Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Addasiadau o weithiau Marion Eames,

Papurau'n ymwneud ag addasiadau radio, llwyfan a theledu o rai o weithiau Marion Eames, 1981-[2007], yn cynnwys I Hela Cnau, 1981; Plentyn Di-gartref, [1985x2007]; Y Ferch Dawel, 1996; ac Y Stafell Ddirgel, 2001. = Papers relating to radio, stage and television adaptations of works by Marion Eames, 1981-[2007], comprising I Hela Cnau, 1981; Plentyn Di-gartref, [1985x2007]; Y Ferch Dawel, 1996; and Y Stafell Ddirgel, 2001.

Addysg i oedolion,

Papurau, [1938]-1992, yn ymwneud â'r cyfnod y bu'n cynnal dosbarthiadau i oedolion dan nawdd Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Adeilad ac eiddo,

Llawysgrifau gyda manylion adeiladu'r capel a chynlluniau o welliannau i'r capel ac ar gyfer Mans newydd, 1837x[1908], ynghyd â phapurau'n ymwneud â'r capel a'r tŷ capel, 1999-2004.

Adroddiadau ac areithiau

Mae'r gyfres hon yn cynnwys adroddiad ar yr Ysgol Sul, [?1943], ei 'araith etholiadol' ar gyfer taflen Etholiad Cyffredinol 1945, ac araith Bebb yn llywydd y dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 1948.

Adroddiadau blynddol,

Adroddiadau blynyddol y Capel yn cynnwys gwybodaeth am fantolen ariannol, cyfraniadau ariannol, pregethwyr y Suliau, enwau'r swyddogion ac enwau'r rhai oedd wedi cael eu bedyddio, priodi neu farw. Ceir rhai adroddiadau blynyddol hefyd ymysg y cyfrifon ariannol.

Aelodaeth y Capel

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrol sydd yn nodi gwybodaeth am aelodau'r capel, 1878-1883, a chyfrol sydd yn cynnwys manylion trosglwyddo aelodaeth o'r capel i gapel arall, 1924-1931.

Aelodaeth,

Papurau yn ymwneud â holiadur swyddogol y Gymdeithas a lenwyd gan aelodau i fynegi eu diddordebau, eu cefndir, a'u barn am weithgareddau'r Gymdeithas.

Canlyniadau 1 i 20 o 567