Deunydd, [1826]-[1837], yn ymwneud ag eglwys Bethesda y Bedyddwyr yn Rhoshirwaun, Aberdaron, gan gynnwys nodiadau am bregethau gan y Parch. Christmas Evans ac eraill yng Nghymanfa Pwllheli 1826 a chofrestr o'r cyfarfod dirwestol cyntaf a gynhaliwyd yn yr eglwys, 1837. = Papers, [1826]-[1837], relating to Bethesda Baptist Church, Rhoshirwaun, Aberdaron, including notes on sermons by the Rev. Christmas Evans and others at the Pwllheli singing festival and a register of the first temperance meeting held at the church, 1837.
Gohebiaeth, 1990-1995, yn ymwneud ag achos i ddadgategoreiddio Ysgol Casmael, Sir Benfro, o fod yng nghategori A yn ieithyddol, sef rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg, i fod yn gategori B, sef i roi blaenoriaeth i'r Saesneg. = Correspondence, 1990-1995, relating to the case of decategorising Puncheston School, Pembrokeshire, from being a category A school, where linguistically Welsh was given prominence, to a category B school, which would give prominence to English.
Dau lythyr, 1950, oddi wrth Thomas Rowlands, Tyddyn Morlais, y Gaiman, Chubut, a ymfudodd i Batagonia ym 1906, ynghyd â llungopi o ffotograff o Côr y Dyffryn Uchaf, côr a sefydlodd ym 1925.
Copi o'r cyhoeddiad Hunaniaeth Gymreig/Welsh identity (Rhiwfawr : Grŵp Ysgrifennu Rhiwfawr, 2004), wedi ei lofnodi gan y cyfranwyr, ac eraill. = A copy of Hunaniaeth Gymreig/Welsh identity (Rhiwfawr Writers' Group, 2004), autographed by the contributors and others.
Llythyrau, 1917-1918, oddi wrth Owen Thomas o'r Aifft a Phalesteina, ac oddi wrth ei frawd Tom o Ffrainc at eu brawd a'u chwaer ym Modorgan, Môn, pan oeddynt yn filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Papurau Gwenllian Gwyn Jones, [1959]-2004, awdur llyfrau i blant ac a ddarluniwyd ganddi, yn cynnwys torion am ei llyfrau, a theyrnged a draddododd y Parch. Glyn Tudwal Jones yn ei hangladd, 17 Rgagfyr 2004, ynghyd â phapurau'n ymwneud â Syr Geraint Evans a grynhowyd gan y rhoddwr, ffrind iddo, gan gynnwys torion o'r wasg a rhaglen ar gyfer ei berfformiad yn L'elisir d'amore, 1984, yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden.
Nodiadau am bregethau a phregethwyr, y darlleniadau a thestun y bregeth, [1839]-[1866], ar ddalennau rhydd. Rhestrir pregethwyr Sasiwn Machynlleth 1839.
Papurau William Andreas Jones, [1935]-[1988], gohebydd y wasg i Bwyllgor Etholaeth Arfon o Blaid Cymru a llythyrwr cyson i'r wasg, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Anthony Wedgwood Benn (2), Neil Kinnock, John Morris a Dafydd Iwan (2), torion o'r wasg yn ymwneud â Phlaid Cymru a'r Bedwaredd Sianel, a'i atgofion cynnar.
Emyn-donau John Jenkins, Bad Uchaf, ger Pontypridd, gan gynnwys 'Glan-y-Bâd', buddugol yn Eisteddfod 'Welsh Industries' yng Nghaerdydd, 1946, ynghyd â 'Hen Delynor’ (geiriau T. Rowland Hughes), buddugol yn Eisteddfod Cydweli, 1952. Ceir hefyd wybodaeth fywgraffyddol am John Jenkins, ynghyd â nodyn am hanes Eglwys y Bedyddwyr Carmel, Bad Uchaf.
Anerchiad teipysgrif Syr Thomas Parry yng Nghanolfan Addysg Bro Cernyw, 27 Medi 1980, ar achlysur dadorchuddio cofeb i'r cyfieithydd J. T. Jones ar ei gartref bore oes - Bron Hwylfa, Llangernyw.
Llawysgrif gerddorol y cyfansoddwr D. Afan Thomas (1881-1928), Cwmafan, gan gynnwys tair emyn-dôn 'Cwm Clais' [cyhoeddwyd mewn sol-ffa yn Eirin Afan. Rhan I (Aberafan, 1916)], 'The Mill Wheel' [cyhoeddwyd mewn sol-ffa yn Eirin Afan. Part II (1920)] ac 'Ellen' [cyfansoddwyd er cof am Mrs Edward Lewis, Port Talbot]. = A musical manuscript containing three hymn-tunes composed by D. Afan Thomas (1881-1928), Cwmafan, entitled 'Cwm Clais' [published in sol-fa in Eirin Afan. Rhan I (Aberafan, 1916)] ,'The Mill Wheel' [published in sol-fa in Eirin Afan. Part II (1920)] and 'Ellen' [composed in memory of Mrs Edward Lewis, Port Talbot].
Papurau’r Parch. T. Alban Davies (1892-1972), gweinidog gyda’r Annibynwyr yn Eglwys Bethesda, Ton Pentre, Rhondda, gan gynnwys dau ddyddiadur, 1915 ac 1949, sgriptiau a sgyrsiau radio a luniwyd ganddo, 1955-1959, llyfr cofnodion Pwyllgor Sir Dwyrain Morgannwg o'r Urdd, 1940-1945, a thorion o'r wasg, 1938-1965.
Gosodiadau cerdd dant gan Gareth Mitford Williams (1951-1982) ar gyfer cystadlaethau unawdau a deuawdau mewn gwyliau cerdd dant; gosodiad o 'Y Pensaer' gan Gwenallt ar gyfer ymweliad â Brest, Llydaw, yn 1980; gosodiadau ar gyfer Parti’r Graig, Llangefni, yn Eisteddfodau Cenedlaethol Caerfyrddin 1974 a Chaernarfon 1979, ynghyd â llungopi o ysgythriad o’i daid yr artist W. Mitford Davies, 1935.
Papurau, [1876]-[1902], David Watkin Jones ('Dafydd Morganwg', 1832-1905), neu a grynhowyd ganddo. Mae rhai ohonynt yn ymwneud â'i gyhoeddiadau Yr Ysgol Farddol (1869) a Hanes Morganwg (1874), a'i waith fel golygydd barddoniaeth y Cardiff Times ac fel beirniad eisteddfodol.
Coeden deulu gan David Evans ('Dewi Haran', 1812-1885) yn olrhain disgynyddion Thomas Phillip (g. 1536), ynghyd â medal arian a gyflwynwyd iddo yn 1849 gan Dafydd Hopkins am y gerdd orau i gŵn hela Llanharan. Ceir cerdd brintiedig In Memoriam. Beth am y bedd? gan Dewi Wyn o Essyllt (cyflwynedig i Dewi Haran ar farwolaeth ei briod yn 1878) a Posi ar fedd 'Dewi Haran' gan Glanffrwd, [1885].
Tair ffeil yn cynnwys papurau'n ymwneud â Hen Ysgol Ramadeg Edward Richard (1714-1777), Ystrad Meurig, a hanes yr ymgyrch i ddiogelu’r adeilad er budd y gymuned leol, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd Cyfeillion yr Hen Ysgol, 1997, llythyrau oddi wrth CADW a Thomas Lloyd, a thorion o'r wasg = Three files containing papers relating to the Edward Richard (1714-1777) Old Grammar School, Ystrad Meurig, and the campaign to ensure that the building was to be used for the benefit of the local community, including minutes of Friends of the school meetings, 1997, letters from CADW and Thomas Lloyd, and press cuttings.
Hanes Eglwys Bethel (B), Rhosybol, 1841-2002, Eglwys Sardis, Dulas, (dathlu canmlwyddiant a hanner, 1983) gan y rhoddwr; ac Eglwys Bethania, Llaneilian (allan o'r Greal).