Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Print preview View:

Erthyglau,

Teipysgrifau erthyglau yn bennaf a rhai adolygiadau, [1987]-1992, gan gynnwys rhai'n ymwneud â Robert Owen, Fourcrosses. Ceir hefyd wahanlithoedd o'r erthyglau canlynol ganddo: 'Cymru yn Saesneg', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1966; 'Just a curiosity', Journal of the Merioneth Historical and Record Society, 1968; 'Coflyfr Thomas Williams, 1857-1901', Journal of the Merioneth Historical and Record Society; 'John Griffith, y gohebydd', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1978; 'The Welsh language in journalism', Meic Stephens (ed.), [1979]; a 'T. Gwynn Jones fel cynghorwr llenyddol', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1981.

Erthyglau cymysg,

Teipysgrifau erthyglau gan gynnwys trosiad o 'When Voltaire came to Heaven' gan Arthur Clutton-Brock ac 'Amser i ddysgu. 1936 (pennod o hunangofiant)'.

Hanes lleol,

Papurau, [1904]-1992, yn adlewyrchu'i ddiddordeb mewn hanes lleol gan gynnwys nodiadau ymchwil ar gyfer ei draethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer ...'.

Llythyrau o Fanceinion,

Llythyrau, [1904]-[1909], 1918, a anfonwyd at deulu Bryngolau, ger Corwen, oddi wrth aelodau’r teulu yn ardal Moss Side ym Manceinion, ynghyd ag adysgrifau ohonynt a dadansoddiad o’r patrwm llythyru ganddo.

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol gan gynnwys llungopi o deyrnged i'w dad John Lloyd gan D. Howell Evans, [?1971]; llungopi, 1977, o anerchiad ei ewythr David Lloyd Jones, Hengaeruchaf, 'Trem ar yr Achos yng Nglanrafon', [1950x1958]; rhestr: 'Enwau mannau ym Mhenllyn a nodir yn y Cambrian Register 1795' - plwyfi Llanfor a Llandderfel ganddo; papurau'n ymwneud â chyndeidiau Leslie Roberts, Unol Daleithiau America, a ymfudodd o Caehir, Cwmtirmynach, ynghyd â chopi o Edward Jones, Atgofion am Glan'rafon (Cymdeithas Lyfrau Meirion, 1976) a llythyr oddi wrth Hewlett Johnson, 1955.

Johnson, Hewlett, 1874-1966.

Huws y Geufron,

Llungopïau o ohebiaeth rhwng Robin Gwyndaf ac aelodau o deulu’r bardd Hugh Lloyd Williams Hughes, Y Geufron Fawr, Corwen, 1973-1978, ynghyd ag enghreifftiau o’i farddoniaeth. [Cyhoeddwyd detholiad o'i waith barddonol yn ei gyfrol Cerddi'r Geufon (Dinbych, 1940)].

Gwyndaf, Robin

Hengaer,

Papurau, [1986]-[ 1989], yn ymwneud â'i erthygl 'Hengaer (Uchaf), Llawrybetws', a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, cyf. 10 (1989), a gyda chywyddau Rhisiart o'r Hengaer, ynghyd â llungopïau am yr ymholiad i berchnogaeth Hengaer yn 1588 (ar gadw yn yr Archifau Cenedlaethol) a gwahanlith o'r erthygl.

Papurau Frances Lloyd,

Llythyrau teuluol, llythyrau oddi wrth Tecwyn Lloyd, tystysgrifau lefel O mewn Cymraeg a phapurau eraill, [1870]-1973.

Lloyd, Frances, d. 1980

Results 121 to 140 of 207