Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

A. C. Cameron, Llundain,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ddarllediad a wnaethai'r bore hwnnw. Llwyddodd i gyfleu'r ddadl yngl?n ag ymwybyddiaeth genedlaethol Gymreig yn dda. Canmola W. J. Gruffydd am ymosod ar y myth sy'n bodoli yngl?n â'r Celtic twilight. Rhyfedda at y ffaith fod mwyafrif arweinwyr y Gwyddelod o dras Seisnig fel Yeats a Parnell. Mae llawer o'r bai ar Syr Walter Scott yn yr Alban am barhau'r myth. Bu'n aros yng Nghymru am ddeuddydd ar ei ffordd yn ôl o Iwerddon. Gwelodd ysgol yn sir Gaerfyrddin lle roedd plant o Lundain yn dysgu Cymraeg a'r Cymry yn cael gwersi Saesneg gan athrawon yr L.C.C.

[A. E. Jones] 'Cynan', Porthaethwy,

Yr oedd yn ddrwg ganddo glywed fod W. J. Gruffydd yn anhwylus ym Methel. Mae'n esbonio sut yr aethpwyd ymlaen gyda beirniadaeth y Goron er na dderbyniwyd beirniadaeth W. J. Gruffydd. Er pob ymdrech i gysylltu â W. J. Gruffydd methwyd â dod o hyd iddo. Gan fod Prosser Rhys a Chynan yn gytûn mai'r gwaith yn dwyn y ffugenw 'Aneirin' [Herman Jones, Deiniolen] oedd y gorau, fe aethpwyd ati yn unol â'r rheol ynghylch cytundeb dau feirniad, i gynnwys y beirniadaethau yn y gyfrol. Mae'n ofid nad yw W. J. Gruffydd yn cytuno ond nid yw'r ffaith honno yn newid dim ar farn Cynan.

[A. E. Jones] 'Cynan', Porthaethwy,

Y mae Cynan yn falch mai ato ef yr anfonodd W. J. Gruffydd ei brotest yn erbyn y rhan honedig a gymerodd yr Archdderwydd Crwys mewn seremoni yn Wessex pan wisgwyd tarw â garlantau barddol. Mae Cynan yn pwysleisio nad oedd a wnelo'r Orsedd ddim â'r peth. Yr adroddiad yn yr Evening News oedd y peth cyntaf a glywodd ef am y digwyddiad. Yr oedd hawl gan Crwys i dderbyn gwahoddiad personol i fynd yno ond nid oedd ganddo'r hawl i fynd â gwisg a theyrnwialen Archdderwydd Cymru o'r Amgueddfa Genedlaethol heb awdurdod Bwrdd yr Orsedd. Pan dderbyniodd Cynan y toriad gan gyd-swyddog ysgrifennodd at Crwys [ceir copi o'r llythyr yn atodiad i'r llythyr hwn] ond cadarnhau iddo fod yno a wnaeth Crwys yn hytrach na gwadu. Dywedodd na chymerodd ran yn nefod addurno'r tarw ac y bu iddo ymgynghori â'r Arwyddfardd cyn mynd. Yr oedd yr Arwyddfardd dan yr argraff mai dros Gyngor yr Eisteddfod yr âi Crwys ac nid fel unigolyn. Bwriada'r Arwyddfardd ysgrifennu i egluro hyn i Fwrdd yr Orsedd a chael Crwys i ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad. Teimla Cynan na ddylai W. J. Gruffydd grybwyll y mater yn Y Llenor. Pwyllgor Gwaith Cyngor yr Eisteddfod yw'r lle priodol i wneud hynny.

[A. E. Jones], 'Cynan', Porthaethwy,

Cafodd ei dristáu o ddarllen yn Y Llenor fod W. J. Gruffydd yn bygwth ymddeol o'r olygyddiaeth. Nid oes pynciau pwysicach na'r Eisteddfod a'r iaith yng ngolwg Cynan ac y mae'n annog W. J. Gruffydd i gadw ymlaen am ddwy flynedd ar bymtheg arall. Mae'n protestio yn erbyn tri chamosodiad a wneir gan W. J. Gruffydd yn ei nodiadau golygyddol [Y Llenor XVII (1938), tt. 1929-31]. Y mae'r cyhuddiadau i gyd yn ymwneud â dewis aelodau o'r Orsedd i feirniadu'r prif gystadleuthau yn yr Eisteddfod. Teimla y bydd raid iddo godi'r mater yn y Pwyllgor Gwaith brynhawn Gwener, onibai i W. J. Gruffydd fod yn barod i gywiro'r paragraff tramgwyddus.

[A. E. Jones], 'Cynan', Porthaethwy,

Yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor Gwaith y mae'n parhau i esbonio'r rheolau ynghylch beirniadu ac aelodau'r Orsedd yn yr Eisteddfod. Y mae'n amheus fod yna gorff mawr o feirdd cadeiriol a choronog sydd heb fod yn perthyn i'r Orsedd.

A. E. W. Hazel, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

Mynegi ei siom am na chafodd W. J. Gruffydd ei benodi'n brifathro Coleg y Brifysgol Caerdydd. Cafodd orchymyn i gyfarfod ag Arolygwr y Bwrdd Addysg yn y Bont-faen y dydd Mawrth canlynol. Gan ei bod yn anghyfleus iddo fynd yno y mae'n hyderu y gall W. J. Gruffydd fynd yno i ddiogelu buddiannau'r ysgol.

A. E. W. Hazel, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

Mae'n dymuno'n dda i W. J. Gruffydd yn is-etholiad Prifysgol Cymru. Mae'n amgau gwybodaeth am Neville L. Evans sy'n ei wrthwynebu yn yr etholiad gan ei fod yn gynfyfyriwr o Goleg yr Iesu. Y mae ei weithred yn gwrthwynebu W. J. Gruffydd yn haerllugrwydd o'r mwyaf.

A. E. W. Hazel, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am gopi o adroddiad Hansard ar ei araith yngl?n â'r Ddeddf Addysg. Mae'n hyderu y caiff y bobl iawn eu penodi i'r Cyngor Ymgynghorol Cymreig. Mae'n ymosod ar gefnogaeth W. J. Gruffydd i ymgais y Catholoigion i gael cefnogaeth y trethdalwyr i'w hysgolion. Nid oes achos gan W. J. Gruffydd i ofni'r Catholigion gan nad oes llawer ohonynt yn etholwyr posibl iddo.

A. E. W. Hazel, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

Mae'n cytuno bod angen help ariannol ar ysgolion arbrofol ond byddai'r gwelliant dan sylw yn gwneud dim llai na thalu am addysg 'uchel-enwadol'. Mae cynllun W. J. Gruffydd i gael arian i'r ysgolion arbrofol cystal â llosgi ty er mwyn rhostio mochyn. Mae'n rhyfeddu bod W. J. Gruffydd wedi cael ei ddal yn y fagl Gatholig hon.

A. Gwynn Jones, Capel Garmon,

Anfon tair cân i'r Llenor. Y mae dylanwad W. J. Gruffydd ar y cyfnod yn fwy nag y tybia. Y mae cynnwys Y Llenor yn gyfoethog. Wfft i'r 'Junior Member' a chriw ffals y Western Mail.

A. S. Thomas, Maesmynys,

Holi pa rai o gerddi W. J. Gruffydd, ar wahân i'r rhai yng nghyfrol A. P. Graves, sydd wedi eu cyfieithu i'r Saesneg. Mae newydd brynu Caneuon a Cherddi - ni ellir gwell. Bu'n darllen cyfrol Eifion Wyn, Telynegion Maes a Môr hefyd am y tro cyntaf. Mae'r cerddi hynny'n dda ond bod ansawdd gwaith W. J. Gruffydd gymaint gwychach. Hoffai wybod enw cyhoeddwr llyfr arall W. J. Gruffydd, sef Telynegion.

Albwm yn cynnwys cant o gardiau post, 1903-31, a ffotograffau teuluol, tua deugain o'r cardiau wedi eu hanfon gan W ...,

Albwm yn cynnwys cant o gardiau post, 1903-31, a ffotograffau teuluol, tua deugain o'r cardiau wedi eu hanfon gan W. J. Gruffydd at aelodau o'i deulu ym Methel, ger Caernarfon, tra'r gweddill wedi eu hanfon at W. J. Gruffydd, gan gynnwys rhai yn llaw R. W[illiams] P[arry], Rhys J. Huws, [T.] Gwynn [Jones], [R.] Silyn [Roberts] a [J.] Dyfnallt [Owen].

Alfred T. Davies, Llundain,

Mae'n falch iawn o glywed bod W. J. Gruffydd yn ymgymryd â'r gwaith o ysgrifennu cofiant i O. M. [Edwards]. Mae'n cynnig cynorthwyo trwy anfon nodiadau ar y gwrthrych.

Alice Huws Davies, Kew Gardens, Surrey,

Gofyn i W. J. Gruffydd ysgrifennu rhywbeth arall am ei gwr [Thomas Huws Davies] yn y Western Mail. Mae'n awgrymu iddo ddioddef cam yn ei waith gyda'r Eglwys yng Nghymru. Byddai wedi bod yn ddarlithydd Prifysgol da gan ei fod yn gallu ysbrydoli pobl ifanc. Mae'n gofyn iddo sôn rhywfaint am ei ddoniau fel ysgrifennwr. Yr oedd ysgolheigion wedi ei wneud yn ofnus o ysgrifennu yn Gymraeg. Y mae Alice Huws Davies wedi llafurio drwy'r blynyddoedd gydag ymdeimlad o rwystredigaeth. Yr oedd y Rhyfel yn hunllef iddo ac y mae hi'n falch ei fod wedi dianc rhagddo.

Alun [Llywelyn-williams], Caerdydd,

Mae'r awen wedi ailddeffro ynddo ac mae'n amgau cerdd i'r Llenor. ['Y Glöwr Diwaith', Y Llenor, cyf. XVI (1937), t. 200]. Mae rhai o fewn y BBC ac oddi allan i'r gorfforaeth yn bwriadu cyfarfod yn ystod y gaeaf i drafod pynciau o ddiddordeb mewn celfyddyd. Byddent yn hoffi cael cwmni W. J. Gruffydd. Dweud cymaint o bleser a gafodd wrth ddarllen cofiant O. M. Edwards. Cyfrol wirioneddol wych. Nodi un broblem yn y gerdd i'r Llenor. A oes angen defnyddio'r fannod o flaen 'Rhondda Fach'. Arferai feddwl fod defnyddio'r fannod o flaen enwau afonydd neu gwm, os defnyddid enw'r afon yn lle'r cwm, yn anghywir. Gwelodd T. J. Morgan yn y Llenor diwethaf yn ysgrifennu 'y Rhondda'. Mae'n hyfryd gweld adwaith R. Williams Parry at y digwyddiadau diweddaraf yng Nghymru. Byddai hynny'n rhywbeth o werth amhrisiadwy hyd yn oed os na ddaw dim lles arall o'r helynt.

Alun [Llywelyn-williams], Caerdydd,

Mae am drefnu 'Rhifyn Rhyddid' i'r Tir Newydd ym mis Tachwedd. Y syniad yw cael gwahanol ysgrifenwyr i fwrw golwg yn eu priod faes ar yr ymosod ar ryddid sydd eisoes ar gerdded drwy'r wlad. Gan fod pethau'n debyg o waethygu, yn enwedig os daw rhyfel, dylid ceisio rhyw foddion o wrthwynebu'r tueddiadau hyn yng Nghymru. Mae'r perygl yn waeth i Gymru am fod yr holl baratoadau ar gyfer rhyfel yn gwbl groes i'r hen draddodiadau ymneilltuol a radicalaidd ac yn bygwth dinistrio'r genedl yn derfynol. W. J. Gruffydd yw'r unig Gymro addas i drafod dylanwad hyn oll ar y celfyddydau cain. Pwysodd Mr Hopkin Morris arno i wahodd W.J. Gruffydd i ymgymryd â'r dasg. Awgrym y Parch. Gwilym Davies yw'r rhifyn ac y mae'n amgau llythyr ganddo sy'n egluro'r amcan ymhellach. Mae angen ysgrif o ryw ddwy fil o eiriau.

Canlyniadau 1 i 20 o 982