Showing 477 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1958

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwenallt, Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Waldo Williams, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Euros Bowen, Aneurin Talfan Davies, Alun Llywelyn-Williams, Elis Gwyn Jones, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, John Gwilym Jones a Pennar Davies. Ar gefn drafft o lythyr gan Bobi Jones mae copi o eirda a roddwyd iddo gan Griffith John Williams ym 1952.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1961

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Bobi Jones, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; D. Myrddin Lloyd, T. H. Parry-Williams, John Gwilym Jones, R. Gerallt Jones a J. E. Caerwyn Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1966

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. E. Caerwyn Williams, R. S. Thomas, Islwyn Ffowc Elis a Gwenallt. Ceir cyfeiriadau at roi Gwobr Griffith John Williams i Gwaed Gwirion, Emyr Jones, yn ogystal â chyfeiriadau Tecwyn Lloyd at rai o helyntion is-etholiad Sir Gaerfyrddin, 1966 a llythyr oddi wrth Vernon Jones, athro yn Ysgol y Berwyn y Bala, yn cynnig y syniad, am y tro cyntaf, o enwebu Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel.

Bowen, Euros,

Gohebiaeth gyffredinol: 1970

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Rhydwen Williams, Gwynne Williams, Marion Eames ac R. Bryn Williams. Ceir cyfeiriadau at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Saunders Lewis, yn 1968, am Cymru Fydd^ ac i J. G. Williams, yn 1970, am Pigau'r Ser.

Thomas, Gwyn, 1936-

Results 1 to 20 of 477