Showing 173 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd, file
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau J-O,

Llythyrau, [1962]-[1970]. Ymhlith y gohebwyr mae Selwyn [Jones] (15), A. O. H. Jarman, Dafydd Glyn Jones, Thomas Jones, Gildas [Jaffrennou] (2), [T.] Llew [Jones], David Jenkins (4), Gwenallt (2), J. R. Jones, Glyn [Jones] (2), Dafydd Iwan (2), Bedwyr [Lewis Jones] (3), Bobi Jones (4), Gwilym R. [Jones], R. Tudur Jones, Saunders Lewis (4), Alun Llywelyn-Williams, Roland Mathias (3), T. J. [Morgan] (4), Dyfnallt [Morgan], Derec Llwyd Morgan (7), Proinsias Mac Cana, W. Rhys Nicholas (2), a Dyddgu [Owen].

Jones, Selwyn, 1928-1998.

Dyddiadur,

Yn cynnwys cofnodion achlysurol rhwng 3 Ebrill 1941 a 30 Rhagfyr 1948 mewn llyfr nodiadau.

Traethawd MA,

Traethawd: 'Natur a datblygiad y dehongliad o Gymru gan awduron Eingl-Gymreig a beirniadaeth lenyddol', Prifysgol Lerpwl, 1961 ynghyd â thaflen y seremoni, Mehefin 1961.

Efrydiau Allanol,

Papurau, [1961]-1992, gan gynnwys memorandwm Alwyn D. Rees, 1969, yn Saesneg, ynglŷn â chyflwyno tystiolaeth i Gomisiwn Russell ar sefyllfa addysg i oedolion yn ardal Prifysgol Aberystwyth.

Rees, Alwyn D.

Detholiad o lenyddiaeth,

Darnau a ddewiswyd ganddo fel maes llafur ar gyfer cyrsiau llenyddiaeth yn Llandysul, Pencader a Dryslwyn, 1970-1971, gyda nodiadau esboniadol arnynt, ynghyd â thaflenni cyrsiau llenyddol eraill.

Mapiau,

Mapiau a baratowyd ganddo ar gyfer cyrsiau gan gynnwys 'Cymru'r Mabinigi a'r Rhamantau' a 'Y Celtiaid yn ymledu', 1970-[1991].

Dyddiaduron y Parch. John Jones,

Papurau’n ymwneud â’i erthygl 'Dyddiaduron y Parch. John Jones, M.A. (1773-1853)' a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, 1970, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Idris [Foster], Mari [Ellis], T. I. Ellis (4). Ceir dyfyniadau hefyd o'r dyddiaduron, a gwahanlithoedd o'r erthygl, 1970, a thestun y dyddiaduron, 1971.

Foster, Idris, 1911-1984

Erthyglau,

Llawysgrifau erthyglau, adolygiadau a beirniadaethau'n bennaf, [1973]-1992, gan gynnwys nifer a anfonwyd at gylchgronau a phapurau Cymreig eraill fel Y Faner, Barn, Barddas a golygyddol Taliesin. Ceir hefyd Ddarlith Dyfnallt 'Yr ymwybod o genedl yng Nghymru diweddar', 1980; Darlith Flynyddol Emrys ap Iwan, Abergele, 1985; 'Gysfenu i'r wasg gynt', (Darlith Radio Flynyddol BBC Cymru, 1980) a 'Saunders Lewis 1893-1985', Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986.

Beirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol,

Gwahoddiadau i feirniadu mewn cystadlaethau llenyddol, 1984-1990, gan gynnwys y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl a'r Cyffiniau 1985, ynghyd â chopi o'i feirniadaeth yng nghystadleuaeth yr ysgrif bortread yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983.

Llythyrau o Fanceinion,

Llythyrau, [1904]-[1909], 1918, a anfonwyd at deulu Bryngolau, ger Corwen, oddi wrth aelodau’r teulu yn ardal Moss Side ym Manceinion, ynghyd ag adysgrifau ohonynt a dadansoddiad o’r patrwm llythyru ganddo.

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol gan gynnwys llungopi o deyrnged i'w dad John Lloyd gan D. Howell Evans, [?1971]; llungopi, 1977, o anerchiad ei ewythr David Lloyd Jones, Hengaeruchaf, 'Trem ar yr Achos yng Nglanrafon', [1950x1958]; rhestr: 'Enwau mannau ym Mhenllyn a nodir yn y Cambrian Register 1795' - plwyfi Llanfor a Llandderfel ganddo; papurau'n ymwneud â chyndeidiau Leslie Roberts, Unol Daleithiau America, a ymfudodd o Caehir, Cwmtirmynach, ynghyd â chopi o Edward Jones, Atgofion am Glan'rafon (Cymdeithas Lyfrau Meirion, 1976) a llythyr oddi wrth Hewlett Johnson, 1955.

Johnson, Hewlett, 1874-1966.

Results 141 to 160 of 173