Dangos 3 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Barddoniaeth John Jones, Ceunant,

  • NLW MS 16829A.
  • ffeil
  • [1875x1925].

Cyfrol yn cynnwys barddoniaeth gan John Jones, Ceunant ac eraill, ynghyd â ryseitiau meddyginiaethol a rhai ar gyfer y gegin a'r tŷ, yr oll mewn [?o leiaf dwy] law anhysbys = A volume of poetry by John Jones, Ceunant and others, together with culinary, domestic and medical recipes, all written in [?at least two] hands.
Nodir mai gan 'Gwilym Llugwy' (William Owen, Betws y Coed) mae un o'r englynion (f. 7). Ceir ôl adolygu a chywiro ar beth o'r cerddi, sy'n awgrymu efallai mai gwaith un o'r sgrifenwyr ydyw'r rhai neillduol hynny = One of the englynion is noted as being by 'Gwilym Llugwy' (William Owen, Betws y Coed) (f. 7). There are marks of editing and correction on some of the poems, which suggests that these particular ones may be in the autograph of one of the scribes.

Detholion o gerddi,

  • NLW MSS 16670-1A.
  • ffeil
  • [1862x1891] /

Detholion o gerddi gan ac yn llaw Hugh Jones ('Huw Myfyr') a John Evans ('Isfryn'). Cyhoeddwyd nifer o'r cerddi yng nghyfnodolion y cyfnod (nodir y manylion yn y gyfrol). = Anthologies of autograph poetry by Hugh Jones ('Huw Myfyr') and John Evans ('Isfryn'). Many of the poems were published in the periodicals of the day (details noted in volume).
16670A: Mae rhai o'r cerddi'n dwyn ôl adolygu a dyddir rhai o'r cerddi. 16671A: Dyddir ambell i gerdd. Ceir englyn i 'Isfryn' gan 'Pedrogwyson' (y Parchedig John Owen Williams, Madryn) ar f. i verso. Hefyd yn y gyfrol ceir toriadau o wahanol gyfnodolion, gan gynnwys llythyr i'r Faner oddi wrth 'Isfryn' parthed Ann Griffiths (ff. 11-12), a thoriadau yn dwyn ysgrifau marwolaeth 'Isfryn' (ff. 21 verso-22 verso). = 16670A: Some of the poems show signs of editing and some are dated. 16671A: Some poems are dated. There is an englyn to 'Isfryn' by 'Pedrogwyson' (the Reverend John Owen Williams, Madryn) on f. i verso. Also included in the volume are press cuttings from Welsh periodicals, including a letter relating to Ann Griffiths sent to Y Faner by 'Isfryn' (ff. 11-12), and press cuttings containing obituary notices of 'Isfryn' (ff. 21 verso-22 verso).

Hugh Jones ('Huw Myfyr') & John Evans ('Isfryn').

'Yr Aipht' : : Pryddest,

  • NLW MS 16674D.
  • ffeil
  • [1884x1898] /

Pryddest yn dwyn y teitl 'Yr Aipht' gan ac yn llaw Edward Ffoulkes, sef yr ymgais fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1884, ynghyd â drafftiau o'r un gwaith a thystysgrif enillydd; llythyr, dyddiedig 12 Ebrill 1885, oddi wrth Edward Ffoulkes at Alfred, Arglwydd Tennyson, ynghyd ag ateb Tennyson, dyddiedig 15 Ebrill 1885, a llythyr, dyddiedig 17 Hydref 1885, oddi wrth y Parch. Henry Griffith, Ventnor, Ynys Wyth at Edward Ffoulkes, ynghyd ag ateb Ffoulkes, dyddiedig 24 Hydref 1885; anerchiadau yn llaw Edward Ffoulkes ar '[William] Wordsworth' (i'w draddodi yng Nghymdeithas Lenyddol Moriah, Caernarfon, d.d.), ar 'Eben Fardd' [Ebenezer Thomas] (i'w draddodi yng Nghymdeithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl, 10 Chwefror 1891, ynghyd â thoriad o'r Cymro, dyddiedig 5 Chwefror 1891, yn cyfeirio at y digwyddiad), ac ar 'Dadblygiad' (i'w draddodi yng Nghymdeithas Lenyddol Capel Coch, Llanberis, 26 Ionawr 1898) = An autograph pryddest entitled 'Yr Aipht' by Edward Ffoulkes, the winning entry in the National Eisteddfod held at Liverpool, 1884, together with rought drafts of the same work and a winner's certificate; a letter, dated 12 April 1885, from Edward Ffoulkes to Alfred, Lord Tennyson, together with Tennyson's reply, dated 15 April 1885, and a letter, dated 17 October 1885, from the Rev. Henry Griffith, Ventnor, Isle of Wight, to Edward Ffoulkes, together with Ffoulkes's reply, dated 24 October 1885; addresses in the hand of Edward Ffoulkes on '[William] Wordsworth' (to be delivered at Moriah Literary Society, Caernarfon, n.d.), on 'Eben Fardd' [Ebenezer Thomas] (to be delivered at the Liverpool Welsh National Society, 10 February 1891, together with a cutting from Y Cymro dated 5 February 1891, relating to the event), and on 'Dadblygiad' ['Development'] (to be delivered at Capel Coch Literary Society, Llanberis, 26 January 1898).
Ceir cyfeiriadau at Edward Dowden (ff. 59-60), William Angus Knight ((f. 61 recto-verso) ac eraill = There are references to Edward Dowden (ff. 59-60), William Angus Knight (f. 61 recto-verso) and others.

Foulkes, Edward, 1850-1917