Dangos 12 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Alawon carolau (v-vi)

Mae’r ffeil yn cynnwys dau focs mynegai Phyllis Kinney (1 llwyd ac 1 coch) wedi eu trefnu A-F (ff.1-248), G-Y (ff.249-524). Maent yn nodi enw'r alaw, enw'r llawysgrif, ac yn cynnwys hen nodiant, a nodiadau.

'Alawon Fy Ngwlad', Nicholas Bennett (x-xi)

Mae’r ffeil yn cynnwys dau focs mynegai (coch a glas) yn nodi’r alawon sydd yn ‘Alawon Fy Ngwlad’ Nicholas Bennett wedi trefnu fesul alaw A-M (ff. 1-332), N-Y (333-533). Nodir rhif y gyfrol a'r dudalen, teitl y gân, fersiwn sol-ffa, a chyfeiriad at lawysgrifau.

Cyfeiriadau at RM= Llawysgrif Richard Morris o Gerddi, 1931 gan T.H. Parry-Williams. Ar y cefn ceir gwybodaeth wahanol ac ymddengys eu bod yn ail ddefnyddio cardiau mynegai alawon Saesneg.

Casglodd Nicholas Bennett dros 700 o alawon Cymreig, a chyhoeddwyd 500 ohonynt mewn dwy gyfrol yn 1896, o dan yr enw Alawon fy Ngwlad , wedi eu dewis a'u trefnu gan Emlyn Evans; yn y llyfr ceir darluniau a bywgraffiadau o delynorion a chantorion gyda'r tannau , a nodiadau eglurhaol ar y dull o ganu gyda'r tannau

Caneuon gwerin (i-iv)

Mae’r ffeil yn cynnwys pedwar bocs mynegai Phyllis Kinney (2 goch a 2 lwyd) wedi eu trefnu A-E (ff.1-371), F-M (ff. 372-742), N-W (ff. 743-972), Y (ff. 973-1229). Maent yn nodi teitl, llinell gyntaf, enw lle, a’r ffynonellau lle cafwyd y caneuon (ceir allwedd i’r byrfoddau ar ddechrau bocs 1).

Cardiau mynegai

Cardiau mynegai cerddoriaeth draddodiadol Cymru wedi eu trefnu yn Ganeuon gwerin; Alawon carolau; Geiriau carolau (Meredydd Evans); Geiriau carolau (pynciau); Hwiangerddi; 'Alawon Fy Ngwlad', Nicholas Bennett; Mari Lwyd; 'Welsh Folk Song', J. Lloyd Williams; 'Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru', J. Lloyd Williams.

'Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru', J. Lloyd Williams (xiv)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs cardiau mynegai glas (ff. 1-119) gan Merêd, gydag ystadegau ynghylch ffynonellau caneuon / alawon yng Nghylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru [I-IV: (i)] yn ystod golygyddiaeth John Lloyd Williams. Trefnwyd fesul Cyfrol I-IV i fyny at Cyfrol IV Rhan 1 sef y rhifyn olaf a olygwyd gan J Lloyd Williams. Ceir cyfeiriadau at ganorion (e.e. John Morris a R. E. Vaughan), unigolion (e.e. Grace Gwyneddon Davies, Ruth Lewis, J Lloyd Williams a Phillip Thomas) a chasgliadau.

Geiriau carolau (Meredydd Evans) (vii)

Mae’r ffeil yn cynnwys bocs mynegai coch Meredydd Evans gyda manylion am ffynonellau carolau (carolau Nadolig - gan amlaf ) wedi eu trefnu A-Y (ff. 1-294). Nodir y pennill cyntaf , y ffynhonnell a’r dyddiad weithiau, ac mae’n cynnwys llyfryddiaethau.

Geiriau carolau (pynciau) (viii)

Mae’r ffeil yn cynnwys bocs mynegai gwyrdd wedi eu trefnu A-Z (ff. 1-156) fesul pwnc (ac nid alawon). Amryw nodiadau ar garolau ac ati a’r gwahanol fathau o achlysuron ar gyfer canu carolau. Penawdau yn cynnwys Brithwaith Gwilym Pue, Buchedd Meir Wyry, Brodyr crefyddol, Carolau Nadolig dan bared, Cerddi rhydd cynnar D Lloyd Jenkins, Halsing, Llenyddiaeth Gymraeg y 14G, Madog ap Gwallter, Mair, Plygain a Phen croes Crist.

Hwiangerddi (ix)

Mae’r ffeil yn cynnwys bocs mynegai glas ar yr Hwiangerddi sydd mewn pedwar cyhoeddiad y cyfeirir atynt fel (HH, HW, HC, YH). Trefnwyd fesul hwiangerdd A-Y (ff. 1-342) gan nodi enw'r hwiangerdd, y cyhoeddiad a rhif tudalen, brawddeg gyntaf yr hwiangerddi ac weithiau’r pennill cyfan.
Y pedwar cyhoeddiad y gyfeirir atynt yw:
HH - J. Ceiriog Hughes, ‘Hen Hwian-gerddi’, Oriau’r Haf (Wrecsam: Hughes a’i Fab, [1870]),
HW - Hwiangerddi'r Wlad (Eluned Bebb) Llyfrau'r Dryw. Gorff 1942.
HC - Hwian Gerddi Cymru Casglwyd gan Owen M Edwards, Argraffwyr R E Jones a'i frodyr Conwy (120 o eitemau) Darluniau gan Winifred Hartley (Lowri Wynn) Llanuwchllyn Ac Owen.
YH - Yr Hwiangerddi casglwyd gan Owen M Edwards . Edwards, O. M. (1911), Yr Hwiangerddi (Llanuwchllyn: Ab Owen).

Mari Lwyd (xii)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs mynegai gwyrdd (ff. 1-320) a ddefnyddiwyd gan Phyllis Kinney o bosibl ar gyfer ei chyhoeddiad Welsh Traditional Music (2011) yn trafod arferion Mari Lwyd, Hela'r Dryw, a chalennig. Mae’r penawdau wedi eu trefnu yn ôl gwlad (Irish, Manx, Shetland, Orkneys, Scotland, England, Wales) ac yn cynnwys y penawdau Cyfri’r geifr, Gŵyl Fair, Hela’r Dryw / Hunting the Wren, Shrove Tuesday, Tri thrawiad, Un o fy mrodyr i, Calennig, Mari Lwyd, a Compass of 3/4/5/6/7.

Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney

  • GB 0210 MERLIS
  • Fonds
  • [1940x2015]

Mae’r archif yn cynnwys papurau ymchwil cerddorol, yn bennaf yn ymwneud â chanu gwerin; sgriptiau radio a theledu; cyfieithiadau a chyfansoddiadau cerddorol (trosglwyddwyd tapiau gweledol a sain i AGSSC); llythyrau at Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a chopïau o lythyrau oddi wrthynt, 1956-2015; a phapurau’n ymwneud â diddordebau Meredydd Evans ym meysydd athroniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ynghyd â dogfennau’n ymwneud â’i ran mewn ymgyrchoedd tros yr iaith Gymraeg, yn arbennig felly ym maes darlledu.

Evans, Meredydd

'Welsh Folk Song', J. Lloyd Williams (xiii)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs mynegai coch gan Merêd ar ‘Welsh Folksongs in the J Lloyd Williams Collection’ wedi eu trefnu A-Z (ff. 1-52). Mae’n cynnwys gwybodaeth am enw’r alaw, a gyhoeddwyd y gwaith ai peidio, ble cyhoeddwyd, ffynhonnell, geiriau a nodiadau eraill.

Bu Merêd yn gwneud llawer o waith ymchwil ar archif J Lloyd Williams (1854-1945) sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol: https://archives.library.wales/index.php/dr-j-lloyd-williams-music-mss-and-papers-2