Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions file Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cymdeithas Gymraeg y Geltaidd,

  • NLW ex 2674.
  • file
  • 1980-1995.

Papurau Cymdeithas Gymraeg y Geltaidd ('Y Geltaidd'), Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1980-1995, gan gynnwys gohebiaeth, tocynnau a rhestri aelodaeth a llyfr cofnodion cyfarfodydd.

Cymdeithas Gymraeg y Geltaidd.

Cymdeithas yr Iaith : : Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau,

  • NLW ex 2501.
  • file
  • 2007.

Papur a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug, Awst 2007, yn dwyn y teitl 'Ardal yr Wyddgrug. Gwers i Gymru gyfan. Astudiaeth achos o ddatblygiadau tai anaddas', ynghyd â thaflen yn hysbysebu protest 'Coleg Cymraeg NAWR' ar y maes.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

'Cymwynas y cyfieithydd',

  • NLW ex 2410.
  • file
  • 1980.

Anerchiad teipysgrif Syr Thomas Parry yng Nghanolfan Addysg Bro Cernyw, 27 Medi 1980, ar achlysur dadorchuddio cofeb i'r cyfieithydd J. T. Jones ar ei gartref bore oes - Bron Hwylfa, Llangernyw.

Parry, Thomas, 1904-1985

Dan y Wenallt,

  • NLW ex 2647.
  • file
  • 2009 /

Sgôr llawysgrif mewn pensel ac inc o Dan y Wenallt, trosiad T. James Jones o'r ddrama adnabyddus Under Milk Wood gan Dylan Thomas, wedi'i gosod i gerdd dant gan Bethan Bryn ar gyfer côr lleisiau cymysg. Perfformiwyd y gwaith yn y Neuadd Fawr, Aberystwyth, i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn 75 oed, Mehefin 2009. = A manuscript score in pencil and ink of the well-known drama Under Milk Wood by Dylan Thomas translated into Welsh by T. James Jones as Dan y Wenallt and arranged to harp accompaniment by Bethan Bryn for mixed voice choir. This work was performed at the Great Hall, Aberystwyth, as part of the Cerdd Dant Society's 75th anniversary celebrations, June 2009.

Bryn, Bethan.

Darlithiau Meurig Owen, Lewisham,

  • NLW ex 2602.
  • file
  • [1993]-2006.

Darlithiau a draddodwyd gan Meurig Owen, gan gynnwys 'Anthropos', 1993; 'Nodiadau ar y cofebion yn Southwark i’r merthyr John Penri', 1994; 'Emynwyr Henaduriaeth Llundain', 2000; 'David Jones, (1895-1974), a Brockley artist and poet', Cymdeithas Hanes Lleol Lewisham, 2002; 'Yr achos yn Woolwich', 2006 a 'The Welsh church in Woolwich'; a 'Hanes Cymanfa’r Pasg, Henaduriaeth Llundain', 2006. = Lectures delivered by Meurig Owen, including Anthropos, 1993; notes on the memorials to the martyr John Penry in Southwark, 1994; Hymnists in the London presbytery, 2000; 'David Jones, (1895-1974), a Brockley artist and poet', Lewisham Local History Society, 2002; the cause in Woolwich and the Welsh church in Woolwich; and the history of the Easter singing festival in the London presbytery.

Owen, Meurig, 1919-

Deuddeg emyn dôn gan John Harris, Drefach, Llanelli,

  • NLW Misc. Records 561.
  • file
  • 1927-1932.

Deuddeg emyn dôn gan John Harris, glöwr o Drefach, Llanelli, a dreuliodd ei flynyddoedd olaf yn ei gadair gornel yn diodde o fogfa'r glöwr. Mae geiriau'r cyfan ond un gan y rhoddwr, a geiriau'r llall gan y Parch. R. M. Rhys, Drefach. Rhaglenni Cyngerdd y Plant, Gŵyl Ddewi, yng Nghapel Esgairlas, Ffaldybrenin, 1927-1932, trefnydd Daniel Williams, Pantmaen, Cellan, hen ewythr i'r rhoddwr, gyda llythyron ynglŷn â'r cyngherddau at Daniel Williams oddi wrth Ben Davies, 'Glantegwen', B. Morgan, D. Lloyd Morgan a D. T. Owen, 1929-1930, a phenillion gan D. O. Jenkins a 'Glantegwen'. = Twelve hymn tunes by John Harris, a miner from Drefach, Llanelli, who spent his last years confined to his chair by silicosis. The words of eleven of them are by the donor, and the words of the other by the Rev. R. M. Rhys, Drefach. Programmes of St David's Day children's concerts held at Esgairlas Chapel, Ffaldybrenin, 1927-1932, organised by Daniel Williams, Pantmaen, Cellan, an old uncle of the donor, with letters concerning the concerts to Daniel Williams from Ben Davies, 'Glantegwen', B. Morgan, D. Lloyd Morgan and D. T. Owen, 1929-1930, and verses by D. O. Jenkins and 'Glantegwen'.

Diwydiannau coll,

  • NLW ex 2843.
  • file
  • [1943] /

Teipysgrif o lyfr gan Bob Owen, Croesor, a gyhoeddwyd ym 1943, gydag olion cywiro drwyddo yn llaw Iorwerth Peate a Thomas Parry. [Ceir hanes ysgrifennu'r llyfr yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Lenyddol 1941 (Hen Golwyn), tud. 141, a hefyd yn Rhagair T[homas] Parry i'r llyfr].

Owen, Bob, 1885-1962.

Dogfennau'n ymwneud â mudiad Adfer,

  • NLW ex 2586.
  • file
  • [1970]-[1971].

Tystysgrif y rhoddwr Huw Ceiriog Jones yn dangos ei fod yn berchen ar gyfranddaliadau yng nghwmni Adfer Cyf Ltd, papur ysgrifennu swyddogol yn dangos swyddogion y cwmni, ynghyd â chopi o Femorandwm ac Erthyglau'r cwmni, 9 Medi 1970. = A share certificate in Adfer Cyf Ltd which belonged to the donor Huw Ceiriog Jones, official headed notepaper with names of company officials, together with a copy of the Memorandum and Articles of Association of Adfer Limited, 9 September 1970.

Adfer.

Results 61 to 70 of 246