Showing 361 results

Archival description
Papurau Gwenallt
Print preview View:

Teipysgrif o'r gyfrol Y Coed, ag eithrio'r ddwy gerdd 'Sir Gaerfyrddin' a 'Trychineb Aber-fan', ynghyd â rhestr o'r cynnwys [yn ...,

Teipysgrif o'r gyfrol Y Coed, ag eithrio'r ddwy gerdd 'Sir Gaerfyrddin' a 'Trychineb Aber-fan', ynghyd â rhestr o'r cynnwys [yn llaw Nel Gwenallt]. Ceir ail gopi teipiedig o'r mwyafrif o'r cerddi gydag ambell amrywiad o'r cerddi terfynol, 113 ff. Cynhwysir pennill o gerdd [anhysbys] ar f. 69, a theipysgrif o 'Plant yr Almaen' (f. 69) a 'Y Swper Olaf' (f. 112) o Eples. Yn ogystal, ceir copi o rifyn o Y Cylchgrawn Efengylaidd, 1967-8, lle'r ymddangosodd y gerdd 'Sacheus', a chopi o ddechrau llythyr [oddi wrth ?] o 52 North Parade, Aberystwyth, ynglyn â Mrs Nel Gwenallt Jones.

Copi llawysgrif o gywydd 'Gofyn Oed yn y Noson Lawen - a'r Ateb', cyd-fuddugol yn Eisteddfod Golegol Aberystwyth [l922], 3 ...,

Copi llawysgrif o gywydd 'Gofyn Oed yn y Noson Lawen - a'r Ateb', cyd-fuddugol yn Eisteddfod Golegol Aberystwyth [l922], 3 ff. Ar gefn f. 2, ceir cais gan C[assie Davies?] am ddeunydd i ysgrifennu topicaliaid arno, ac ar gefn f. 3 ceir dau bennill cyfarch i fardd cadeiriol (y bardd o Lanbrynmair) Eisteddfod Golegol Aberystwyth.

Llyfr nodiadau 70 ff. yn cynnwys nodiadau bywgraffyddol ar Idwal Jones, ff. 4-7; dyfyniadau o'i lythyrau adeg y Rhyfel Byd ....

Llyfr nodiadau 70 ff. yn cynnwys nodiadau bywgraffyddol ar Idwal Jones, ff. 4-7; dyfyniadau o'i lythyrau adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, ff. 7-35; dyfyniadau o'i waith ac o adroddiadau ynglyn â gweithgareddau myfyrwyr, wedi eu cymryd o gylchgronau, ff. 36-54 a 59-67; dyfyniadau o lyfrau'n trafod hiwmor mewn llenyddiaeth, ff. 1-3 a 54-9; a chyfeiriadau, ff. 68-70. Ar f. 70 ceir enwau a chyfeiriadau rhai pobl, ac ar y clawr cefn ceir dalen yn cynnwys nodiadau penawdol [darlith] ar Idwal Jones [c.d.], a dalen yn cynnwys dyddiadau teulu Idwal Jones, cyfeiriadau at ei waith, a nodiadau byrion arno.

Results 1 to 20 of 361