Dangos 53350 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

621 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

'Y Cwlwm Sanctaidd/The Sacred Knot'

Pedwar drafft teipysgrif (heb ddyddiad), gyda rhai cywiriadau, o sgript ar gyfer drama deledu gyda'r teitl ‘Y Cwlwm Sanctaidd/The Sacred Knot’, gydag un copi wedi'i theitlo ‘Y Cwlwm Cariad/The Knot of Love’. / Four typescript drafts (undated), with some corrections, of a script for a television drama titled ‘Y Cwlwm Sanctaidd/The Sacred Knot’, with one copy titled ‘Y Cwlwm Cariad/The Knot of Love’.

Gohebiaeth, nodiadau a drafftiau / Correspondence, notes and drafts

Gohebiaeth, nodiadau, a drafftiau (1983-1999) yn ymwneud â chwmni Ffilmiau Bryngwyn, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Siôn Humphreys (1), Elwyn Williams (1), ac Emyr Humphreys (1); cardiau hysbysebu ar gyfer y dramâu teledu ‘Y Siop’ (1997) a ‘Rhodd Mam’ (heb ddyddiad); nodiadau amrywiol (1983; 1989); crynodeb o benodau ar gyfer rhaglen ddogfen am y llenor Kate Roberts (heb ddyddiad); drafft llawysgrif o sgript yn llaw Emyr Humphreys yn dwyn y teitl ‘Y Cwlwm Sanctaidd’ (heb ddyddiad); a thudalennau teipysgrif o sgript ddi-deitl (1998-1999). / Correspondence, notes, and drafts (1983-1999) relating to the Ffilmiau Bryngwyn company, consisting of letters from Siôn Humphreys (1), Elwyn Williams (1), and Emyr Humphreys (1); advertisement cards for the television dramas ‘Y Siop’ (1997) and 'Rhodd Mam' (undated); various notes (1983; 1989); a summary of episodes for a documentary about the writer Kate Roberts (undated); a manuscript draft of a script in the hand of Emyr Humphreys titled ‘Y Cwlwm Sanctaidd’ (undated); and typescript pages of an untitled script (1998-1999).

'The Shilling (Insurance) Man' / 'The Stumbling Block'

Dwy sgript (y ddwy wedi’u dyddio 1963), yn cynnwys teipysgrif o sgript ar gyfer drama lwyfan o’r enw ‘The Shilling (Insurance) Man’, cyfieithiad Saesneg gan Emyr Humphreys o ‘Y Dyn Swllt’ gan W.S. Jones; a chopi teipysgrif o sgript ar gyfer drama deledu gyda’r teitl ‘The Stumbling Block’ gan John Gwilym Jones, cyfieithiad o’r fersiwn Gymraeg wreiddiol gan Emyr Humphreys. / Two scripts (both dated 1963), consisting of a typescript of a script for a stage play titled ‘The Shilling (Insurance) Man’, an English translation by Emyr Humphreys of ‘Y Dyn Swllt’ by W.S. Jones; and a typescript copy of a script for a television play titled ‘The Stumbling Block’ by John Gwilym Jones, a translation of the original Welsh version by Emyr Humphreys.

Drafft teipysgrif / Typescript draft

Drafft teipysgrif, gyda chywiriadau, o ddrama deledu gyda'r teitl ‘Hualau’ (1984). / A typescript draft, with corrections, of a drama for television titled ‘Hualau’ (1984).

Drafftiau teipysgrif / Typescript drafts

Dau deipysgrif o sgript ar gyfer y ddrama ‘Angel o’r Nef’ (1984), ynghyd â cherdyn dyddiedig 1998. / Two typescripts of a script for the drama ‘Angel o’r Nef’ (1984), together with a card dated 1998.

'Cofio Daniel'

Dau deipysgrif, gyda rhai cywiriadau, o sgript ar gyfer drama gyda'r teitl ‘Cofio Daniel’, addasiad o ‘Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel’ gan Daniel Owen (cyhoeddwyd gyntaf Amwythig: J. Ll. Morris, 1885); ynghyd â phedwar teipysgrif drafft o grynodebau sgriptiau, ynghyd â theipysgrifau amrywiol eraill a nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys, map o dref yr Wyddgrug, a chopi o restr o weithiau gan Daniel Owen ([?1936]). / Two typescripts, with some corrections, of a script for a drama titled ‘Cofio Daniel’, an adaptation of ‘Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel’ by Daniel Owen (first published Shrewsbury: J. Ll. Morris, 1885); together with four typescript drafts of script summaries, with various other typescripts and manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, a map of Mold town, and a copy of a list of works by Daniel Owen ([?1936]).

Crynodeb sgript a phapurau cysylltiedig / Script summary and related papers

Papurau (1989-1990), yn ymwneud â sgript ar gyfer drama gyda'r teitl ‘The Etruscan Smile’, gan gynnwys teipysgrif o grynodeb o’r sgript; llythyrau oddi wrth Alan Clayton (1) a Dewi Humphreys (2); a dau doriad o’r wasg, un o’r papur newydd Eidalaidd ‘Il Messaggero’. / Papers (1989-1990), relating to a script for a drama titled ‘The Etruscan Smile’, including a typescript of a script summary; letters from Alan Clayton (1) and Dewi Humphreys (2); and two press cuttings, one from the Italian newspaper ‘Il Messaggero’.

'The Suspect'

Teipysgrif (1995) o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl ‘The Suspect’, gan Lisa Garfield, cyfieithiad Saesneg o ‘Rhodd Mam’ gan Emyr a Siôn Humphreys; ynghyd â thoriad o’r wasg, ‘The Last Command’ gan David Rees (1965). / A typescript (1995) of a script for a film for television titled ‘The Suspect’, by Lisa Garfield, an English translation of ‘Rhodd Mam’ by Emyr and Siôn Humphreys; together with a press cutting, ‘The Last Command’ by David Rees (1965).

Teipysgrifau / Typescripts

Dau deipysgrif o sgript, gyda rhai nodiadau, ynghyd â theipysgrif o sgript ar gyfer ail act, ar gyfer drama deledu gyda'r teitl ‘Hualau’. / Two typescripts of a script, with some notes, together with a typescript of a script for a second act, of a television drama titled 'Hualau'.

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl 'Teulu Helga' (1986). / A typescript of a script for a film for television titled 'Teulu Helga' (1986).

'Yr Alwad'

Teipysgrif (1988) o sgript o ddrama deledu gyda'r teitl ‘Yr Alwad’. Darlledwyd ar S4C, 24 Rhagfyr 1988. / A typescript (1988) of a script of a television drama, titled ‘Yr Alwad’. Transmitted on S4C, 24 December 1988.

Sgript heb teitl / An untitled script

Teipysgrif heb deitl o sgript ar gyfer yr hyn sy'n ymddangos fel ddrama deledu (heb ddyddiad). / An untitled typescript of a script for what appears to be a drama for television (undated).

Drafft teipysgrif / Typescript draft

Drafft teipysgrif ([?1995]) o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl 'Rhodd Mam'. / A typescript draft ([?1995]) of a script for a film for television titled 'Rhodd Mam'.

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif o sgript ar gyfer ddrama deledu gyda'r teitl 'Angel o'r Nef' (1985). / A typescript of a script for a drama for television titled ‘Angel o’r Nef’ (1985).

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl 'Helga's Family'. / A typescript of a script for a film for television titled 'Helga's Family'.

'Twll o Le'

Drafft teipysgrif (1987), gyda chywiriadau, o sgript ar gyfer ffilm deledu a ysgrifennwyd gyda W. S. Jones, gyda'r teitl ‘Twll o Le’. Darlledwyd ar S4C, 21 Ebrill 1987. / A typescript draft (1987), with corrections, of a script for a film for television written with W. S. Jones, titled ‘Twll o Le’. Transmitted on S4C, 21 April 1987.

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif (1989) o sgript ar gyfer ddrama deledu gyda'r teitl 'Yr Alltud'. / A typescript (1989) of a script for a television drama titled 'Yr Alltud'.

Drafftiau teipysgrif gyda nodiadau / Typescript drafts with notes

Drafft teipysgrif, gydag anodiadau, brasluniau a nodiadau yn llaw Emyr Humphreys, o sgript ar gyfer drama wedi'i theitlo 'The Etruscan Smile' (1989), ynghyd â theipysgrif bellach o sgript o'r enw 'Delicate Mistakes, Elemental Powers' ( 1991), a thudalennau o nodiadau a chyfieithiadau yn Eidaleg. / A typescript draft, with annotations, sketches and notes in the hand of Emyr Humphreys, of a script for a drama titled ‘The Etruscan Smile’ (1989), together with a further typescript of a script titled ‘Delicate Mistakes, Elemental Powers’ (1991), and pages of notes and translations in Italian.

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif ([?1995]) o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl 'Rhodd Mam'. / A typescript ([?1995]) of a script for a film for television titled 'Rhodd Mam'.

Canlyniadau 161 i 180 o 53350