Emyn-donau gan William James yn bennaf, [1904]-[1960], gan gynnwys 'Pen yr yrfa' a Gogoniant i Dduw-Tangnefedd i ddynion sef carol Nadolig wedi'i hargraffu. Bu'n godwr canu yn eglwys y Methodistiad Calfinaidd yn Salem, Aberystwyth, a chyfansoddodd nifer o emyn-donau i'r eglwys, ynghyd â llyfr yn dwyn y teitl ''Tônau arbenig'. Credir fod y llawysgrifau'n perthyn i organydd yr eglwys.
Casgliad o sgriptiau rhaglenni nodwedd a luniwyd gan Eluned Phillips ar gyfer y BBC yn ystod y 1950au a 1960au, gan gynnwys 'Yd y wlad', 'Rheolwr y banc' a 'Diwrnod ffair'.
Llythyr dyddiedig 16 Hydref 1916, wedi ei ysgrifennu gan y milwr Richard Jones o ffosydd y Somme yn Ffrainc at ei chwaer a'i gŵr ym Mrithdir, Dolgellau.
Sgript a sgript camera (ail ddrafft) y ffilm 'Bydd yn Wrol' gan John Owen, 1996, wedi ei chynhyrchu gan Terry Dyddgen-Jones, cynhyrchiad HTV ar gyfer S4C, ac a enwebwyd ar gyfer gwobr y ffilm deledu orau yng Ngŵyl Prix Europa TV Festival ym Merlin.
Llawysgrif dwy sioe gerdd: 'Culhwch ac Olwen' [gan Rhiannon Ifans] a 'Dŵr' [sioe am hanes Tryweryn gan Bethan Bryn a Jeremy Turner a berfformiwyd yng Ngŵyl Gerdd Dant Aberystwyth, 2003], gyda rhai gosodiadau cerdd dant.
Teipysgrif o lyfr gan Bob Owen, Croesor, a gyhoeddwyd ym 1943, gydag olion cywiro drwyddo yn llaw Iorwerth Peate a Thomas Parry. [Ceir hanes ysgrifennu'r llyfr yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Lenyddol 1941 (Hen Golwyn), tud. 141, a hefyd yn Rhagair T[homas] Parry i'r llyfr].
Casgliad o bapurau amrywiol yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru, wedi eu casglu ynghyd gan Meri Huws yn ystod y 1970au fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fel ymgyrchydd iaith ac yn adlewyrchu ei diddordebau gwleidyddol.
Llungopi o gyfarchiad Bryfdir i'r Parchedig E. Mornant Jones, gweinidog newydd Bethel, Nantymoel, ar achlysur ei briodas gyda Miss Lily Evans, Caerfyrddin, 15 Medi 1936, a hefyd copi o ffotograff o'r Parch. E. Mornant Jones.
Cofnod o gyfarfod i ddathlu cyfraniadau Roy Saer a Robin Gwyndaf i fyd traddodiadau gwerin rhwng 1964 a 2013, a luniwyd gan Robin Gwyndaf, Amgueddfa Werin Cymru, 2 Tachwedd 2013, mewn teipysgrif.
Casgliad bychan o bapurau yn ymwneud â'r Hen Gapel (Annibynwyr), Llanbrynmair, gan gynnwys rhestr testunau 'eisteddfod fawreddog' a gynhaliwyd yn ysgoldy'r eglwys yn 1874, a llythyr oddi wrth Abraham Thomas, Iowa, 1882, at John Brees, Brynderwen, Llanbrynmair.
Llyfrau nodiadau Haf Morris (1933-2012) a'i mam Mrs Laura Morris, Eirianfa, Trawsfynydd, yn cynnwys gosodiadau cerdd dant niferus ar ffurf sol-ffa yn bennaf ar gyfer cystadlaethau mewn eisteddfodau, a gosodiadau cyntaf Haf Morris. Bu'r ddwy yn hyfforddi llu o blant ac ieuenctid yn ardaloedd Trawsfynydd ac Ynys Môn dros gyfnod maith mewn cerddoriaeth werin a cherdd dant.
Dau lythyr teipiedig yn cydnabod rhodd o ddau lyfr i'r Llyfrgell Genedlaethol gan Mr J. W. Jones, Blaenau Ffestiniog, wedi eu llofnodi gan Thomas Parry, y Llyfrgellydd.
Casgliad o sgriptiau a geiriau sioeau cerdd, gwreiddiol ac addasiadau, a berfformiwyd yng Nghymru mewn eisteddfodau cenedlaethol a'r Urdd yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys 'Ffantasmagoria', 'Olifar', 'Streic!', 'Wilco', 'Inc yn y gwaed', 'Hersprê' a 'Y seren ddwyfol'. Aled Lloyd Davies a fu'n gyfrifol am lawer iawn o'r geiriau.