Showing 42 results

Archival description
Papurau Gwilym R. Jones
Print preview View:

Papurau Gwilym R. Jones

  • GB 0210 GWMRES
  • Fonds
  • [1930]-[2001]

Papurau Gwilym R. Jones, [1930]-[2001] yn cynnwys cerddi, sgriptiau, straeon byrion, darlithiau, a phapurau yn ymwneud â’i gyfnod yn olygydd Y Faner. = Papers of the poet and journalist Gwilym R. Jones, 1930-[2001], including poems, scripts, short stories, lectures, and papers relating to his work as editor of Y Faner.

Jones, Gwilym R. (Gwilym Richard), 1903-1993

Straeon byrion

Chwe stori fer y gobeithid eu cyhoeddi yn gyfrol, ynghyd â llythyr oddi wrth Gerallt [Lloyd Owen] at Berwyn [mab yng nghyfraith Gwilym R. Jones] yn dweud 'nad oes digon o unoliaeth i wneud cyfrol deilwng o Gwilym R. ... ac mae'r cwbwl wedi dyddio rhywfaint erbyn hyn'.
Ceir tair stori fer Saesneg hefyd – ‘The ring’, ‘Ne’er the twain shall meet’ or ‘They were created male and female’ a ‘The proposal’, ynghyd ag 'egin storïau' a chanllawiau ar lunio stori fer.

Owen, Gerallt Lloyd, 1944-2014

Atgofion am wyliau yn y Cotswolds

Llungopi o lythyr oddi wrth Ifor Rees, 1996, at fab y llenor yn ymwneud â chynnwys yr atgofion am wyliau yn y Cotswolds yn y gyfrol yng nghyfres Bro a bywyd a gyhoeddwyd yn 2001, ynghyd â sgript y rhaglen deledu a ddarlledwyd yn y gyfres ‘Arall fyd’, [1972].

Rees, Ifor

Barddoniaeth

Cerddi, [1937]-[1993], gan gynnwys cerddi i aelodau o'r teulu, cerddi coffa, emynau a throsiadau.

Cerddi

Cerddi gan gynnwys englyn sydd ar gofeb rhyfel Ysgol Ramadeg Pen-y-groes a cherddi i'r Fam Teresa a 'Geldof a Theresa'.

Cerddi amrywiol

Cerddi gan gynwys torion o'i gerddi a gyhoeddwyd yn Barn a'r Faner a llyfr wedi'i labelu ganddo yn 'Cerddi newydd Gwilym R.' gyda nodiadau cefndirol wedi'u hychwanegu yn ddiweddarach, ynghyd â llythyr oddi wrth aelod o dîm golygyddol y cylchgrawn Woman's Own yn dychwelyd ei bennill 'Compensation (for men)' gyda'r ffugenw 'Rhys Colwyn' .

Cyfansoddiadau

Pryddest ‘A ddioddefws a orfu’ gan ‘Pentewyn’, Eisteddfod Genedlaethol Aberafan - Port Talbot, 1932 (proflen) ac adysgrif o feirniadaeth T. Rowland Hughes ar ‘Nofel y Rhyfel Mawr’, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1933. [Ni ddyfarnwyd y wobr ond rhoddwyd deg punt yr un i Gwilym R. Jones a J. Rees Jones].

Barddas

Rhai rhifynnau o’r cylchgrawn Barddas, 1986-1990, yn cynnwys ‘Colofn Gwilym R.’ a cherddi ganddo.

Printiedig

Cylchgronau, [1969]-1990, yn cynnwys cerddi ac erthyglau ganddo a gyhoeddwyd yn Y Faner ac yn Barddas.

Cerddi

Cerddi, 1937-[1988], gan gynnwys 'Codasom gaer' mewn copi o Tir newydd, Tachwedd 1937; 'Siwrnai'r dewiniaid', trosiad o [Journey of the Magi] gan T. S. Eliot; ‘Cyfarchiad i’r Cymry ar wasgar’ a ‘Mynydd fy mynyddoedd’.

Cerddi

Ymhlith y cerddi mae ‘Hiraeth am Ddyffryn Nantlle’, englynion 'Dathlu chwarter canrif o Chwyldro Ciwba' yn 1984 a chyfieithiad i'r Saesneg, ac englyn i Robert Owen (y dewin orthopaedig).

Sgriptiau

Sgriptiau dramâu llwyfan, dramâu radio, sgriptiau radio a theledu,1930-[1983].

Results 1 to 20 of 42