Dangos 583 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth a chofnodion gweinyddol

Gohebiaeth rhwng swyddogion y Gymdeithas, aelodau a marchnatwyr ynglŷn ag: ethol aelodau newydd i Bwyllgor y Gymdeithas; materion ariannol yn cynnwys prynu gliniadur at ddefnydd y Trysorydd, taliadau blynyddol i'r Ysgrifennydd a'r Trysorydd, a thanysgrifiadau i'r Casglwr; rhestr aelodau'r Gymdeithas; trafod 'Cyfres y Casglwr' newydd Gwasg Carreg Gwalch; a materion eraill o ddiddordeb i'r Gymdeithas; ynghyd â chopiau o gyfansoddiad y Gymdeithas (1978), dibenion y Gymdeithas (1993) a chytundeb am ddefnydd a diogelwch y gliniadur.

Gohebiaeth gyffredinol: 1958

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwenallt, Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Waldo Williams, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Euros Bowen, Aneurin Talfan Davies, Alun Llywelyn-Williams, Elis Gwyn Jones, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, John Gwilym Jones a Pennar Davies. Ar gefn drafft o lythyr gan Bobi Jones mae copi o eirda a roddwyd iddo gan Griffith John Williams ym 1952.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1961

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Bobi Jones, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; D. Myrddin Lloyd, T. H. Parry-Williams, John Gwilym Jones, R. Gerallt Jones a J. E. Caerwyn Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Canlyniadau 1 i 20 o 583