Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn,
Print preview View:

Cerddi drafft,

Llyfr nodiadau yn cynnwys cerddi drafft yn llaw'r bardd, gan gynnwys cerddi a gyhoeddwyd yn Caniadau'r Allt (1927) ac O Drum i Draeth (1929), ynghyd â deunydd amrywiol arall. Ceir rhestr cynnwys isod a nodir, mewn cromfachau, y gyfrol lle'u cyhoeddwyd, rhif y tudalen, ac unrhyw wahaniaeth teitl. 55 ff. F. 1: 'Dinas gaerog daioni...'; 'Yr Orsedd'. Ff. 2-4: 'Calan Mai' [Caniadau'r Allt, t. 30]. Ff. 5-6: 'Ffarwel y Gog' [Caniadau'r Allt, t. 65, 'Canu'n Iach i'r Gog']. Ff. 7-9: 'Cadw'r Oed', 1913 [Caniadau'r Allt, t. 100]. Ff. 10-11: 'Y Castell', 1913 [Caniadau'r Allt, t. 80]. Ff. 11v-12: 'Hiraeth' [Caniadau'r Allt, t. 52]. F. 17: 'Yr Afon'. Ff. 18-21: 'Cadwyn yr Ardd' ("Cydradd a chadwyn arall o'r eiddof yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902") [O Drum i Draeth, t. 23, 'Cadwyn o Englynion "Yr Ardd"']. Ff. 21-4: 'Yn ymyl bwth syml y bardd...' [sef yr ail gadwyn]. Ff. 25-6: 'Y Gerddinen' [4 englyn gan "Dewin y Coed", "Edn y Mynydd", "Brudiwr tan bren", "Yswidw"; O Drum i Draeth, t. 16]. Ff. 27-8: 'Glannau Dwyfor', 1917 [Caniadau'r Allt, t. 25, 'Cyfarch Dwyfor']. Ff. 29-30: 'Can y Gwr Llwm' [Caniadau'r Allt, t. 24]. Ff. 31-2: 'Y Sipsiwn' [Caniadau'r Allt, t. 27]. F. 33: 'Dygwyl Serch (Su y Mor)' [cf. rhifau 1, f. 16v; 9, f. 61]. Ff. 34-5: '"O Wynfyd Serch, O Ddolur Serch" (Atgof am fy chwaer)' [Caniadau'r Allt, t. 48]. Ff. 36-7: 'Fel Doe' [Caniadau'r Allt, t. 51]. F. 38: 'Yr Hen Nadolig' [cf. rhifau 1, f. 19v; 4, ff. 65v-6v; 9, f. 44]. Ff. 39-40: 'Heddwch' [Caniadau'r Allt, t. 70]. Ff. 40-1: 'Gwynfyd y Galon' [Caniadau'r Allt, t. 57, 'Hen Fwynderau']. Ff. 42-3: 'Gwyl y Grog' [Caniadau'r Allt, t. 36]. Ff. 44-5: 'Yr Alltud' [Caniadau'r Allt, t. 62]. Ff. 45v-6: ' Y Cyd-Ofid' [Caniadau'r Allt, t. 64]. Ff. 46v-7, 48v-9v: 'Yr Ymliw' [Caniadau'r Allt, t. 71, 'Y Sen']. Ff. 48-9v: 'Bore, Nawn a Hwyrddydd Bywyd' ("Goreu yn Eisteddfod Corwen") [O Drum i Draeth, t. 52]. F. 49v: 'Priod Iolo Caernarfon', 1913 [O Drum i Draeth, t. 92]. Ff. 50v,51v: 'Llawdden' a 'Dewi Ogwen' ["Dau Hir a Thoddaid" gan "Llais Cân", f. 51v (gweler O Drum i Draeth, t. 91; cf. rhif 5, f. 15) a "Blodau Ffarwel", f. 50v]. F. 52v: 'The Gambler' [tri englyn gan "Ap Gruffydd", "Croupier" (gweler O Drum i Draeth, t. 49), a "Second Thoughts"].

Copïau o emynau o waith EW,

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o emynau o waith EW. Rhestrir hwy yn nhrefn yr wyddor yn ôl y llinell gyntaf. Pan gynhwysir y gerddoriaeth, nodir hynny mewn cromfachau; nodir hefyd unrhyw bennawd a fo i'r emyn neu'r dôn. 31 ff. F. 1: 'A chân y deuaf i Dy byrth' [y dôn 'Eirianedd' o waith W. H. Roberts]. Printiedig [Y Ddalen Gerddorol, rhif 3]. Ff. 2-3: 'Am hedd y nos, am oleu'r wawr' ['Mawr yw Dy ffyddlondeb']. Teipysgrif; toriad papur. F. 4: 'Am yr Ysgol Sul diolchwn' ("canwyd yr emyn ar dôn o waith J. C. McLean yng Nghymanfa'r Pavilion 1914"). Teipysgrif. Ff. 5-7: 'Ar hyd ffordd fy mhererindod' ['Dy wyneb a geisiaf'; y dôn 'Glaslyn' o waith William Griffith, Porthmadog]. Teipysgrif (2); printiedig. F. 8: 'Canmolaf yr Arglwydd goruchaf' ['A'i asgell y cysgoda Efe trosot']. Teipysgrif. Ff. 9-10: 'Efengyl tangnefedd, ehed dros y byd' ['Ar y ddaear tangnefedd'; y dôn 'Efengyl Tangnefedd' ('Gospel of Peace'), trefniant a chynghaneddiad Noah Williams, Llangollen]. Teipysgrif; printiedig. Ff. 11-12: 'Fry yn Dy nefoedd clyw ein cri' ['Cofiaf dy wyrthiau gynt. Par yn awr lwyddiant'; y dôn 'Eifion' o waith Thomas Hughes, New Ferry]. Teipysgrif; printiedig. F. 13: 'Fugail Da, er mwyn Dy enw' ['Efe a ddychwel fy enaid']. Teipysgrif. F. 14: 'Hoff yw canu am y Ceidwad' ('Emyn cenhadol'). Teipysgrif. F. 15: 'Hoffet ti fod o dy bechod yn rhydd?' ['Mae grym yn y gwaed'; cyfieithiad]. Teipysgrif. F. 16: 'Molwn Di, O Dduw ein tadau' ['Gweler dy waith tu ag at dy weision, a'th ogoniant tu ag at eu plant hwy']. Teipysgrif. F. 17: 'O Ddiddanydd yr addewid' ['Efe a'ch tywys']. Teipysgrif. Ff. 18-21: 'O Dduw ein tadau, ynot Ti' ['Cofiais y dyddiau gynt'; y dôn 'Peredur' o waith William Griffith, Porthmadog, 1917]. Teipysgrif (2); printiedig; llawysgrif [cerddoriaeth yn unig]. Ff. 22-3: 'O, dewch rai bychain, dewch at Fab y Dyn' ['Pwy fel Iesu?']. Teipysgrif. 2 gopi. F. 24: 'Os wyt yn flin o dan dy faich' ['Cymer galon, cyfod, y mae efe yn dy alw di']. Teipysgrif. F. 25: 'Pwy a'n dysg pa fodd i fyw?' ['Neb fel Iesu']. Teipysgrif. F. 26: 'Pwy yw hwn mor edifeiriol' ['Mwy na choncwerwyr']. Teipysgrif. F. 27: ''Rwy'n brysio bob dydd at derfyn fy ngyrfa' [y dôn o waith William Griffith, Portmadoc, 1916]. Llawysgrif [geiriau a cherddoriaeth]. F. 28: 'Ti fu'n croesi môr Tiberias' ['Cofio'r Morwyr: "A hwy a'i derbyniasant Ef i'r llong"']. Teipysgrif. F. 29: 'Ti gynt wrth fôr Tiberias' ['Ac yn y man Efe a'u galwodd hwynt']. Teipysgrif. F. 30: 'Un fendith dyro im' ['Un peth a ddeisyfais i']. Teipysgrif. F. 31: 'Ym mhell y crwydrais, O fy Nuw' ['Dyfod adre 'rwy (cyfieithiad o "Lord, I'm coming home")']. Teipysgrif.

W. J. Gruffydd, Beaumaris,

Efallai mai Heinrich Zimmer a ysgrifennodd werthfawrogiad o waith EW. Cynnig adolygu ei gyfrol [Telynegion Maes a Môr] - nid oes hafal i delynegion y misoedd.

Results 161 to 180 of 318