Llythyr at Bob Owen, 7 Medi 1952, oddi wrth Hugh Meredyth Owen, Efrog Newydd.
- 42/22.
- Ffeil
Yn ymwneud ag ymfudiad ei hen daid, William Owen, i'r America yn 1837.
Llythyr at Bob Owen, 7 Medi 1952, oddi wrth Hugh Meredyth Owen, Efrog Newydd.
Yn ymwneud ag ymfudiad ei hen daid, William Owen, i'r America yn 1837.
Adnau Ionawr 1974 (Mrs Ellen Owen a Mr Owain Tudur Owen). Gweler hefyd Bocsys 14, 20 a 30.
Yn cynnwys llythyr, 1903, oddi wrth Ann Roberts, Llanfrothen, at ei chwaer a'i brawd, a phedwar ar ddeg o lythyrau, 1904-10, oddi wrth Robert (Bob) Owen, Plas Brondanw, Llanfrothen, at ei fodryb a'i ewythr (Miss Grace E. Owen, Oakland, California, a Spokane, Washington, ac [Owen Henry] Owen) yn ymwneud â materion lleol a theuluol yn bennaf; ynghyd ag ychydig o gardiau Nadolig, &c.
Yn bennaf at Miss Grace Owens, ynghyd ag un neu ddau at Mr O. H. Owens oddi wrth Margaret Bernard, San Diego, California; Eva Cross, Boundary Falls, B.C.; Thomas Edmonds, Fonopah; Ella Hendricks, Red Bluff; Albert E. Joyce, Croesor; (Mrs) J. M. Loveland, San Pablo; Ellen Owens, Cottonwood a Red Bluff; Jennie Owens, Paskenta, California; Richard O[wens], Red Bluff; Stella Owens, Paskenta; Mr a Mrs L. G. Parker, Sacramento, California; Catherine M. Roberts, Tucson, Arizona; D. H. R. Tucson; M. a A. Smitjer; Mary Williams, Pen-y-groes, Caernarfon; W. E. Williams, Corris; William S. Williamson, Richmond, Canada; ynghyd â llythyr, 1922, at William Owen, Llanfrothen, oddi wrth W. H. Williams, y Bermo; ac ychydig o lythyrau anghyflawn a chardiau Nadolig.
'Ymfudiad o Gymru i'r Unol Daleithiau rhwng 1760 a 1860' gan 'Iseryri' (Bob Owen).
Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandybïe, Awst 1944. Tair cyfrol deipysgrif.
Gohebiaeth a phapurau, 1910-23, yn ymwneud â fferm y Wern, Llanfrothen.
Gohebiaeth a phapurau, 1910-23, yn ymwneud â fferm y Wern, Llanfrothen, a brynwyd gan Owen H. Owens a Grace Owens ym 1911, ac a werthwyd ganddynt ym 1923. Mae rhai o'r drafftiau neu gopïau o lythyrau yn llaw Bob Owen.
Adysgrifau J. Glyn Davies, Lerpwl, a Bob Owen o farddoniaeth Gymraeg.
Adnau Tachwedd 1975 (Mr Owain Tudur Owen). 44/1-14 Yn llaw J. Glyn Davies, Lerpwl.
Adysgrifau o gywyddau ac englynion.
Cyfrol yn dwyn y teitl 'Cerddi'.
Ymddangosodd rhan o'r disgrifiad yn Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club, 1949, tt. 38-57.
Nifer bychan o bapurau rhydd a thorion papur newydd.
Llawysgrifau, [1931x1942]-[1954].
Llawysgrifau a neilltuwyd o'r casgliad cyffredinol a'u cynnwys ymhlith llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cymdeithasau Darllen Gan Mlynedd yn ôl,
Drafft teipysgrif, [1954], o'r anerchiad 'Cymdeithasau Darllen Gan Mlynedd yn ôl' gan Bob Owen, Croesor, a roddwyd yng Ngynhadledd Llyfrgelloedd yng Nghymru a Mynwy, Caernarfon, 2 Mehefin 1954. Mae'r drafft yn cynnwys cywiriadau a dileadau helaeth yn llaw'r awdur, yn ogystal â throednodiadau, a chafodd ei baratoi ar gyfer ei gyhoeddi (gw. Llyfrgelloedd yng Nghymru: Report of the Proceedings of the Twenty-first Conference of Library Authorities in Wales and Monmouthshire held at Caernarvon June 1st, 2nd and 3rd, 1954 (Abertawe, 1954), tt. 30-37). = A typescript draft, [1954], of the paper 'Cymdeithasau Darllen Gan Mlynedd yn ôl' by Bob Owen, Croesor, given at the Conference of Library Authorities in Wales and Monmouthshire, Caernarvon, 2 June 1954. The draft contains copious manuscript corrections and deletions in the author's hand, as well as footnotes, and was prepared for publication (see Llyfrgelloedd yng Nghymru: Report of the Proceedings of the Twenty-first Conference of Library Authorities in Wales and Monmouthshire held at Caernarvon June 1st, 2nd and 3rd, 1954 (Swansea, 1954), pp. 30-37).
Ceir cyfeiriadau yn yr anerchiad at gymdeithasau llenyddol, diwylliannol ac athronyddol Cymreig, llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen, ac unigolion nodedig. Mae rhan o'r traethawd wedi'i theipio ar ddalenau o lyfr cyfrifon. = The paper contains references to Welsh literary, cultural and philosophical societies, libraries and reading rooms, and to individuals of note. Part of the essay has been typed on leaves from a printed ledger.
Bob Owen, Croesor.
Llandecwyn and Llanfihangel-y-Traethau parish records
A notebook, [1931x1942], of Bob Owen, Croesor, containing transcripts from the parish registers of Llandecwyn, Merionethshire, 1674-1931 (ff. 1-12, 19-20 verso, 29-33 verso), and Llanfihangel-y-Traethau, Merionethshire, 1684-1836 (ff. 12 verso-18 verso, 34-40).
Also included are further miscellaneous genealogical memoranda (ff. 23-26, 28 verso and inside front cover), family trees (ff. 21, 34) and a note, in Welsh, on wells (inside back cover, inverted text).