Dangos 187 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. J. Williams, Abergwaun
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau M (Morgan-Moss)

Llythyrau, [1922]-[1968]. Ymhlith y gohebwyr mae Derec [Llwyd Morgan] (4), Dyfnallt Morgan (3), Elena Puw Morgan (1), Herbert Morgan (2), Prys Morgan (1), T. J. Morgan (9), R[hys] Hopkin Morris (1) a Gwenfron Moss (1).

Morgan, Derec Llwyd

Llythyrau N-O

Llythyrau, [1917]-1969. Ymhlith y gohebwyr mae James Nicholas (7), W. Rhys Nicholas (2), Tadgh Ó'Donnchadha (Torna) (4), J. Dyfnallt Owen (5) a B. G. Owens (1).

Nicholas, James

Llythyrau oddi wrth ei brawd

Llythyrau, 1902-[1915], oddi wrth Eben Evans, ynghyd â llythyrau, [1916]-[1917], oddi wrth ei wraig Marie yn ymwneud â'u pryder am ddiogelwch Eben. Yr oedd Eben yn athro yn Llundain ond collodd ei fywyd yn Ffrainc.

Llythyrau oddi wrth Ezra Owen

Llythyrau, 1910-1916, oddi wrth ei chyfaill agos y Corporal Ezra Ewart Owen, ynghyd â thaflen brintiedig y gwasanaeth coffa a gynhaliwyd iddo yn Eglwys MC Grove Place, Port Talbot, Medi 1916. Collodd ei fywyd ar faes y gad yn Ffrainc

Llythyrau oddi wrth Flora Forster

Llythyrau, 1918-1925, 1930, 1937, oddi wrth Flora Macrae Forster at D. J. Williams yn ymwneud yn bennaf â'u perthynas bersonol, gan gynnwys copi o lythyr a ysgrifennwyd gan D. J. Williams yn 1924 o Landernou, Llydaw, a llythyr, 1923, oddi wrth Alice Forster ato.

Forster, Flora

Llythyrau oddi wrth gyfeillion

Llythyrau, [1916]-1965, gan gynnwys rhai yn cydymdeimlo â hi adeg marwolaeth ei brawd Eben a hefyd llythyrau'n dymuno'n dda iddi ar ei phriodas yn 1925. Yn ogystal ceir llythyrau y tybir ei bod wedi'u hetifeddu, gan gynnwys tri llythyr, [1866x1895], a llythyr oddi wrth M[ichael] D. Jones o'r Bala, 1885, at gyfaill.

Jones, Michael D. (Michael Daniel), 1822-1898

Llythyrau oddi wrth gyfeillion a llenorion

Llythyrau, 1911-1969, a anfonwyd at D. J. Williams, gan gynnwys ffeiliau unigol ar gyfer cyfeillion agos ato fel Saunders Lewis, Kate Roberts a Lewis Valentine, a ffrindiau oedd yn filwyr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos Penyberth a llythyrau'n trafod materion gwleidyddol megis ei waith gyda Phlaid Cymru. Mae nifer yn mynegi gwerthfawrogiad o'i waith fel llenor a llawer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd a darlithydd poblogaidd. Yn fynych ceir drafft o ateb D. J. Williams.

Llythyrau oddi wrth Kate Roberts

Llythyrau, [1927]-1969, oddi wrth Kate Roberts at D. J. Williams, yn ymwneud â phynciau megis Plaid Cymru, ei gwaith creadigol hi, Gwasg Gee a'r Faner, ynghyd â thri llythyr, 1934, yn rhoi ei barn ar y sgetsys i'w cyhoeddi yn Hen Wynebau (Aberystwyth, 1934) ac ar ei weithiau eraill. Yn y ddau lythyr cyntaf defnyddia'r ffurf 'Catrin Robaits' wrth lofnodi. Yn fynych ceir sylwadau wedi'u hychwanegu gan Morris Williams (Morus Cyffin) arnynt.

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyrau oddi wrth Lewis Valentine

Llythyrau, [1925]-1969, oddi wrth Lewis Valentine at D. J. Williams, yn trafod ei drefniadau pregethu a'i waith gydag Undeb y Bedyddwyr, Plaid Cymru, ac yn ymateb i weithiau llenyddol y llenor. Yn llythyr 6 Chwefror 1962 ceir nodiadau bywgraffyddol ganddo ar gyfer ysgrif D. J. Williams yn [Seren Gomer] wedi iddo gael ei ethol yn Is-Lywydd Undeb y Bedyddwyr. Mae'r llythyr olaf oddi wrth Margaret Valentine.

Valentine, Lewis

Llythyrau o'r carchar

Pump llythyr, [1937], oddi wrth D. J. Williams wedi'u hysgrifennu ar bapur swyddogol Wormwood Scrubs, tri ohonynt at ei wraig Siân, un llythyr at yr Athro [John] Hughes, [Montreal] a'r llall, ei lythyr olaf o'r carchar, at Joseph Jones, Prifathro Ysgol Sir Abergwaun ar y pryd. Dychwelwyd y llythyr hwn ato yn 1967 gan weddw'r prifathro. Ceir hefyd ddeunaw llythyr a ysgrifennodd Siân Williams at ei phriod adeg ei garchariad.

Llythyrau P

Llythyrau, 1918-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Alun Page (5), Dafydd [David] Hughes Parry (5), Gruffudd Parry (1), Tom Parry (9), Ffransis Payne (3), Iorwerth Peate (29), Llew Phillips (1), 'Dick' [Dr Richard Phillips] (14), y Barnwr Dewi [Watkin] Powell (2) a Caradog [Prichard] (2).

Page, Alun,

Llythyrau Penyberth

Llythyrau, [1936]-[1937], yn ymwneud â'r cyfnod yn dilyn Llosgi'r Ysgol Fomio, gan gynnwys llythyr, [1936], oddi wrth D. J. Williams at Siân Williams ac aelodau eraill o'r teulu a ysgrifennwyd yn fuan wedi'r weithred yn trafod y cyhuddiad yn ei erbyn sef 'arson of the King's property'; llythyrau oddi wrth bobl anhysbys; a chopi o lythyr a dderbyniodd Bob Owen, Croesor, oddi wrth Lywydd Clwb y Dynion Cymraeg yn Seattle, UDA, yn dangos eu cefnogaeth i'r weithred hon.

Llythyrau R (Roberts, L.-Rowley)

Llythyrau, [1914]-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Lynette Roberts (1), Bob [Roberts] ('Bob Tai'r Felin') (1), T. F. Roberts (4), Wyn Roberts (1), Syr Archibald Rowlands (18) (y ddau lythyr cyntaf, [1914] at Penry Pryce) ac [R. J. Rowlands], 'Meuryn' (1).

Roberts, Lynette, 1909-1995

Canlyniadau 121 i 140 o 187