Showing 96 results

Archival description
Papurau Mathonwy Hughes
Advanced search options
Print preview View:

Cardiau Nadolig teuluol

Cardiau Nadolig a phen-blwydd, [1850]-[1945], a dderbyniwyd gan Mathonwy Hughes ac aelodau o’i deulu, gan gynnwys ei ewythr Silyn Roberts, a rhai cardiau coffa. Ceir cerdyn Nadolig hefyd oddi wrth 'Squadron-Leader & Mrs G. ap Silyn-Roberts, Henlow.

'Dyddiadur gwyliau'

Torion yn ymwneud â theithiau Mathonwy Hughes i Sir Benfro, Yr Ynys Werdd, Yr Alban, Gwlad yr Haf, Cwm Rhondda, Cernyw a gyhoeddwyd yn Y Faner, 1963-1972.

Papurau pobl eraill

Enghreifftiau o waith creadigol Mair Hughes, gwraig Mathonwy Hughes, Eurion John a Gruffudd Parry, ynghyd â'r meddyg teulu Dr Gwilym Pari Hughes, [1975]-1983.

Gwilym Pari Huws

Teipysgrifau o englynion a chywyddau gan Gwilym Pari Huws a gyhoeddwyd yn ei gyfrol Awen y meddyg (Gwasg Gwynedd, 1983).

Y Faner

Papurau, 1894-1985, yn ymwneud â chyfraniadau Mathonwy Hughes i'r Faner fel golygydd cynorthwyol.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1894-1985, gan gynnwys rhestr brintiedig o swyddogion Cymdeithas Gyfeillgar Dyffryn Nantlle, 1894, rhaglenni eisteddfod gadeiriol Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, 1980-1, dirwy a roddwyd iddo am yrru yn ddiofal yn 1983 ac erthygl Mathonwy Hughes, ‘Dyfodol Y Faner’, am fwriad Cyngor y Celfyddydau i derfynu ei gymorthdal tuag at gynnal Y Faner, [1987].
Ceir hefyd enghreifftiau o waith Ellen Mary Hughes, mam Mathonwy Hughes, a rhaglen brintiedig Sioe Nantlle Vale, Penygroes, 1901.

Ysgrifau

Ysgrifau yn llaw Mathonwy Hughes, [1985]-[1990]: 'Synhwyro', 'Cyflymder' (anghyflawn), 'Mentro meddwl', 'Hanfod bod a byw', 'Y ffactor tywyll', 'Deddfau sy'n dal', 'Gwadu’r hil', 'Dameg y chwynyn' 'Y goleuni mewnol', 'Methiant addysg', 'Y gobaith olaf', 'Methiant crefydd', 'Synhwyro. Y glust', 'Elwgarwch' a 'Methiant gwleidyddiaeth'.

Llythyrau oddi wrth lenorion amlwg

Llythyrau oddi wrth lenorion yn bennaf, 1943-1992, gan gynnwys John Roderick Rees; [R.] Bryn Williams; Gwynfor [Evans]; Gwilym R. Tilsley; [R.] Tudur [Jones]; Bedwyr Lewis Jones; John [Gwilym Jones]; T. E. Nicholas; Kate Roberts; Waldo Williams; Lewis Valentine; Angharad Tomos; E. Prosser Rhys; D. J. Williams; T. H. Parry-Williams; W. R. P. George; a T. Llew Jones.

Gohebiaeth

Llythyrau a dderbyniodd Mathonwy Hughes fel golygydd Y Faner ac yn ymwneud â'i ddiddordebau llenyddol, 1943-1993.

Results 1 to 20 of 96