Showing 3783 results

Archival description
file
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Caneuon

Mae'r ffeil yn cynnwys rhai darnau, 1988-1999, ar gyfer Cystadleuaeth Lieder.

Caneuon Lieder

Mae'r ffeil yn cynnwys cyfieithiadau (geiriau'n unig), 1988-1998, ar gyfer Cystadleuaeth Lieder.

Gohebiaeth a chofnodion ariannol

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1987-2000, yn ymwneud â chyfieithiadau o ganeuon ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Ceir sylwadau a nodiadau'n ymwneud â chyfieithiadau unigolion eraill yn bennaf gyda rhai cyfieithiadau gan John Stoddart yn eu plith. Ceir hefyd taliadau am waith cyfieithu, golygu, ac ymgynghori lleisiol, 1987-2000.

'Gemau Hwngaria'

Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o'r llyfr Gemau Hwngaria a baratowyd ar y cyd rhwng Glyn M. Ashton a Tamâs Kabdebo. Ceir drafft o'r rhagymadrodd i'r llyfr a chyfieithiadau i'r Gymraeg o straeon gwerin Hwngari.

Llyfrau nodiadau

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau nodiadau, sef llawysgrifau o'r nofelau 'Dewis llais?', 1978-1979; 'Choose a voice?', 1981-1982; 'Newid ysgol, newid byd', 1979-1980; 'New school, new stage' (anghyflawn), 1980-[?1981]; 'Ynys y cylch' (yn cynnwys ail gopi o'r cynllun a nodiadau ymchwil), 1982-1985; 'Patrwm rhosod', 1982; a 'Reed music', 1986.

Torion papur newydd

Deunydd printiedig, [1900x1949], sydd yn bennaf yn dorion o erthyglau wedi'u hysgrifennu gan y Parch. W. Glasnant Jones. Mae un erthygl yn hysbysebu ei hunangofiant Cyn Cof Gennyf a Wedyn (1949).

Is-Bwyllgor Marchnata,

Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Marchnata, ynghyd â chyfrifon, gohebiaeth, adroddiad, taflenni a thorion o'r wasg yn ymwneud â deunydd hysbysrwydd, nwyddau i'w gwerthu, a gwaith y Pwyllgor yn gyffredinol.

Gohebiaeth gyffredinol 1986,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis a Judith Maro yn trafod eu llyfrau a materion eraill, Angharad Thomas yn trafod Plaid Cymru, y posibilrwydd o symud i Lundain a phynciau eraill, a Ioan M. Richard yn ateb cyhuddiadau yn LOL yn ymwneud â Phlaid Cymru a Meibion Glyndŵr. Yn ogystal ceir llun-gopïau o'r llythyrau a anfonwyd allan yn galw am ddinistrio hysbysebion Police conspiracy, copi o'r 'Arolwg o'r Cylchgronau a noddir gan Gyngor y Celfyddydau' gan Rhodri Williams, a phapurau yn ymwneud â'r angen am wythnosolion, a llythyrau yn ymwneud ag Y Llosgi gan Robat Gruffudd.

Results 121 to 140 of 3783