Showing 23 results

Archival description
Archif Brwydr Llangyndeyrn = Llangyndeyrn's Fight for Victory Archive
Print preview View:

Archif Brwydr Llangyndeyrn = Llangyndeyrn's Fight for Victory Archive

  • GB 0210 BRWYLLAN
  • Fonds
  • 1960[x2022]

Deunydd yn ymwneud â'r frwydr ar ran y trigolion yn ystod hanner cyntaf y 1960au i achub Llangyndeyrn a phentrefi eraill Cwm Gwendraeth Fach rhag eu boddi gan Gorfforaeth Abertawe er mwyn creu cronfa ddŵr i ddiwallu anghenion cartrefol a diwydiannol Gorllewin Morgannwg. Casglwyd y deunydd gan y Parchedig William Merfyn Rees, ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn, a'i fab Hywel Gealy Rees, golygydd y gyfrol Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 (Y Lolfa, 2013) (gweler nodyn isod). Mae'r eitemau'n cynnwys dwy ffeil o dorion o'r wasg o'r 1960au yn olrhain hanes y frwydr, ynghyd â thorion mwy diweddar; llythyrau a anfonwyd at y Parchedig W. M. Rees yn cefnogi safiad trigolion Llangyndeyrn yn erbyn Corfforaeth Abertawe; deunydd yn ymwneud â dyddiadau a dathliadau nodedig yn hanes brwydr Llangyndeyrn; a chyfeiriadau at lyfrau a cherddi sy'n dathlu llwyddiant y frwydr. Sawl eitem wedi'u harnodi, yn ôl pob tebyg yn llaw Hywel Gealy Rees.

Yn atodol, ceir nodiadau printiedig yn manylu ar natur a lleoliad deunydd di-brint sy'n perthyn i'r casgliad ac sydd wedi'i drosglwyddo i adrannau eraill o LlGC; ynghyd â rhestr printiedig o ddyddiadau nodedig yn hanes brwydr Llangyndeyrn.

= Material relating to the struggle on the part of the residents of the village of Llangyndeyrn during the first half of the 1960s to save theirs and other communities in the Gwendraeth Valley from being drowned by Swansea Corporation in order to create a reservoir to meet the domestic and industrial needs of West Glamorgan. The material was collated by the Reverend William Merfyn Rees, secretary of the Llangyndeyrn Defence Committee, and his son, Hywel Gealy Rees, editor of the book Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 (Y Lolfa, 2013) (see note below). The items include two files containing 1960s press cuttings chronicling the Llangyndeyrn residents' struggle, together with more recent press cuttings; letters of support for the stand taken by Llangyndeyrn's residents against Swansea Corporation sent to Reverend W. M. Rees; material relating to notable dates, celebrations and anniversaries in the history of Llangyndeyrn's fight for justice; and references to books and poems commemorating the success of the fight. Several items are annotated, most likely in the hand of Hywel Gealy Rees.

Appended are printed notes detailing the nature and location of non-print material which forms part of this archive and which has been transferred to other departments within NLW; together with a printed list of notable dates in the history of Llangyndeyrn's fight for victory.

Rees, William Merfyn, Reverend, d. 1977

'Brwydr Llangyndeyrn' (rhaglen deledu ddogfennol) = 'Brwydr Llangyndeyrn' (television documentary)

Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen ddogfennol 'Brwydr Llangyndeyrn', a ddarlledwyd ar S4C, 20 Hydref 2013 fel rhan o ddathliadau hannercanmlwyddiant llwyddiant brwydr Llangyndeyrn, sy'n cynnwys cyfweliad gyda'r gweithredwr gwleidyddol Emyr Llywelyn (Emyr Llew) (teipysgrif) a hysbysiad arlein yn cyhoeddi dangosiad o'r rhaglen ar 11 Hydref 2013 yn neuadd bentref Llangyndeyrn. = Material relating to the television documentary 'Brwydr Llangyndeyrn', broadcast on S4C, 20 October 2013 as part of the half-centenary celebrations commemorating Llangyndeyrn's victorious battle, which includes an interview with the political activist Emyr Llywelyn ('Emyr Llew') (typescript) and an online advertisement for a viewing of the documentary in Llangyndeyrn village hall on 11 October 2013.

Cerddi = Poetry

Llungopïau o gerddi Cymraeg sy'n cyfeirio at frwydr Llangyndeyrn, sef 'Sir Gaerfyrddin (Cân deyrnged i Lywydd Plaid Cymru [Gwynfor Evans] ar ei ethol yn Aelod Seneddol)' gan Gwenallt (o Y Coed (Gwasg Gomer, 1969)); 'Cwm Cymwynas' gan Mererid Hopwood; 'Dathlu 50 Mlynedd Achub Llangynderyn' gan Tudur Dylan; 'Llangyndeyrn' gan Arwel John; 'Y Frwydr' gan Idris Reynolds; 'Pentref (i bobol Llangyndeyrn)' gan Iolo Jones; 'Y Frwydr' gan Geraint Roberts (cyhoeddwyd yn Beirdd Bro Eisteddfod Sir Gâr (gol. Geraint Roberts) (Cyhoeddiadau Barddas, 2014)); 'Llangyndeyrn' gan y Parchedig W. M. Rees (gweler nodyn ym mhrif weithlen yr archif); 'Dŵr' gan Hannah Roberts; a 'Bro Fy Mebyd' gan W. T. Thomas. Cyhoeddwyd 'Cwm Cymwynas', 'Dathlu 50 Mlynedd Achub Llangyndeyrn' a 'Llangyndeyrn' (Arwel John) yn Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 gan W. M. Rees (Y Lolfa, 2013) (gweler nodyn ym mhrif weithlen yr archif). 'Y Frwydr' oedd englyn buddugol y Prifardd Idris Reynolds ar gyfer Talwrn y Ddau Gwm (Tryweryn a Gwendraeth Fach) (meuryn: Tudur Dylan) adeg dathlu hannercanmlwyddiant y frwydr yn 2013. Arnodiad, yn ôl pob tebyg yn llaw Hywel Gealy Rees wrth yr englyn 'Pentref (i bobol Llangyndeyrn)' gan Iolo Jones: 'Iolo Jones Y Talwrn Radio Cymru'. Cyhoeddwyd 'Llangyndeyrn' gan y Parchedig W. M. Rees yn y gyfrol Cloi'r Clwydi a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Les Llangyndeyrn ym 1983 (gweler dan Dathlu'r ugain mlynedd). Arnodiad, yn ôl pob tebyg yn llaw Hywel Gealy Rees wrth y gerdd 'Dŵr' gan Hannah Roberts: 'Cerdd fuddugol gan Hannah Roberts' (ni enwir y gystadleuaeth).
= Photocopied Welsh poetry which relates to Llangyndeyrn's 'fight for victory', comprising: 'Sir Gaerfyrddin (Cân deyrnged i Lywydd Plaid Cymru ar ei ethol yn Aelod Seneddol)' ['Carmarthenshire (Song in tribute to the Leader of Plaid Cymru [Gwynfor Evans] on his election as Member of Parliament)'] by Gwenallt (from Y Coed (Gomer Press, 1969); 'Cwm Cymwynas' ['Favour Valley'] by Mererid Hopwood; 'Dathlu 50 Mlynedd Achub Llangyndeyrn' ['Celebrating 50 Years Since the Saving of Llangyndeyrn'] by Tudur Dylan; 'Llangyndeyrn' by Arwel John; 'Y Frwydr' ['The Battle'] by Idris Reynolds; 'Pentref (i bobol Llangyndeyrn)' ['Village (to the people of Llangyndeyrn)'] by Iolo Jones; 'Y Frwydr' ['The Battle'] by Geraint Roberts (published in Beirdd Bro Eisteddfod Sir Gâr (ed. Geraint Roberts) (Barddas Publications, 2014)); 'Llangyndeyrn' by the Reverend W. M. Rees (see note in main section of archive); 'Dŵr' ['Water'] by Hannah Roberts; and 'Bro Fy Mebyd' ['My Birthplace'] by W. T. Thomas. 'Cwm Cymwynas', 'Dathlu 50 Mlynedd Achub Llangyndeyrn' and 'Llangyndeyrn' (Arwel John) were published in Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 by W. M. Rees (Y Lolfa, 2013) (see note in main section of archive). 'Y Frwydr' was the winning englyn (four-line strict-metre verse) in a competition between poets of the Gwendraeth and Tryweryn Valleys, chaired by the award-winning poet Tudur Dylan, to celebrate the half-centenary of Llangyndeyrn's 'fight for victory' in 2013. Annotation, probably in the hand of Hywel Gealy Rees, alongside the englyn 'Pentref (i bobol Llangyndeyrn)' by Iolo Jones (trans.): 'Iolo Jones Y Talwrn [poetic competition] Radio Cymru'. 'Llangyndeyrn' by the Reverend W. M. Rees was published in Cloi'r Clwydi (pub. Llangyndeyrn Welfare Society, 1983) (see under Twentieth anniversary celebrations). Annotation, probably in the hand of Hywel Gealy Rees, alongside 'Dŵr' by Hannah Roberts (trans.): 'Winning poem by Hannah Roberts' (competition not specified).

Cyfarfod Dathlu Llwyddiant Trigolion Llangyndeyrn = Meeting to celebrate Llangyndeyrn residents' success

Taflen brintiedig Cyfarfod Dathlu Llwyddiant Trigolion Llangyndeyrn yn erbyn Corfforaeth Abertawe a gynhaliwyd yn Neuadd yr Eglwys, Llangyndeyrn, 14 Awst 1965. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parchedig W. M. Rees. = Printed leaflet giving details of a meeting to celebrate the success of Llangyndeyrn's residents in their campaign against Swansea Corporation, to be held in the church hall, Llangyndeyrn, 14 August 1965. The Reverend W. M. Rees participated in the meeting.

Cyfarfod sefydlu'r Parchedig W. M. Rees = Founding meeting of the Reverend W. M. Rees

Llungopi o glawr blaen taflen wasanaeth Cyfarfod Sefydlu'r Parchedig W. M. Rees, a oedd eisioes yn weinidog Capel y Tabernacl (Bedyddwyr) Pontyberem, fel gweinidog hefyd ar Gapel Bethel (Bedyddwyr) Llangyndeyrn, 19 Medi 1956. = Photocopied front cover of the service sheet used at the Founding Meeting of the Reverend W. M. Rees, who was already minister of the Tabernacle Baptist chapel at nearby Pontyberem, as minister also of Bethel Baptist Chapel, Llangyndeyrn, 19 September 1956.

Dathlu'r deg mlynedd ar hugain = Thirtieth anniversary celebrations

Rhifyn Tachwedd 1993 o Bapur y Cwm, sef papur bro ardal Pontyberem, sy'n cynnwys erthyglau'n nodi deg mlynedd ar hugain ers llwyddiant brwydr Llangyndeyrn. = November 1993 edition of the Pontyberem and district community paper Papur y Cwm, which contains articles noting the thirtieth anniversary of Llangyndeyrn's 'fight for victory'.

Dathlu'r deugain mlynedd = Fortieth anniversary celebrations

Taflen brintiedig ar gyfer Noson o Fawl a gynhaliwyd yng Nghapel Bethel (Bedyddwyr) Llangyndeyrn, 30 Tachwedd 2003, i ddathlu deugain mlynedd ers llwyddiant brwydr trigolion y pentref yn erbyn Corfforaeth Abertawe. = Printed leaflet for an Evening of Praise to be held at Bethel Baptist Chapel, Llangyndeyrn, 30 November 2003, to celebrate forty years since the villagers' successful campaign against Swansea Corporation.

Dathlu'r hannercanmlwyddiant = Celebrating the half-centenary

Deunydd yn ymwneud â digwyddiadau i ddathlu hannercanmlwyddiant brwydr Llangyndeyrn yn erbyn Corfforaeth Abertawe, oedd yn cynnwys rhaglenni teledu, sioe gerdd a chyhoeddiad llyfr i gofnodi'r achlysur, ynghyd â rhaglen o weithgareddau lleol. = Material relating to events celebrating the half-centenary of Llangyndeyrn's 'fight for victory' against Swansea Corporation, which included television programmes, a stage musical and the publication of a commemorative book, together with a programme of local events.

Dathlu'r ugain mlynedd = Twentieth anniversary celebrations

Llungopi o doriad o Bapur y Cwm, sef papur bro ardal Pontyberem, Hydref 1983, yn adrodd hanes digwyddiadau'r dathlu ar 22 Hydref y flwyddyn honno i nodi ugain mlynedd ers llwyddiant ymgyrch trigolion Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach yn erbyn Corfforaeth Abertawe (gweler ffotograffau a drosglwyddwyd i Adran Raffig LlGC (gweler nodyn ym mhrif weithlen yr archif); gweler hefyd Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965, tt. 155-6). Ynghyd â llungopi o daflen yn nodi dyddiadau pwysig yn hanes y frwydr fel rhan o raglen y dathliadau a gymerodd le ar 22 Hydref 1983; a llungopi o glawr blaen y gyfrol Cloi'r Clwydi, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Les Llangyndeyrn ym 1983, eto i ddathlu ugain mlynedd ers llwyddiant brwydr Llangyndeyrn.
= Photocopy of a cutting from Pontyberem and district community paper Papur y Cwm, October 1983, containing a report of the twentieth anniversary events held on 22 October that year to celebrate the success of Llangyndeyrn and Gwendraeth Valley's residents against Swansea Corporation (see photographs transferred to NLW's Graphic Department (see note in main section of archive); see also Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965, pp. 155-6). Together with photocopy of leaflet noting important dates in the history of the 'fight for victory' as part of the programme of celebratory events which took place on 22 October 1983; and photopied front cover of the book Cloi'r Clwydi, published by Llangyndeyrn Welfare Society in 1983, also in celebration of Llangyndeyrn's campaign success.

'Dechrau Canu, Dechrau Canmol'

Rhaglen brintiedig 'Cymanfa Ddathlu', i'w chynnal yn Eglwys Sant Cyndeyrn, Llangyndeyrn, 27 Hydref 2013, ar gyfer rhaglen S4C 'Dechrau Canu, Dechrau Canmol' i ddathlu hannercanmlwyddiant llwyddiant brwydr Llangyndeyrn. = Printed programme of a 'Celebratory Community Singing Festival' to be held in St Cyndeyrn's Church, Llangyndeyrn, 27 October 2013, for the S4C programme of hymn-singing 'Dechrau Canu, Dechrau Canmol' as part of the half-centenary celebrations to commemorate Llangyndeyrn's 'fight for victory'.

Dyddiadau a digwyddiadau nodedig = Notable events and anniversaries

Deunydd yn ymwneud â digwyddiadau a dyddiadau nodedig yn hanes brwydr trigolion Llangyndeyrn yn erbyn Corfforaeth Abertawe, sy'n cynnwys y mynych ddigwyddiadau lleol a chyfryngol i gofnodi hannercanmlwyddiant llwyddiant y frwydr. = Material relating to notable events and anniversaries in the history of the residents of Llangyndeyrn's battle against Swansea Corporation, which includes the many local and media events which took place to mark the half-centenary of their victorious stand.

Llyfrau

Llungopïau o dudalennau cyfrolau sy'n cynnwys hanes brwydr Llangyndeyrn, sef Stori Cymru: Hanesion a Baledi gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2014); Yr Argae Haearn gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2016, ynghyd â llungopi o erthygl berthnasol yn y cylchgrawn Golwg); a Brwydrau dros Gymru gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2017). = Photocopied pages from books which include the history of Llangyndeyrn's battle for victory, the titles comprising: Stori Cymru: Hanesion a Baledi by Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch Press, 2014); Yr Argae Haearn by Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch Press, 2016, together with a photocopy of a related article from the periodical Golwg); and Brwydrau dros Gymru by Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch Press, 2017).

Llyfrau = Books

Deunydd yn ymwneud â llyfrau oddieithr Sefyll yn y Bwlch (2013) (gweler dan Dathlu'r hannercanmlwyddiant: Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 (llyfr)) a Cloi'r Clwydi (1983) (gweler dan Dathlu'r ugain mlynedd) sy'n cynnwys hanes brwydr Llangyndeyrn. = Material relating to books other than Sefyll yn y Bwlch (2013) (see under Celebrating the half-centenary: Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 (book)) and Cloi'r Clwydi (1983) (see under Twentieth anniversary celebrations ) which include the history of Llangyndeyrn's 'fight for victory'.

Llythyrau at y Parchedig W. M. Rees = Letters to the Reverend W. M. Rees

Llythyrau a anfonwyd at y Parchedig W. M. Rees yn cefnogi safiad trigolion Llangyndeyrn yn erbyn Corfforaeth Abertawe. Y gohebwyr yw'r beirniad, gwleidydd a'r dramodydd Saunders Lewis, y bardd, nofelydd a'r gweinidog Bedyddwyr Rhydwen Williams, y cenedlaetholwr a'r gwleidydd Gwynfor Evans a'r awdur, adolygydd a'r seiciatrydd Harri Pritchard-Jones. Yn atodol, ceir nodiadau printiedig yn cyfeirio at yr ohebiaeth a dderbyniodd W. M. Rees yn ystod cyfnod y frwydr, ynghyd â detholiad wedi'i atgynhyrchu o'r ohebiaeth honno (gweler hefyd Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965, tt. 140-153).
= Letters sent to the Reverend W. M. Rees in support of Llangyndeyrn residents in their stand against Swansea Corporation. The correspondents comprise the adjudicator, politician and dramatist Saunders Lewis, the poet, novelist and Baptist minister Rhydwen Williams, the nationalist and politician Gwynfor Evans and the author, reviewer and psychiatrist Harri Pritchard-Jones. Supplementary material comprises printed notes referencing the correspondence received by W. M. Rees during the fight for victory, together with a reproduced selection of that correspondence (see also Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965, pp. 140-153).

Mewn Undod Mae Nerth (Sioe gerdd) = Mewn Undod Mae Nerth (Stage musical)

Deunydd yn ymwneud â'r sioe gerdd Mewn Undod Mae Nerth, a ysgrifenwyd gan Emlyn Dole ac a lwyfanwyd gan Gwmni Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth fel rhan o ddathliadau hannercanmlwyddiant llwyddiant brwydr Llangyndeyrn. 'Mewn Undod Mae Nerth' yw'r geiriau a gerfiwyd ar gofeb brwydr Llangyndeyrn (gweler, er enghraifft, Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965, tt. 155-6 a'r ffotograffau a drosglwyddwyd i Adran Raffig LlGC (gweler nodyn ym mhrif weithlen yr archif)) = Material relating to the stage musical Mewn Undod Mae Nerth ('Strength is in Unity'), written by Emlyn Dole and staged by Gwendraeth Valley Initiative Youth Theatre Company as part of the half-centenary celebrations marking the success of Llangyndeyrn's 'fight for victory'. The words 'Mewn Undod Mae Nerth' are carved on the memorial stone commemorating Llangyndeyrn's 'fight for victory' (see, for example, Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965, pp. 155-6 and photographs transferred to NLW's Graphic Department (see note in main section of the archive)).

Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 (llyfr) = Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 (book)

Deunydd yn ymwneud â chyhoeddi Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangynderyn 1960-1965 gan y Parchedig W. M. Rees (golygwyd gan ei fab, Hywel Gealy Rees) (Y Lolfa, 2013), cyfrol a lansiwyd yn neuadd yr eglwys, Llangyndeyrn ar 24 Hydref 2013 i nodi hannercanmlwyddiant llwyddiant trigolion Llangyndeyrn yn erbyn Corfforaeth Abertawe. Mae'r eitemau'n cynnwys yn bennaf ddatganiadau ac adolygiadau'r wasg, ynghyd â chopi printiedig o anerchiad y Parchedig Irfon Roberts, Aberteifi a draddodwyd mewn cyfarfod o Undeb Bedyddwyr Cymru ym Mynachlog-ddu, 2014. Ceir hefyd gyfeiriad at y rhaglen ddogfen Brwydr Llangyndeyrn, a ddarlledwyd ar S4C, 20 Hydref 2013 (gweler 'Brwydr Llangyndeyrn' (rhaglen deledu ddogfennol)).
= Material relating to the publication of Sefyll yn y Bwlch; Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 by the Reverend W. M. Rees (edited by his son, Hywel Gealy Rees) (Y Lolfa, 2013), which was launched at Llangyndeyrn church hall on 24 October 2013 to mark the half-centenary of the villagers' battle against Swansea Corporation. The items mostly comprise press releases and reviews, together with a printed copy of a speech delivered by the Reverend Irfon Roberts, Cardigan at a Baptist Union of Wales meeting in Mynachlog-ddu, Pembrokeshire in 2014. Together with a reference to the television documentary 'Brwydr Llangyndeyrn', which was broadcast on S4C, 20 October 2013 (see 'Brwydr Llangyndeyrn' (television documentary)

Torion mwy diweddar o'r wasg = More recent press cuttings

Torion mwy diweddar o'r wasg yn cofnodi digwyddiadau brwydr Llangyndeyrn, ynghyd ag allbrint o araith gan Jonathan Edwards, AS, aelod seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Hefyd copi o bapur Profion Darllen Cenedlaethol ar gyfer plant ysgol, sy'n cynnwys cwestiynau'n seiliedig ar ddetholiad o ddyddiadur plentyn o Langyndeyrn a ysgrifenwyd yn ystod cyfnod y frwydr.
= More recent press cuttings chronicling the events of Llangyndeyrn's 'fight for victory', together with a printout of a speech given by Jonathan Edwards, MP, member of parliament for Carmarthen East and Dinefwr. Also a copy of a National Reading Test paper for schoolchildren which includes questions based on an excerpt from the diary of a Llangyndeyrn child written during the fight for victory.

Results 1 to 20 of 23