Showing 210 results

Archival description
Papurau Waldo Williams
Print preview View:

Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif; Hywel Dda

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams sy'n cynnwys nodiadau a gymerwyd o Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif gan R. T. Jenkins (Gwasg Prifysgol Cymru, 1928); nodiadau ar Hywel Dda (c. 880-950); nodiadau ar hanes economaidd a gwleidyddol; a mân nodiadau eraill.

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Brenda Jones

Llythyr, 4 Mai 1960, at Waldo Williams oddi wrth Brenda Jones yn amgau barddoniaeth yng Nghymraeg a Saesneg gan D .T. Jones, o bosib ei gŵr, rhai o'r cerddi mewn teipysgrif a rhai ohonynt wedi'u copïo yn llaw Brenda Jones; hefyd, copïau teipysgrif o farddoniaeth gan Esther Phillips.

Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth Anna Wyn Jones

Llungopïau o lythyrau, 6 Mawrth [1967], 19 Mawrth [1967], 30 Hydref [1967], 18 Awst 1970, 18 Mai 1971, at Waldo Williams oddi wrth Anna Wyn Jones, un o gyd-athrawon a chyfaill Waldo yn Ysgol Ramadeg Botwnnog. Ynddynt, ceir cyfeiriadau at Dilys Williams a Mary Francis (née Williams), chwiorydd Waldo, ynghyd â thrafodaeth o Yr Heniaith, un o gerddi Waldo. Cynigiodd Waldo eglurhad o'r gerdd mewn llythyr nas cynhwysir yma ond a ddyddiwyd 16 Mawrth 1967 ac a anfonwyd oddi wrth Waldo at Anna Wyn Jones rhwng ei hymholiadau yn ei llythyr dyddiedig 6 Mawrth [1967] a'i hymateb i'w eglurhad yn ei llythyr dyddiedig 19 Mawrth [1967] (gweler nodyn isod). Ysgrifennwyd y ddau lythyr dyddiedig 18 Awst 1970 a 18 Mai 1971 at Waldo pan oedd dan ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd; dyddir y llythyr olaf ddeuddydd cyn ei farwolaeth ar 20fed o Fai 1971.

Teyrngedau i Waldo Williams

Toriadau papur newydd yn dwyn teyrngedau i Waldo Williams yn dilyn ei farwolaeth ar 20fed o Fai 1971, gan gynnwys teyrngedau ar ffurf barddoniaeth gan ei gyfeillion Euros Bowen a W. R. (William Rees) Evans.

Waldo's Witness

Rhaglen brintiedig ar gyfer y ddrama Waldo's Witness gan y bardd a'r llenor Nigel Jenkins a lwyfanwyd gan Gwmni Theatr Coracle.

Tystlythyrau John Edwal Williams

Tystlythyrau John Edwal Williams wrth iddo ymgeisio am swyddi wedi iddo raddio o'r Coleg Normal, Bangor, gan gynnwys tystlythyron oddi wrth John Price, prifathro'r Coleg Normal, ac oddi wrth J. Cocker, prifathro Ysgol Maenclochog, lle cwblhaodd John Edwal dymor prentisiaeth fel athro; ynghyd â curriculum vitae (anghyflawn) John Edwal [yn ei law ei hun].

Lewis Williams

Deunydd yn ymwneud â Lewis Williams, brawd John Edwal Williams, gan gynnwys ffotograff o Lewis Williams ac eraill; cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth Lewis Williams; ysgrif deipysgrif [?gan Lewis Williams]; a gohebiaeth o'r Unol Daleithiau wedi'i gyfeirio at John Edwal ynglyn ag eiddo y diweddar Lewis Williams wedi i hwnnw golli ei gyllidion yn dilyn cwymp Wall Street ym 1929. Ceir nodyn yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal, ar frig un dalen (am David Williams, gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).

Gwybodaeth achyddol

Ebost, dyddiedig 5 Rhagfyr 2011, at dderbynnydd anhysbys yn cynnwys gwybodaeth achyddol am deulu John Edwal Williams. Ceir yr enw 'Dai' (David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal - gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams) ar frig y ddalen yn llaw David Williams.

Angharad Williams (née Jones)

Deunydd gan, ym meddiant neu'n ymwneud ag Angharad Williams (née Jones), mam Waldo Williams, gan gynnwys llyfr lloffion a gasglwyd ynghyd gan Angharad; llyfrau nodiadau yn llaw Angharad; cyfrifiadau a gwybodaeth achyddol yn ymwneud â theulu Angharad, yn arbennig felly ar ochr ei thad, John Jones; ac ysgrif goffa i Angharad a gyhoeddwyd yn y wasg leol yn fuan wedi ei marwolaeth ym 1932.

William Price Jones

Cardiau post, un â marc post 19 Rhagfyr 1915 a'r llall â marc post aneglur, yn dwyn cyfarchion Nadolig at 'Mrs J. E. Williams' (Angharad Williams) oddi wrth ei brawd, William Price Jones. Mae'r cyfeiriad 'Oak or Elm Cottage' ar un o'r cardiau yn enghraifft o hiwmor William Price Jones (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39; gweler hefyd Cardiau post at Mary Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - Mary Francis (née Williams)).

Adroddiad blynyddol y Durban Benevolent Society am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 1974 a roddwyd i neu a anfonwyd at William Price Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), ynghyd â nodyn ar ran y Gymdeithas yn cyfeirio at gwymp a gafodd y derbynnydd, gan obeithio am wellhad buan. Mae'r gyfrol yn cynnwys adroddiad gan William Price Jones, ysgrifennydd a thrysorydd y Gymdeithas.

Llungopïau o lythyrau, 27 Awst 1973 a di-ddyddiad (ond ceir y dyddiad '28 10 76' mewn llaw anhysbys ar frig y llythyr dyddiedig 27 Awst 1975, sydd o bosib yn cyfeirio at y llythyr di-ddyddiad), a llythyr gwreiddiol, 17 Hydref 1975, oddi wrth William Price Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), at ei chwaer Mwynlan Mai Edmond (née Jones). Yn y llythyr di-ddyddiad ceir ôl-nodyn yn llaw William Price Jones a ffotograff ohono (wedi'i lungopïo yn unol â chorff y llythyr) wedi'i glymu i frig y llythyr. Ceir nodyn (heb ei lungopïo) [?yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad] ar frig yr un llythyr yn datgan 'Brawd ieuengaf Angharad i'w chwaer ieuengaf Mwynlan'. Mae'r llythyrau yn cynnwys peth o hanes bywyd William Price Jones yn Durban, De Affrica, cyfeiriad at farwolaeth ei wraig, Doreen, a hanes y llawdriniaeth a gafodd ar ei lygad.

Achau teuluol a chyfrifiadau

Llungopïau a chopïau gwreiddiol o goeden deuluol Angharad Williams (née Jones), yn olrhain manylion teulu ei mam, Margaret Jones, oddi ar Elias Jones, Cwm, Llangernyw. Mae rhai o'r dalennau yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad.

Coeden deulu Syr Henry Jones, brawd John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), a luniwyd - yn ôl nodyn [yn llaw David Williams, nai Waldo a gor-nai Angharad] ar ymyl y ddalen gefn - gan Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones) (a oedd, yn ôl tystiolaeth y goeden deulu, yn wyres i Syr Henry Jones); ynghyd â gwybodaeth bellach ynghylch ŵyrion, gor-ŵyrion a gor-gor-ŵyrion Syr Henry Jones yn llaw Jean Ware.

Llungopi o fanylion achyddol a arysgrifwyd ym meibl teuluol John a Margaret Jones, rhieni Angharad. Nodir genedigaethau plant ac ŵyrion John a Margaret Jones (gan gynnwys Angharad), ynghyd â'r wybodaeth mai anrheg briodas oddi wrth aelodau 'Temlwyr Da Brynaman' oedd y beibl. Yr oedd John Jones yn brifathro Ysgol Elfennol Brynaman ar y pryd.

Achau teuluol Angharad, yn deillio oddi wrth ei thaid a'i nain, Elias ac Elizabeth Jones, Cwm, Llangernyw; ynghyd â manylion achyddol yn llaw David ('Dai') Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad.

Allbrintiadau o fanylion a gymerwyd o gyfrifiadau 1861 a 1881 oddi ar wefan Ancestry.com yn dangos manylion am John Jones, tad Angharad, pan yn blentyn yn byw yn Cwm, Llangernyw, cartref ei rieni, ac yna ym mhlwyf Hanley Castle, Swydd Gaerwrangon, lle 'roedd yn gweithio fel garddwr a lle ganwyd ei ail fab, Azariah Henry Jones, brawd Angharad; hefyd, manylion am Angharad pan yn blentyn yn byw ym mhlwyf Hanley Castle, Swydd Gaerwrangon.

Allbrintiadau o gyfrifiadau 1861 a 1871 yn dangos manylion teulu Elias ac Elizabeth Jones, Cwm, Llangernyw, taid a nain Angharad ar ochr ei thad, a llungopi o gyfrifiad 1881 yn dangos manylion teulu John a Margaret Jones, rhieni Angharad, pan yn byw yn mhlwyf Hanley Castle, Swydd Gaerwrangon, lle ganed Azariah Henry Jones, brawd Angharad. Testun yn aneglur.

Azariah Henry Jones

Copi o ffotograff o Azariah Henry Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), a gymerwyd, yn ôl pob golwg, o ffynhonell brintiedig, ynghyd â rhai manylion bywgraffyddol amdano yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad.

Cardiau post oddi wrth Dilys Williams at Benni ac Elsie Lewis

Cardiau post, marc post 11 Ebrill 1974, marc post 29 [?Rhagfyr] 1975, 1 Ionawr 1977, 23 Gorffennaf 1980 (marc post 24 Gorffennaf 1980), a anfonwyd at Benni ac Elsie Lewis, Llanwnda, Wdig, Sir Benfro ac at Elsie Lewis, Abergwaun, Sir Benfro oddi wrth Dilys Williams.

Results 121 to 140 of 210