Dangos 318 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Eifion Wyn,
Rhagolwg argraffu Gweld:

EW at 'Gyfaill cu',

Dim amser ganddo i gyfieithu dim iddo - mae 'ceisiadau o bob math yn ymdywallt' ar ei ben. Yn dyfynnu ei gyfieithiad o'r gân 'Thanks be to God' [cf. rhif 12, f. 10]. 2 Ddrafft.

EW at J. H. [Jones],

Diolch am ei eiriau caredig. Nid yw'n hanner da - ond nid yw am farw eto! Gresyn na châi dreulio mis neu ddau yn ucheldir Eifionydd - dyna ei Afallon ef.

EW [at J. W. Jones, Blaenau Ffestiniog],

Yn cael ei lethu gan 'y cais yma a'r cais arall'. 'B' ['Bryfdir']. Eisteddfod Y Barri. Carneddog. Casgliad Bob Edmunds. Cyflwr y byd ar drothwy'r Nadolig. Gwilym Deudraeth.

EW [at M. Jones, Edern],

Yn danfon Telynegion Maes a Môr - oni chlywsai am y gyfrol o'r blaen? Manylion am y cerddi y ceir cerddoriaeth ar eu cyfer.

EW at 'Miss Cecilia' [Morgan],

Ganwyd ef ar yr ail o Fai - a hyd y gwyr ef mae'r delyneg i fis Mai yn gwbl wir! Da ganddo glywed iddynt gael blas ar ei lyfr - mae geirda plant Cymru yn bwysicach na dim iddo.

EW at 'R' [R. J. Rowlands, 'Meuryn'],

Gwendid corfforol. Wedi mwynhau'r ysgrif ar 'Berw'. Englyn Eisteddfod Yr Wyddgrug - Elfed yn rhy wan fel canolwr. Drama'r 'ysbryd' yn rhagorol. Yr Orsedd - ni all ddeall 'pleidgarwch' Meuryn iddi. Y 'tincera' a fu ar ei emynau.

EW at Silyn [Roberts],

Cyfieithiad Syr Francis Edwards o'r gerdd 'Merch yr Hafod'. Cyfrol Miss Ffoulkes. Loes iddo oedd clywed i SR ei 'fwrw allan' o'i ddarlith. Englynion a gaewyd allan o Gyfrol Goffa Hedd Wyn. Awdl goll Hedd Wyn ar y Dr Griffith John.

Canlyniadau 121 i 140 o 318