Llyfr nodiadau yn cynnwys copïau teg o'r cerddi Byd yr Aderyn Bach a Y Ci Coch gan ac yn llaw Waldo Williams, y ddwy gerdd yn ddi-deitl yn y gyfrol hon ac wedi'u harwyddo 'Waldo'; toriad papur newydd (Y Faner, 30 Awst 1939 a 6 Medi 1939) yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Beth yw Cynghanedd?' gan Waldo Williams, ynghyd â rhan o baragraff cyntaf yr erthygl yn llaw Waldo Williams; torion papur newydd (Y Faner, 23 Chwefror 1944 a 18 Tachwedd 1944) yn cynnwys y cerddi Y Plant Marw ac Elw ac Awen gan Waldo Williams; ac englyn gan ac yn llaw Waldo Williams i gyfarch ei gyfaill yr awdur a'r bardd T. Llew Jones wedi iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 1958, ynghyd â'r nodyn 'Cyfarfod dathlu Llew yn neuadd Pantycelyn Aberystwyth'. Ceir nodyn o'r dyddiad 'Hyd. 20. 1948' [?yn llaw Waldo Williams] ar un dudalen a cheir enw Dilys Williams, chwaer Waldo, a'r nodyn 'Cynghanedd' ar y clawr. Lluniwyd y gerdd Y Plant Marw yn gynnar ym 1944 a'i chyhoeddi yn rhifyn 23 Chwefror 1944 o'r Faner, tra cyhoeddwyd y ddwy soned Elw ac Awen mewn rhifyn mis Tachwedd o'r Faner yr un flwyddyn.
Copi o rifyn Mawrth 1931 o bapur Y Ford Gron, sy'n cynnwys y gerdd Soned i Bedlar gan Waldo Williams; a thoriad papur newydd (yn bur debyg, rhifyn Mai 1932 o The Welsh Outlook) yn cynnwys cyfieithiad o'r gerdd gan Wil Ifan (y gweinidog Annibynnol, bardd a llenor William Evans (1883-1968)).
Llyfr nodiadau yn cynnwys copi teg o'r awdl Tŷ Ddewi gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyfansoddwyd yr awdl ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936, ond bu'r cynnig yn aflwyddiannus.
Trafodaeth gan Jâms (James) Nicholas o'r awdl Tŷ Ddewi yn rhifyn 12 Hydref 1957 o bapur newydd Y Seren.
Copïau llawysgrif drafft a llungopïau o ran o gywydd Waldo Williams Y Tŵr a'r Graig (yma'n dwyn y teitl [?gwreiddiol] 'Rhwng y Ddwy Garn'), y copïau llawysgrif a chopïau gwreiddiol y llungopïau yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd y cywydd am y tro cyntaf yn rhifyn Tachwedd 1938 o'r cylchgrawn Heddiw.
Toriad o rifyn 16 Ebrill 1941 o'r Faner, sy'n cynnwys cerdd gan Waldo Williams yn dwyn y teitl Cyrraedd yn Ôl (dan bennawd 'Led-Led Cymru'). Tros y ddalen (dan bennawd Y Golofn Farddol), ceir brawddeg o ganmoliaeth i'r gerdd.
Darnau rhyddiaith gan, neu eitemau'n ymdrin â darnau rhyddiaith gan, Waldo Williams, gan gynnwys ei 'Ddatganiad' ('Statement') yn erbyn gorfodaeth milwrol; pamffledyn yn seiliedig ar y sgwrs radio wreiddiol Paham yr wyf yn Grynwr; adolygiadau llenyddol o'r wasg; ac ysgrifau drafft ar y bardd a'r llenor D. J. Williams, ar y gynghanedd ac ar emynwyr y ddeunawfed ganrif.
Toriad papur newydd yn adrodd fel yr ennillodd Waldo Williams gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod y Tabernacl, Clunderwen, Mai 1931, gyda'i gynnig 'Ffair Ceffylau Bach'. Crybwyllir hefyd lwyddiant diweddar Waldo yng nghystadleuaeth stori fer y cyfnodolyn Y Ford Gron.
Pamffledyn printiedig yn dwyn y teitl Paham yr wyf yn Grynwr gan Waldo Williams. Darlledwyd y cynnwys yn wreiddiol mewn sgwrs radio ar y 15fed o Orffennaf 1956 ac yna ei gyhoeddi ym mhapur newydd Seren Cymru ar 25 o Fehefin 1971. Ymunodd Waldo Williams â'r Crynwyr yn ystod y 1950au, gan fynychu eu tŷ cwrdd yn Aberdaugleddau.
Llyfr nodiadau yn cynnwys ysgrif ddrafft gan ac yn llaw Waldo Williams ar y bardd a'r llenor D. J. Williams; a thrawsgrifiadau o emynau a nodiadau ar emynwyr o'r ddeunawfed ganrif yn llaw Waldo Williams. Ceir nodyn yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, ar glawr y gyfrol.
Adolygiad Waldo Williams o Cerddi Rhydd gan Euros Bowen (Gwasg y Brython, 1961) a Yr Efrydd o Lyn Cynon, a Cherddi Eraill gan Pennar Davies (Gwasg y Dryw, 1961) a dynnwyd o ffynhonell brintiedig.
Adolygiad gan Waldo Williams o Y Gân Gyntaf gan Bobi Jones (Gwasg Aberystwyth, 1957) a dynnwyd o gyfrol brintiedig; ynghyd ag erthygl gan Bobi Jones yn dwyn y teitl 'Ceiriog - y bardd di-synnwyr', hefyd wedi'i dynnu o [?yr un] gyfrol brintiedig. Ar un ddalen, ceir nodyn [?yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo]: 'Adolygiad - Canu Bobi'.
Eitem o bapur newydd y Western Mail yn cynnwys rhan o gyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Ffarm (1953), cyfrol hunangofiannol y bardd a'r llenor D. J. Williams. Cyhoeddwyd y cyfieithiad dan y teitl The Old Farmhouse ym 1961.
Nodiadau gan ac yn llaw Waldo Williams, yn ôl pob tebyg wedi'u paratoi ar gyfer cyflwyno darlithoedd dosbarthiadau nos, y deunydd dan sylw yn ymdrin gan fwyaf â hanes Cymru, y gynghanedd a'r iaith Gymraeg.
Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei ysgol haf yn Aberystwyth, Gorffennaf 1958. Ar glawr y gyfrol ceir llofnod Dilys Williams ('A[ngharad] D[ilys] Williams'), chwaer Waldo, ynghyd â'r geiriau 'Cyrsiau' a 'March Amheirchion', eto yn llaw Dilys Williams.
Copïau teipysgrif o gerddi yn dwyn y teitlau 'March Amheirchion' a 'Swyddogion yn llys Hywel Dda'. Mae arysgrifau ar y dalennau yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, yn datgan mai ffrwyth llafur aelodau ysgol haf Waldo Williams, a gynhaliwyd yn neuadd Pantycelyn, Prifysgol Cymru Aberystwyth yn y 1950au, yw'r cerddi.