Showing 3783 results

Archival description
file
Advanced search options
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Cystadlaethau amrywiol,

Cystadlaethau i ddysgwyr; erthygl addas ar gyfer Y Gwyddonydd; erthygl ar unrhyw agwedd ar feddygaeth, addas i'w chyhoeddi yn Cennad; erthygl addas i'w chyhoeddi yn Cynefin; amlinelliad o sgript rhaglen deledu yn trafod unrhyw bwnc gwyddonol, meddygol neu dechnolegol ac amlinelliad o gynllun cadwraeth ar Ffarm Glanllynau.

Rhyddiaith,

Nofel fer (y fedal ryddiaith); tair stori fer yn darlunio ymateb tri pherson â chysylltiad agos ag ysgariad; storïau gwyddonias; ysgrifau golygyddol ar gyfer unrhyw bapur bro; dyddiaduron, dros gyfnod byr, person di-waith a chyfrolau : detholiad o nodiadau golygyddol Jennie Eirian Davies.

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Y daith'; dilyniant o gerddi : 'Arwyr'; englynion : 'Cwlwm'; cywyddau i ddathlu priodas neu ben-blwydd priodas; cerddi rhydd : 'Gwrthdaro'; sonedau : 'Lewis Valentine'; telynegion : 'Cyffwrdd'; tribannau beddargraff; hyd at ugain o benilion telyn mewn idiom gyfoes a chaneuon digri' yn null 'Dros ben llestri'.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi alaw 12 bar o hyd (cerdd dant); papurau'n cyd-fynd â llunio tâp fideo o unrhyw gân gyfoes Gymraeg; emyn-donau i eiriau Tilsli; unawd i lais bâs; arwyddgan ar gyfer rhaglen deledu adloniant ysgafn; symudiad ar gyfer unrhyw offeryn; gwaith corawl S.A.T.B. (Salm 150); gwaith ar gyfer ysgolion cynradd; cân, tri lais, mewn unrhyw arddull; trefniant o ddwy alaw draddodiadol gwahanol eu natur ar gyfer gwahanol leisiau a chyfansoddi dwy ddawns gyferbyniol.

Clywais...

Mae'r ffeil hon yn cynnwys penodau ynglŷn ag areithwyr neu siaradwyr cyhoeddus Cymru, megis Gunstone Jones, T.J. Morgan, Harri Gwynn a G.J. Williams.

'Gemau Hwngaria'

Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o'r llyfr Gemau Hwngaria a baratowyd ar y cyd rhwng Glyn M. Ashton a Tamâs Kabdebo. Ceir drafft o'r rhagymadrodd i'r llyfr a chyfieithiadau i'r Gymraeg o straeon gwerin Hwngari.

Nodiadau ar lenorion

Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau ar Gwallter Mechain, Thomas Price (Carnhuanawc), William Owen Pughe, Iolo Morganwg, John Jones, Glan-y-gors, Dafydd Ddu Eryri, Robert Jones, Rhos-lan, a William Ellis Jones 'Y Bardd neu y meudwy Cymreig'. Yma hefyd mae nodiadau ar draethawd M.A. Richard Griffith Owen 'Brwydr y ddau gyfansoddiad' ac adolygiad o 'Barn ar Egwyddorion Llywodraeth', Emyr Wyn Jones, yn ogystal â dalennau llyfryddiaethol.

Nodiadau amrywiol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys ffotogopi a dau gopi llaw o ddogfen Ladin o ganol y ddeuddegfed ganrif a deitlwyd 'Unde ffloreum Illiricum' ac sydd yn sôn am Galfridus; nodiadau ynglŷn â Maredydd ap Rhys; erthygl yn dwyn y teitl 'Religious Dissent in Wales on the eve of the Methodist revival' gan y Parch. Noel Evans; esboniadau beiblaidd; nodiadau yn ymwneud â Peter Williams, 1723-1796, nodiadau ieithyddol; ac erthygl yn dwyn y teitl 'Deng Mlynedd' yn ymwneud â'r Methodistiaid Wesleaidd rhwng 1811 ac 1820.

Nodiadau ar y Beibl

Mae'r ffeil hon yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Esboniadau beiblaidd 1801-25', nodiadau ar Feibl Thomas Charles, 1799, a nodiadau pellach, yn bennaf ar gyhoeddi beiblau. Yn y ffeil hefyd mae nodiadau ar englynion y misoedd, ar Gymraeg Canol, ac ar 'Blodau Arfon', Dewi Wyn o Arfon.

I Hela Cnau,

Drafft, 1974-1975, o nofel Marion Eames, I Hela Cnau (Llandysul, 1978), wedi ei ddiwygio'n sylweddol, yn cynnwys nodiadau, yn amlinellu'r cymeriadau, ac yn dwyn y teitl gwreiddiol Tir Nod. Gweler hefyd NLW MS 22499D. = A draft, 1974-1975, of I Hela Cnau (Llandysul, 1978) by Marion Eames, with extensive revision and notes and brief character outlines used in the compilation of the novel and bearing the original title Tir Nod. With NLW MS 22499D.

I Hela Cnau,

Drafft, 1974-1975, o nofel Marion Eames, I Hela Cnau (Llandysul, 1978), wedi ei ddiwygio'n sylweddol, yn cynnwys nodiadau ac yn amlinellu'r cymeriadau. Gweler hefyd NLW MS 22498D. = A draft, 1974-1975, of I Hela Cnau (Llandysul, 1978) by Marion Eames, with extensive revision and notes and brief character outlines used in the compilation of the novel. With NLW MS 22498D.

Dyddiadur,

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1965, yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1965, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dafydd Jones (Isfoel) (ff. 15, 28), Alun Cilie (passim), John Alun Jones (passim), a Dic Jones (passim); hefyd at Gymdeithas Lyfrau Ceredigion (f. 36) ac at Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Llandysul (passim). = The volume contains references to Dafydd Jones (Isfoel) (ff. 15, 28), Alun Cilie (passim), John Alun Jones (passim), and Dic Jones (passim); also to Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (the Ceredigion Book Society) (f. 36) and to Coed-y-bryn Primary School, Llandysul (passim).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1975, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1975, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Alun Cilie (passim), gan gynnwys ei gystudd olaf a'i farwolaeth (ff. 10-19) ac englynion er cof amdano (ff. 18 verso-19, 67), ac at Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Llandysul (passim). = The volume contains references to Alun Cilie (passim), including his last illness and death (ff. 10-19) and englynion in memoriam (ff. 18 verso-19, 67); and to Coed-y-bryn Primary School, Llandysul (passim).

Results 161 to 180 of 3783