'From Trelogan to New South Wales'.
- NLW ex 2284
- Ffeil
- 2003
Llungopïau o bapurau yn ymwneud ag ymchwil y rhoddwr i deulu a ymfudodd i Awstralia tua canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r deunydd yn cynnwys copi teipysgrif o lythyr wedi ei gyfieithu, 1856, a sgrifennwyd yn wreiddiol yn Gymraeg gan Sarah Jones, Aberaman, at ei phlant yn Awstralia, copïau o gerddi a sgrifennwyd gan 'Magpie', 11 Mai 1863, ac o gerddi wedi eu cyfieithu i Saesneg gan Richard Rees, Sydney, 1985, ac erthygl gan Cynthia Rees, Rhosllannerchrugog, yn olrhain hanes teulu a gyrfa Edward Edwards a aned yn Nhrelogan, Sir Fflint, yn dwyn y teitl 'From Trelogan to New South Wales', 2003.