

Papurau personol, 1928-2002, yn cynnwys personalia, 1928-2002; cynllun pensaernïol Canolfan Treftadaeth Y Crynwyr, Dolgellau, 1987; a dyddiadur, 2001. = Personal papers, 1928-2002, comprising personalia, 1928-2002; architectural plans for the Quaker Heritage Centre, Dolgellau, 1987; and a diary, 2001.

Gohebiaeth yn ymwneud ag anghydfod cyfreithiol,

Gohebiaeth rhwng Marion Eames a'r awdurdodau ynglŷn â'i phenderfyniad i wrthod talu dirwy parcio oherwydd diffyg darpariaeth ffurflenni cosb penodedig yn yr iaith Gymraeg, Ebrill-Medi 1987. = Correspondence between Marion Eames and the authorities concerning her refusal to pay a parking fine because of the lack of Welsh fixed penalty notices, April-September 1987.

Llythyron teuluol,

Llythyron at Marion Eames gan aelodau o'r teulu, 1968-1996, gan gynnwys ei mam a'i chwaer, ynghyd â llythyron yn trafod ewyllys ei mam. = Letters to Marion Eames from family members, 1968-1996, including her mother and sister, together with letters concerning her mother's will.

Gohebiaeth gyffredinol,

Gohebiaeth gyffredinol, 1967-2005, gan gynnwys llythyron at Marion Eames gan lenorion, cyhoeddwyr a chyfeillion yn trafod ei gwaith. Ymhlith y gohebwyr mae Gwynfor Evans; Islwyn Ffowc Elis; Saunders Lewis; Bob Owen, Croesor; Kate Roberts; a T. H. Parry-Williams. Ceir hefyd llythyron gan R. Geraint Gruffydd yn trafod ei gwaith ar lenyddiaeth Gymraeg, A Private Language?. = General correspondence, 1967-2005, including letters to Marion Eames by fellow writers, publishers and friends discussing her work. Amongst the correspondents are Gwynfor Evans; Islwyn Ffowc Elis; Saunders Lewis; Bob Owen, Croesor; Kate Roberts; and T. H. Parry-Williams. The file also includes letters from R. Geraint Gruffydd concerning her work on Welsh literature, A Private Language?.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth, 1967-2005, yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1967-2005; llythyron teuluol, 1968-1996; a gohebiaeth yn ymwneud ag anghydfod cyfreithiol, 1987. = Correspondence, 1967-2005, comprising general correspondence, 1967-2005; letters from family members, 1968-1996; and letters concerning a legal dispute, 1987.

Ymweliad Marion Eames â'r Unol Daleithiau,

Deunydd printiedig, 1977-1986, yn ymwneud ag ymweliad Marion Eames â'r Unol Daleithiau yn 1984. Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrynnau gwybodaeth a pamffledi nifer o sefydliadau o bwysigrwydd hanesyddol i'r Crynwyr yn Mhennsylfania a Washington; adroddiadau chwarterol Cymdeithas Harriton, 'The Curator's Quarterly Report', 1977-1982; a chopi o erthygl a ysgrifennodd Marion Eames yn sgil yr ymweliad yn trafod Bryn Mawr, Dolgellau, a Bryn Mawr (bellach Harriton), Pennsylfania, 1986. = Printed material, 1977-1986, relating to Marion Eames's visit to the United States in 1984. The file includes information booklets and pamphlets from various institutions of historical importance to the Quakers in Pennsylvania and Washington; quarterly reports from the Harriton Association, entitled 'The Curator's Quarterly Report', 1977-1982; and a copy of an article written by Marion Eames following her visit discussing Bryn Mawr, Dolgellau, and Bryn Mawr (now Harriton), Pennsylvania, 1986.

Results 1 to 20 of 76