Showing 164 results

Archival description
Archif Plaid Cymru, File
Print preview View:

Llofnodion a llawysgrifau

Casgliad o lofnodion bras casglwyd gan Nans Jones, 'yr wyf yn ceisio gwneud "traycloth" gydag enwau aelodau'r Blaid arno i'w rafflo yn yr Ysgol Haf', gan gynnwys Trefor Beasley, W. Ambrose Bebb, J. Kitchener Davies, Gwynfor Evans, Gwenan Jones, J. E. Jones, Nans Jones, Saunders Lewis, Kate Roberts, O. M. Roberts, Lewis Valentine a D. J. Williams, [pre-1952]. Hefyd saith darn o ryddiaith neu farddoniaeth mewn llawysgrif wedi'u llofnodi, sef 'Adnabod Duw' gan D. Tecwyn Evans, 'I Gymru hon' gan Gwenan Jones, 'Cân y Cwteri' gan Wil Ifan, 'Y llwybr arian' gan E. Tegla Davies, 'Afradlondeb' gan Davies Aberpennar, 'Y Graith (Pen. XVIII)' gan Elena Puw Morgan, a 'Ffair Wragedd' gan T. Hudson-Williams, [c.1954].

Amryw Nans Jones

Amryw bapur rhydd Plaid Cymru, gan gynnwys teipysgrif o ganlyniadau etholiadau, 1929-1955; cerdyn cinio ffarwel i Noëlle Davies, 1957; rhaglen cyngerdd Gŵyl Dewi Coleg Hyfforddi Caerdydd, 1961; memorandum gan Ray Smith, trefnydd De Cymru, i'r Pwyllgor Gwaith yn beirniadu trefniannau mewnol y Blaid, 1963; 'bras nodiadau' teipysgrif yn galw am fudiad newydd i ferched yng Nghymru, [1960au?]; cyfansoddiad Adran y Merched, mewn cynnig i Gynhadledd, [1970au?]; rhestr o gyhoeddiadau, c.1971; calendr y blaid genedlaethol 1980; cynigion dilys Cynhadledd 1987; a chyfrifon Plaid Cymru, 30 Mehefin 1993. Hefyd 'Remember Cwm Tryweryn', baled gan Meic Stephens mewn cefnogaeth Cronfa Emyr Llew, [c.1963]; caneuon etholiad Caerffili, 1968; englyn 'I Nans Jones ar ymddeol o'i swydd yn Swyddfa Plaid Cymru', gan Ithel Davies, [c.1967]; 'Gwynfor', cân gan Dafydd Iwan, [d.d.]; a rhaglen perfformiad Cwmni Theatr Gwynedd o 'Excelsior' gan Saunders Lewis, [1991].

Results 161 to 164 of 164