Dangos 385 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Ieuan Wyn Jones
Rhagolwg argraffu Gweld:

Effemera

Cardiau aelodaeth Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones a chopi araith gyntaf Gwynfor Evans yn y Senedd ar 26 Gorffennaf 1966.

Cymru a'r Farchnad Cyffredin

Cyhoeddiad Plaid Cymru o'r enw "Plaid Cymru a'r Farchnad Cyffredin: Astudiaethau ar y Gymuned = Wales and the Common Market: Referendum Study Papers" ar agweddau'r Gymuned Ewropeaidd a'r cyfleodd a bygythiadau i Gymru o fod yn aelod.

Plaid Cymru

Dyddiadur 1976

Dyddiadur Ieuan Wyn Jones ar gyfer 1976. Dim ond ambell nodyn ym mis Ionawr; gweddill y flwyddyn yn wag.

Etholiad Ewrop

Anerchiad etholiad, cerdyn galw, gohebiaeth a phapurau ynglyn ag ymgyrch Ieuan Wyn Jones fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Gogledd Cymru yn Etholiad Senedd Ewrop yn 1979.

Dyddiadur 1985

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones yn cynnwys rhai nodiadau am ei deulu a sylwadau ar ddigwyddiadau 1985.

Llyfr nodiadau 1

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones yn cynnwys nodiadau ar gyhnadledd yr SDP gyda thafodaeth ar amddiffyn, ynni niwclir, yr amgylchedd ac yn y blaen.

Taflenni wybodaeth yn targedi Keith Best

Copiau o erthyglau am Keith Best, Conservative MP for Ynys Mon, yn defnyddio enwau gwahanol i brynu mwy o gyfranddaliadau nag oed hawl iddo brynu wrth i lywodraeth Margaret Thatcher breifateiddio British Telecom, ynghyd a gwybodaeth a pholisiau ar nifer o bynciau.

Etholiad Cyffredinol 1987

Papurau amrywiol yn ymwneud ag Etholiad Cyffredinol 1987 yn etholaeth Ynys Mon gan gynnwys erthyglau, taflenni a phosteri, dyddiadur apwyntiadau, cerdd gan Ann Vaughan a threfniadau mewnol yr ymgyrch.

Sticeri

Sticeri yn hyrwddo Ieuan Wyn Jones, o posib o Etholiad Cyffredinol 1987.

Plaid Cymru

Areithiau Ieuan Wyn Jones

Copi o araith Ieuan Wyn Jones i gynhadled yr SNP yn 1987, copi o'i araith gyntaf yn y Senedd ar 1 Gorffennaf 1987 a chopi o Hansard yn cofnodi cyfraniad Ieuan Wyn Jones i'r ddadl ar cwata llaeth.

Deddf cyllid

Papurau, gan gynnwys copiau Hansard, ymchwil, erthyglau a gohebiaeth am Deddf Cyllid 1989 a'r effaith rhai newidiadau etifeddiaeth ar ffermydd teuluol.

Canlyniadau 1 i 20 o 385