- 47.
- Ffeil
- 1849.
Copi o R. H. Prichard, Cyfaill i'r Cantorion Rhan I (gw hefyd rhif 41 uchod), yn dwyn llofnod 'David Evans, draper, Llansanffraid 1849'.
Copi o R. H. Prichard, Cyfaill i'r Cantorion Rhan I (gw hefyd rhif 41 uchod), yn dwyn llofnod 'David Evans, draper, Llansanffraid 1849'.
Darnau cerddoriaeth yn llaw Eunice Bryn Williams, [?1960au-80au], gan gynnwys emyn-donau, alawon gwerin a gosodiadau cerdd dant, mewn hen nodiant a sol-ffa.
Ffotograffau amryw, [?1930au-50au], nifer ohonynt wedi eu tynnu gan Hugh Thomas Davies, gan gynnwys lluniau o'r teulu, o aelodau'r Gymdeithas Cerdd Dant, a rhai a dynnwyd mewn eisteddfodau.
Gohebiaeth bersonol, 1919-1967, ynghyd â rhai drafftiau neu gopïau o lythyrau oddi wrth Hugh Thomas Davies. Ymhlith y gohebwyr y mae John Breese Davies (33/8-9, 13, 15, 20, 33); T Rowland Hughes (33/29); Llyfni Huws (33/3, 6, 51, 53, 62); Robert William Jones, 'Erfyl Fychan' (33/11, 17, 21, 23, 36); Watkin Jones, 'Watcyn o Feirion' (33/42, 54); Alwena Roberts, 'Telynores Iâl' (33/55).
Gosodiadau cerdd dant, 1913-67, gan Hugh Thomas Davies, mewn hen nodiant a sol-ffa, nifer helaeth ohonynt wedi eu cyfansoddi ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol a gwyliau cerdd dant. Cynnwys ffeil 17 restr o osodiadau Hugh Thomas Davies.
Llyfr tonau ?A J Williams, Caernarfon, [ail hanner y 19eg ganrif], yn cynnwys emyn-donau,
Llyfr tonau Evan Lewis, Llansanffraid [Glan Conwy, mab John Lewis, perchennog rhifau 37-9 uchod], 1851, yn cynnwys anthemau a chaneuon dirwestol.
Llyfr tonau John Williams, Ty Du, Llansanffraid Glan Conwy, [mab William Williams, perchennog rhif 40], d.d., yn cynnwys emyn-donau; wedi ei rwymo gyda chopi o R. H. Prichard, Cyfaill i'r Cantorion Rhan I (Llanidloes, 1844).
Llyfr tonau, [c. 1840au], dim enw, yn cynnwys emyn-donau ac anthemau,
Llythyrau, 1953-90au, at Eunice Bryn Williams; ymhlith y gohebwyr y mae'r Fonesig Eurys M Edwards (12/45); Ifano Evans, Chubut (12/5); Alwyn Humphreys (12/23); Yr Athro Ian Parrott (12/3,22,32); Hywel D Roberts (12/19); W. S. Gwynn Williams (12/61).
Nodiadau amryw ar gerddoriaeth, 1940au-80au,
Nodiadau, 1960au-70au, ar alawon gwerin Cymreig ac ar Maria Jane Williams, Aberpergwm, ynghyd â llungopi o lawysgrif gan y Fonesig Herbert Lewis, yn cofnodi caneuon gwerin a gasglwyd ganddi, 1910-1911.
Nodiadau, [1970au-80au], ar gyfer darlithoedd ac anerchiadau ar bynciau cerddorol,