Dangos 8 canlyniad

Disgrifiad archifol
Wales cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau'n ymwneud â Chapel Tan'rallt, Llanllyfni

Mae'r gyfres yn cynnwys Adroddiadau Blynyddol, 1942, 1975 ac 1977, Capel Tan'rallt, Llanllyfni, Sir Gaernarfon, sef y capel a fynychwyd gan deulu Mathonwy Hughes, ynghyd â dwy gyfrol yn cynnwys gwaith gan ddisgyblion Ysgol Sul yr un capel, 1865 a 1979.

Llyfrau'r eisteddleoedd

Mae'r llyfrau'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1852-1975. Ymhlith y cyfrolau ceir un sy'n cynnwys cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917. Ceir llyfrau hefyd sy'n crynhoi'r taliadau, 1928-1971, a chynllun, 1907, o'r eisteddleoedd.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Papurau, [1936]-1970, yn deillio'n bennaf o'r cyfnod pan oedd Norah Isaac yn Brifathrawes Yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, 1939-1949, gan gynnwys rhai'n ymwneud â'r gwersi a gweithgareddau allgyrsiol.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Aberystwyth, Wales)