Dangos 39 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent
Rhagolwg argraffu Gweld:

Archfarchnadoedd

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o archfarchnadoedd yng Nghymru yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1996-1997); a nifer fach o dorion o’r wasg.

Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent

  • GB 0210 CYMIAITHMORGWE
  • Fonds
  • 1984-2007

Papurau, 1984-2007, Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ranbarth Morgannwg Gwent, yn cynnwys gohebiaeth, datganiadau i’r wasg, nodiadau, a thorion o’r wasg, yn ymwneud â gweithredu polisi iaith Gymraeg fewn siopau, busnesau, a chwmniau preifat yn ardal Morgannwg Gwent. Mae rhan fwyaf o’r papurau yn deillio o Gell Caerdydd y Gymdeithas.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent

Arwyddion Treganna

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a deunydd printiedig, 1989-2007. Mae’r ohebiaeth rhwng Cymdeithas Yr Iaith, Cyngor Dinas Caerdydd, y Bwrdd Croeso Cymru, a nifer o westai lleol Caerdydd, yn trafod y defnydd o arwyddion dwyieithog yng Nghaerdydd. Mae’r deunydd printiedig yn ymwneud â gweithgareddau Cyngor Dinas Caerdydd, sy’n cynnwys rhestrau o gynghorwyr Dinas Caerdydd; manylion cyfarfod Gweithgor y Polisi Dwyieithog; copi o Gynllun Iaith Gymraeg Awdurdod Tân De Cymru; copi o Gyngor Dinas Caerdydd ‘Report 1991’; copi o’r ‘South Glamorgan Review’ (1989-1990); llawlyfrau Gwasanaethau Cymdeithas Tai; a thaflenni Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd. Yn ychwanegol, mae’r ffeil yn cynnwys nifer fach o ffotograffau.

Asiantwyr Tai a Chyfrifwyr Siartredig

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau, 1989-1999, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith a’i Grŵp Diwylliant; llyfrgelloedd Caerdydd; asiantwyr tai; a chyfrifwyr siartredig, yn ymwneud â statws yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglennu radio a cherddoriaeth; datganiad i’r wasg; copi o’r Llawlyfr Deddf Eiddo; a nifer o ffotograffau.

Colegau

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1988-1997, yn trafod polisïau iaith Gymraeg o fewn sefydliadau addysgol yng Nghaerdydd. Mae’n cynnwys gohebiaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a'r Swyddfa Gymraeg; y Gymdeithas Myfyrwyr De-ddwyrain Cymru; Coleg Cerdd a Drama Cymru; Coleg Glan Hafren; Coleg Castell Nedd; a Phrifysgol Morgannwg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o’r Cynllun Iaith Gymraeg (1997) Cyngor Hyfforddi a Menter Morgannwg Canol; copi o adroddiad interim ‘Cwricwlwm Cenedlaethol Y Gweithgor Cymraeg’ (1988); datganiad i’r wasg (1989); a chopi o Gynllun Strategol y Coleg Cerdd a Drama Cymru (1990).

Country Casuals; C & A; Union Burger; Clarks; Dixons; Fosters; BHS; Bodyshop; Boots; Benetton

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1984-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a busnesau lleol yng Nghaerdydd, yn trafod polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys posteri Cymdeithas yr Iaith; nifer o ddatganiadau i’r wasg (1992-1997); a chofnodion cyfarfod (1989-1993).

Canlyniadau 1 i 20 o 39