Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn,
Print preview View:

EW [at M. Jones, Edern],

Yn danfon Telynegion Maes a Môr - oni chlywsai am y gyfrol o'r blaen? Manylion am y cerddi y ceir cerddoriaeth ar eu cyfer.

Alfred P. Graves, Harlech,

Yn amgau copi teipysgrif 'The Song of the Heather' (rhif 183a). Douglas Hyde yn bwriadu llunio fersiwn ohoni yn yr iaith Wyddeleg. Saesneg.

EW [at y Parch. W. T. Ellis, Porthmadog],

Yn protestio'n chwyrn yngl?n â'r ddrama 'La Zone' a lwyfannwyd gan gwmni capel Y Garth, Porthmadog. Amgaeir llythyr protest (2 fersiwn) (rhif 188a-b) a gyhoeddir yn y wasg oni cheir ymateb boddhaol i'w gwyn.

EW at 'R' [R. J. Rowlands, 'Meuryn'],

Gwendid corfforol. Wedi mwynhau'r ysgrif ar 'Berw'. Englyn Eisteddfod Yr Wyddgrug - Elfed yn rhy wan fel canolwr. Drama'r 'ysbryd' yn rhagorol. Yr Orsedd - ni all ddeall 'pleidgarwch' Meuryn iddi. Y 'tincera' a fu ar ei emynau.

Bob Owen, Croesor,

Yn gweddïo y caiff EW ei arbed i gyflwyno cyfrol arall o gerddi i'r genedl. Bu mor hyf â chrybwyll wrth Ernest Rhys y dylai EW dderbyn 'King's Bounty'. Digon cyfyng yw hi ar Ernest Rhys yntau.

T. R. Williams, Newcastle on Tyne,

Yn amgau ei gyfieithiad Saesneg o'r delyneg 'Gwylan' (rhif 196a); a gaiff ganiatâd i'w gyhoeddi? Wil Ifan am iddo gyhoeddi ei gyfieithiad o'i bryddest 'Bro fy Mebyd'.

W. S. Gwynn Williams, Llangollen,

Hoffai osod 'Telynegion y Misoedd' neu 'Telynegion y Môr' ar gyfer lleisiau plant a cherddorfa. Yn edmygu ei waith yn fawr; trueni na chawsai'r pleser o'i gyfarfod. Saesneg.

F. A. Rees, Llundain,

Yn ailddanfon llythyr G. Rees [rhif 200] a ddychwelwyd gan EW heb ei agor, gan fawr obeithio y gellir ei argyhoeddi nad oedd a wnelo GR ddim â'r hyn a gyhoeddwyd yn Y Brython.

Results 121 to 140 of 318