Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru 1485-1603

Copïau llawysgrif a theipysgrif o Cyfnod y Tuduriaid 1485-1603. Ymddengys o wynebddalen y copi teipiedig (LH2/5) fod Bebb wedi cynnig, neu yn bwriadu cynnig, y gwaith mewn cystadleuaeth eisteddfodol. Fe gyhoeddwyd y gwaith yn Wrecsam yn 1939.

Cyfraniadau ariannol yr aelodau

Cyfrolau yn nodi enwau a chyfraniadau ariannol aelodau Capel Newydd Llanddarog tuag at gronfeydd yr offrwm, adeiladu, gwaddoli, a chronfeydd eraill. Nodir hefyd yn y cyfrolau daliadau a derbyniadau, 1900-1948, a bedyddiadau, marwolaethau a phriodasau, 1980-1995, a cheir taflenni ystadegol, 1970-1978, a mantolenni ariannol Cymdeithas y Capel a'r Ysgol Sul, 1970-1978 a 1982.

Cyfrifon a chytundebau

Cyfrol yn nodi swm y casgliad a thaliadau i weinidogion, 1855-1891, cyfrifon Cymdeithas y capel, 1870-1885, biliau adeiladwyr, 1903-1904, cytundebau'n ymwneud â'r capel a'r fynwent, 1926-1959, a chyfrifon y capel, yr Ysgol Sul a'r Gymdeithas, 1962-1982.

Cyfrifon amrywiol,

Llyfrau'r eisteddleoedd, 1864-1902, 1873-1934; 'Llyfr had yr Eglwys', 1902-1913; llyfrau casgliad y goleuni (pennau teuluoedd), 1907-1931; a llyfr casgliad y goleuni (ieuenctid), 1940-1978.

Canlyniadau 121 i 140 o 567