Nodiadau, [?1970au-80au], ar John Owen Jones ('Owen Bryngwyn', 1884-1972),
- 4.
- Ffeil
- [1970x1989].
Nodiadau, [?1970au-80au], ar John Owen Jones ('Owen Bryngwyn', 1884-1972),
Papurau amryw, 1930au-80au, yn ymwneud ag eisteddfodau, gan gynnwys tystysgrif enillydd, Eisteddfod y Golomen Wen, [Penbedw], 1936; ffotograffau a dynnwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Machynlleth, 1937; rhaglenni Eisteddfodau Cadeiriol Ystrad Fflur a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, 1970; lluniau o Eisteddfod Llangollen, [?1980au]; a phapurau yn ymwneud â Gorsedd y Beirdd, 1987.
Papurau amryw, 1933-1967, yn ymwneud ag eisteddfodau, yn enwedig Eisteddfod yr Urdd; mae'r papurau'n cynnwys nodiadau a thorion papur newydd, ynghyd â beirniadaethau ar gystadlaethau y bu Hugh Thomas Davies yn gysylltiedig â hwy, a gohebiaeth berthynol.
Papurau amryw, 1936-1969, yn ymwneud â Chymdeithas Cerdd Dant Cymru, gan gynnwys rhaglenni ysgolion haf a gwyliau cerdd dant, tocynnau aelodaeth, beirniadaethau cystadlaethau, a gohebiaeth.
Papurau amryw, 1944-87, o eiddo gwr Eunice Bryn Williams, R. Bryn Williams (1902-81), neu'n ymwneud ag ef a'i waith, gan gynnwys cytundebau cyhoeddwyr a manylion breindaliadau, gohebiaeth, rhestr testunau Eisteddfod Gadeiriol y Wladfa, 1966, a thorion papur newydd.
Papurau personol amryw, 1934-80au, yn adlewyrchu diddordebau a gweithgareddau Eunice Bryn Williams, gan gynnwys rhaglenni cyngherddau, tystysgrifau, a thorion papur newydd a lluniau.
Papurau personol Hugh Thomas Davies, 1888-1961, gan gynnwys nodiadau hunangofiannol, tystysgrifau sol-ffa ac Ysgol Sul, a thorion papur newydd, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol amdano, c. 1969, yn llaw ei ferch, Eunice Bryn Williams.
Papurau yn ymwneud ag ymweliad Eunice Bryn Williams a'i gwr, R. Bryn Williams, â'r Mod yn Oban, 1978, gan gynnwys nodiadau, lluniau, a rhaglenni.
Papurau, 1950au-80au, yn ymwneud â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, gan gynnwys rhaglenni cyfarfodydd, adroddiadau, manylion cystadlaethau, a nodiadau gan Eunice Bryn Williams ar hanes y Gymdeithas, ynghyd â theyrnged ganddi i'r Parchedig Emrys Cleaver (m. 1985).
Papurau, 1950au-80au, yn ymwneud â Chymdeithas Cerdd Dant Cymru, gan gynnwys ffotograffau o ysgolion haf, rhaglen a rhestr testunau yr wyl Cerdd Dant, y Bala a'r cylch, 1984; a nodiadau gan Eunice Bryn Williams ar hanes y Gymdeithas ers ei sefydlu yn 1934.
Rhaglenni cyngherddau o gerddoriaeth Gymreig,
Rhaglenni cyngherddau o gerddoriaeth Gymreig, 1939-1961.
Tystysgrifau Ysgol Sul Maggie Jones [?mam Eunice Bryn Williams], 1902; traethawd yn llaw Sydney J. Davies ar 'Gychwyniad Methodistiaeth yn Llansantffraid Glan Conwy', 1894, a nodiadau eraill ganddi; adroddiad Capel Bryn Ebenezer (MC), Glan Conwy, 1921-2, yn cynnwys crynodeb o hanes yr achos; torion papur newydd a deunydd printiedig amryw, 1932-1962.