Showing 15 results

Archival description
Only top-level descriptions Wales file Welsh
Print preview View:

Achos Brewer-Spinks,

  • NLW ex 2566.
  • file
  • 1965.

Cyfrol yn cynnwys llythyrau o gefnofaeth yn ymwneud â safiad dau weithiwr ffatri ym Mlaenau Ffestiniog, wedi iddynt golli'u swyddi am siarad Cymraeg yn y gweithle yn 1965, a thorion o'r wasg yn ymwneud â'r achos. Enwyd yr achos ar ôl perchennog y ffatri sef Brewer-Spinks. = A scrapbook containing letters of support following the sacking of two factory workers in 1965 in Blaenau Ffestiniog for speaking Welsh in the workplace, and press cuttings relating to the case. It was named after the owner of the factory, Brewer-Spinks.

Atgofion Capten,

  • NLW ex 2486.
  • file
  • 1935-1936.

Atgofion y Capten llong R. E. Jones, y Felinheli, 1935-1936.

Capel yr Annibynwyr a Chymdeithas Gymraeg Rhuthun,

  • NLW MS 16276D.
  • file
  • 1831-1927.

Papurau, 1831, 1838 a 1926-1927, yn ymwneud â Chapel yr Annibynwyr, Rhuthun, a Chymdeithas Gymraeg Rhuthun a'r Cylch. = Papers, 1831, 1838 and 1936-1927, relating to the Congregational Chapel, Ruthin, and the Ruthin and District Welsh Society.
Maent yn cynnwys nodiadau o bregeth, 1831, gan y Parch. William Williams, y Wern (ff. 1-2); llythyr, 1838, yn gwahodd y Parch. Richard Jones, Aberhosan, i ddod yn weinidog ar Gapel yr Annibynwyr, Heol y Ffynnon, Rhuthun (ff. 3-4); a derbyniadau a thaliadau, 1926-1927, Cymdeithas Gymraeg Rhuthun a'r Cylch (f. 5). = The papers consist of notes on a sermon, 1831, by the Rev. William Williams, Wern (ff. 1-2); a letter, 1838, inviting the Rev. Richard Jones, Aberhosan, to become minister of the Congregational Chapel, Well Street, Ruthin (ff. 3-4); and receipts and payments, 1926-1927, of the Ruthin and District Welsh Society (f. 5).

Emynwyr ac Emynyddiaeth yr Hen Ymneilltuwyr Cymreig,

  • NLW MS 16080C.
  • file
  • 1945.

Teipysgrif traethawd gan awdur anhysbys, 1945, yn dwyn y teitl 'Emynwyr ac Emynyddiaeth yr Hen Ymneilltuwyr Cymreig (Annibynwyr, Bedyddwyr, Undodiaid) hyd at 1811', wedi ei ysgrifennu o dan y ffug-enw 'Piwritan' ar gyfer cystadleuaeth Gwobr Goffa Ieuan o Leyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog, 1945. = Typescript essay by an unnamed author, 1945, on the hymns and hymn writers of the Congregationalist, Baptist and Unitarian denominations in Wales to 1811, written under the pen-name 'Piwritan' for the 1945 National Eisteddfod in Rhosllannerchrugog.
Rhestrir y cynnwys ar ff. iv-v. Mae llythyr cyflwyno, [1956], oddi wrth y gwerthwr wedi ei bastio tu mewn i'r clawr blaen. = The contents are listed on ff. iv-v. A covering letter, [1956], from the seller is pasted in on the inside front cover.

Hanes Eglwys Seion (W), Pwllheli,

  • NLW ex 2777.
  • file
  • 2012 /

Hanes Eglwys Fethodistaidd (Wesla) Seion, Pwllheli gan W. Arvon Roberts, 2012.

Roberts, W. Arvon.

Hanes eglwysi'r Bedyddwyr yn Ynys Môn,

  • NLW ex 2427.
  • file
  • 2005.

Hanes Eglwys Bethel (B), Rhosybol, 1841-2002, Eglwys Sardis, Dulas, (dathlu canmlwyddiant a hanner, 1983) gan y rhoddwr; ac Eglwys Bethania, Llaneilian (allan o'r Greal).

Henry Howard Evans : : lecture,

  • NLW MS 16727B.
  • file
  • [1935x1959] /

Darlith, a gopïwyd [1935x1959], yn portreadu cymeriadau a adwaenid fel ‘Shoni’, sef glowyr Cwm Rhondda. Mae’r llawysgrif yn gopi o NLW MS 19613B a ysgrifennwyd gan, ac yn llaw, Henry Howard Evans, Llwynypia, rheolwr cyffredinol Cambrian Collieries Ltd. = A lecture, copied [1935x1959], portraying characters known as ‘Shoni’, a name given to Rhondda Valley coalminers. The manuscript is a copy of NLW 19613B by, and in the hand of, Henry Howard Evans, Llwynypia, general manager of Cambrian Collieries Ltd.

Evans, Henry Howard, 1865-1935.

Llyfr cyfrifon a nodiadau,

  • NLW MS 16480A.
  • file
  • 1846-1869 /

Llyfr cyfrifon a nodiadau, 1846-1869, yn cynnwys cofnodion amaethyddol ac ariannol gan Rees Jones, Cefnllwyn, Lledrod, sir Aberteifi, ffermwr. = Account and memorandum book, 1846-1869, containing agricultural entries and accounts by Rees Jones, Cefnllwyn, Lledrod, Cardiganshire, farmer.
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys adysgrif o lythyr, 1854, gan ei chwaer Ann Jones, Columbus, Ohio, at ei theulu (ff. 74 verso-78), cofnodion degwm plwyf Lledrod, 1846 (ff. 88 verso-glud-ddalen yng nghefn y gyfrol), a chyfeiriadau at feddyginiaethau (ff. 32 verso-33, 71, 80 verso-81). = Also includes a transcript of a letter, 1854, from his sister Ann Jones, Columbus, Ohio, to her family (ff. 74 verso-78), tithe records for the parish of Lledrod, 1846 (ff. 88 verso-pastedown at the end of the volume), and references to medical remedies (ff. 32 verso-33, 71, 80 verso-81).

Jones, Rees, Cefnllwyn, Lledrod.

Llyfr Tonau William Jenkins,

  • NLW MS 23995A.
  • file
  • [1818]-1852.

Llyfr tonau William Jenkins, Blaenbarthen, plwyf Llangoedmor, sir Aberteifi, a enwir fel saer maen 50 oed yng Nghyfrifiad 1851. Cynhwysa'r gyfrol donau, a rhai anthemau, a nodwyd gan Thomas John, 1820-1825 (ff. 39-106), a William Jenkins, 1824-1852 (ff. 57-255), rai ohonynt yn dwyn geiriau. Rhwymwyd yn y gyfrol hefyd hyfforddwr cerddorol Saesneg printiedig o 32 tt., [1818x1820], yn dwyn y teitl 'The Vocal Preceptor' (ff. 17-33). = The tune-book of William Jenkins, Blaenbarthen, parish of Llangoedmor, Cardiganshire, who is named as a 50 year old mason in the Census of 1851. The volume contains hymn-tunes, and some anthems, noted by Thomas John, 1820-1825 (ff. 39-106) and William Jenkins, 1824-1852 (ff. 57-255), some accompanied by texts. Bound in the volume is a 32 pp. English printed musical instruction manual, [1818x1820], entitled 'The Vocal Preceptor' (ff. 17-33).
Nodir dyddiad wrth gofnodi mwyafrif y tonau, ac ychwanegwyd manylion ffynhonnell yn achlysurol, gan gynnwys y Parch. Daniel Davies, 1830-1832 (ff. 135, 148, 159-60, 163), ynghyd â rhai priodoliadau (ff. 56, 72, 162). Ceir mynegai i'r tonau ar ff. 1-12. = Accompanying dates are noted with the majority of tunes, and sources are occasionally noted, including the Revd. Daniel Davies, 1830-1832 (ff. 135, 148, 159-60, 163), together with some attributions (ff. 56, 72, 162). There is an index to the tunes on ff. 1-12.

Llyfr tonau,

  • NLW MS 16203iiA.
  • file
  • [1851x1858].

Llyfr tonau, [1851x1858], o eiddo Edward Davies, Bryn Morfydd, Y Rhyl, yn cynnwys anthemau a salm-donau yn bennaf. = Tune book, [1851x1858], belonging to Edward Davies, Bryn Morfydd, Rhyl, containing mainly anthems and psalm-tunes.

Results 1 to 10 of 15