Dangos 40 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,

  • GB 0210 OMELLYF
  • fonds
  • [1867]-[1945].

Llyfrau o lyfrgelloedd Syr Owen Morgan Edwards (1858-1920) a Syr Ifan ab Owen Edwards (1895-1970), [1867]-[1945], yn cynnwys llythyrau neu lofnodion yr awduron. Y mae'r mwyafrif ohonynt yn perthyn i O. M. Edwards.

Llythyr dyddiedig 12 Gorff. [19]07 oddi wrth yr awdur 'Cybi' (Robert Evans) mewn copi o'i gyfrol Ardal y Cewri - ....

Llythyr dyddiedig 12 Gorff. [19]07 oddi wrth yr awdur 'Cybi' (Robert Evans) mewn copi o'i gyfrol Ardal y Cewri - Enwogion Plwyf Llangybi a'r Cylch ... (Pwllheli, 1907). Mae'n cyflwyno'r llyfr gan obeithio cael adolygiad arno yn Cymru. Argraffwyd 500 copi. Gofynnir am farn y derbynnydd ar gasgliad o emynau yn dwyn y teitl 'Adlais y Diwygiad'.

Llythyr dyddiedig 20 Mawrth 1908 o Llywel, Aberystwyth, oddi wrth y cyfansoddwr David Jenkins Mus. Bac. (Cantab.) mewn copi o'i ....

Llythyr dyddiedig 20 Mawrth 1908 o Llywel, Aberystwyth, oddi wrth y cyfansoddwr David Jenkins Mus. Bac. (Cantab.) mewn copi o'i waith Llyn y Morwynion (The Maiden's Lake - Dramatic Cantata (Aberystwyth, [1908]). Y cyfansoddwr yn anfon copi o'i waith newydd sydd i'w berfformio yn Eisteddfod Llangollen [Y Genedlaethol, 1908]. Testun wedi ei seilio ar eiriau gan 'Glasynys' a [J. T.] Job. Cred y cyfansoddwr mai hwn yw ei waith mwyaf Cymreig eto a byddai'n fraint ganddo weld y derbynnydd yn y perfformiad cyntaf.

Llythyr dyddiedig 20 Rhag. 1926 o 21 New Road, Rhydaman, yng nghyfrol Nantlais (William Nantlais Williams), Murmuron Newydd [Rhydaman, 1926] ....

Llythyr dyddiedig 20 Rhag. 1926 o 21 New Road, Rhydaman, yng nghyfrol Nantlais (William Nantlais Williams), Murmuron Newydd [Rhydaman, 1926]. Y mae'n gofyn i'r derbynnydd roi sylw i'r gyfrol yn Cymru neu Cymru'r Plant. Cydnabod fod un gerdd wedi ymddangos yn Cymru. Cyfarchion tymhorol.

Canlyniadau 1 i 20 o 40