Dangos 838710 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

52,

  • 52.
  • Ffeil
  • Llenyddiaeth Gymraeg - Barddoniaeth : Y Canu Rhydd hyd at ddiwedd y 19 ganrif.
  • Rhan oPapurau Euros Bowen

7 Ion. 1927.

'Cloc Mawr T? Brith', (gan Gwenith Gwyn?). Cyhoeddwyd yn bum pennod, rhwng 7 Ion. - 4 Chwefror, 1927. 11 Chwef. 'Sir Henry P. Maybury, K.C.M.G., C.B., Of The Ministry of Transport.' Pennill, 10 llinell, gan Gwenith Gwyn. 18 Chwef. 'Cydgerddai Twm o'r Nant, a Sion Parry, Llan Eilian, mewn mynwent, ac ebai Twm -. 'Mae yn mynwent, mewn mannau - yn llwybr traed,. Lle bu'r trwyn a'r genau;. Sathru'r beilchion brychion, brau,. Wna byw-ddyn yn eu bedau.'. Atebodd Sion -. 'Ti sathrwr, baeddwr beddau - hyd esgyrn. O! dod ysgafn gamau;. A chofia hyn, briddyn brau,. Y dwthwn sethrir dithau.'. 18 Mawrth. 'Prifddinas Cymru'. Apel rymus am brifddinas i Gymru a'r rhesymau dros ddewis Caerdydd. Yn yr un rhifyn ceir crynodeb Saesneg o erthygl Gwenith Gwyn: 'Metropolis of Wales. Brilliant Welsh Article by Gwenith Gwyn'. 25 Mawrth. 'Creu Hynod'. Nodyn:. 'Ym mhlwyf Llansilin, Sir Ddinbych, plwyf yn ymylu ar Loeger, credir yr iacheir unrhyw un a flinir a gwddf mawr (goitre), os yr â i dy menyw a fyddo newydd fawr, ac y tynn law y corff ol a blaen, dros ei gwddf mawr. O wneud hynny, gwywa, a diflanna y chwaren chwyddedig yn fuan. Rhaid fod gwraidd y goel hon yn mynd yn ol i gyfnod cyn-hanes, a diddorol a fyddai gwybod a yw yn ffynnu mewn rhyw blwyf neu ardal arall.'. 8 Ebrill. 'Y Gannwyll Frwyn'. Nodyn:. 'Hen enw y Gannwyll Frwyn yn Sir Aberteifi oedd Ysport Pen Blewyn. Fel hyn y canodd Ieuan Brydydd Hir i'r math yma o gannwyll:. Gennyf nid oes un gannwyll - heno. Mi hunaf rhag gorphwyll;. Ysport yw yspario twyll,. Y berw yma a bair anhwyll.'. 'Hen Benhillion'. (Chwe phennill). 15 Ebrill. 'Hen Benhillion o waith Edward Morus, Perthi Llwydion, Cerrig y Drudion, Sir Ddinbych, yr hwn a fu farw yn Essex, yn y flwyddyn 1689.'. Mae llawer afal ar frig pren,. A melyn donnen iddo;. Ni thal y mwydion dan ei groen. Mo'r cymryd poen i'w ddringo;. Hwnnw fydd cyn diwedd Ha,. Debyca a siwra o suro. ........................... Mae'r coedydd yn glasu,. Mae'r meillion o'n deutu,. Mae dail y briallu. Yn tyfu mhob twyn;. A'r adar diniwed,. Yn lleisio cyn fwyned,. I'w clywed, a'u gweled,. Mewn gwiwlwyn. .......................... Mi af oddiyma i'r Hafod Lom. Er bod hi'n drom o siwrne;. Ac mi gaf yno ganu cainc. Ac eistedd ar fainc y simdde;. Ac ond odid dyna'r fan. Y byddaf tan y bore.

Canlyniadau 181 i 200 o 838710