Dangos 296 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Anthropos
Rhagolwg argraffu Gweld:

[--],

Pentraeth. Mae'n ddiolchgar i RDR am ei sylwadau caredig. Y mae ganddo daith wedi'i threfnu ar ei gyfer o Fiwmares drwy Langoed, Penmon, Llanfaes, Llanddona ac yn ôl heibio Traeth Coch. Gall drefnu taith i Ynys Seiriol mewn cwch hefyd os dymunir i weld y gwyddonwyr sydd yno fel meudwyaid. Anghyflawn.

A. Wellesley Jones,

Prestatyn. Llongyfarch RDR ar gael ei ddewis yn un o ffafrwyr y Brenin. Cerdyn post.

'Alafon', [O. G. Owen],

Cwm-y-glo. Mae'n diolch am y geiriau caredig yn 'Y Golofn Lenyddol'. Clywodd bod RDR a'i wraig wedi bod yn Môn ond ni wyddai sut i gysylltu ag ef yno.

Anthony Bevin,

Llundain. Mae'n gofyn a fyddai RDR yn fodlon derbyn codiad o ddeg punt yn ei Bensiwn Sifil gan fod y cwestiwn a ddylid cynyddu'r blwydd-dâl, o dan ystyriaeth. Teipiedig. Saesneg/English.

Anthony Bevin,

Llundain. Mae'n bosib y bydd RDR yn derbyn mwy o bensiwn os y gall brofi ei fod mewn sefyllfa ariannol helbulus. Teipiedig. Saesneg/English.

Anthony Bevin,

Llundain. Mae ar ddeall nad yw RDR wedi ymgeisio am y Pensiwn Rhestr Sifil Atodol a ddyfarnwyd iddo ym mis Mawrth. Teipiedig. Saesneg/English.

['Anthropos'], R. [D.] Rowland at ei dad,

Rhosymedre. Mae'n hysbysu ei dad ei fod yn iach ond yn hiraethu am ei weld. Mae wedi cyfansoddi tri o benillion iddo ac yn gofyn am feirniadaeth yn ôl. Mae'n cynnwys pennill hefyd i 'Llugwy' [Y Parchedig Robert Llugwy Owen, (1836-1906)].

['Anthropos'], R. [D.] Rowland at ei rieni,

Amwythig. Mae'n dweud bod ganddo het bellach ond fe fyddai'n ddiolchgar am swllt neu ddau. Mae'n hoffi ei le fwyfwy ac yn cael gwell chwarae teg nag a gafodd yn Acrefair. Disgrifio tegwch tref Amwythig. Byddai'n dda ganddo glywed bod ei dad wedi ymuno ag eglwys Duw.

['Anthropos'], Robert [D. Rowland] at ei dad,

Bala. Dywed mai yr arholiad yw'r rheswm am ei ddistawrwydd. Mae dillad ei dad wedi cyrraedd ac y mae yn eu hanfon ato. Nid yw'n hoffi'r gôt. Mae hi'n rhy gwta iddo ac nid yw'r toriad yn gweddu iddo. Mae'n gobeithio bod ei dad yn hoffi Manceinion o hyd.

'Ap Llugwy', E. Lloyd Owen,

Cricieth. Mae ar ddeall bod RDR ar y pwyllgor sy'n llunio llyfr emynau newydd. Mae am dynnu ei sylw at Odlau Pumafon o waith ei ddiweddar dad.

Arglwydd Clwyd,

Ty'r Arglwyddi. Gwelodd hysbyseb yn The Times ac mae'n anfon ei longyfarchiadau.

Beriah [Gwynfe Evans],

Llangadog. Mae wedi addo y bydd libretto RDR yn ymddangos yn rhifyn Mai o'r cyfnodolyn Cyfaill yr Aelwyd.

Canlyniadau 1 i 20 o 296