Showing 187 results

Archival description
Papurau D. J. Williams, Abergwaun
Advanced search options
Print preview View:

Papurau teuluol

Papurau'n ymwneud â theulu D. J. Williams yn ei fro enedigol yn ardal Rhydcymerau gan gynnwys Beibl y teulu a phapurau'n ymwneud â thenantiaid Penrhiw ac Abernant, 1808-[1967].

Beibl Penrhiw

Beibl yn perthyn i John Williams (1808-1886), tad-cu D. J. Williams yn Llansawel, yn cynnwys cofnodion, 1808-1925, ar gyfer genedigaethau a marwolaethau, gan gynnwys ychwanegiadau diweddarach yn llaw D. J. Williams a Siân Williams.

Teulu Penrhiw

Rhestr o'r rhoddion a'r taliadau, 22 Rhagfyr 1837, a dderbyniodd John Williams a Margaret James [tad-cu a mam-gu D. J. Williams] ar gyfer diwrnod ei neithior; marwnad, [1886], i'w dad-cu Jaci [John Williams], Penrhiw, Llansawel, gan 'Hen Gyfaill'; ynghyd â llungopïau, 1967, o gyfrifiad 1851 yn cynnwys cofnod ar gyfer teulu John a Margaret Williams, Penrhiw, a ddarparwyd gan D. Oswald Davies, a nodiadau teipysgrif, 1967, o gyfrifiad 1841-1861 a ffynonellau achyddol eraill.

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau, 1909-[1948], rhai ar lenyddiaeth Saesneg yn deillio o'i gyfnod yn y Brifysgol yn Aberystwyth a Rhydychen, [1911]-[1917]. Ceir hefyd lyfrau nodiadau o Ysgol Sir Abergwaun, gan gynnwys nodiadau ar y maes llafur, llyfr ysgrifennu Cymraeg Dillwyn Miles, 1932, a 'Llyfr y Cadw' sy'n cynnwys enghreifftiau o ysgrifennu creadigol y disgyblion Cymraeg, 1938-1943. Yn eu plith mae cyfraniadau gan Islwyn Lake a D. J. Bowen.

Miles, Dillwyn

Traethodau Rhydychen

Traethodau, 1916-[1918], a ysgrifennodd D. J. Williams ar lenyddiaeth Saesneg tra'n fyfyriwr yn Rhydychen, gan gynnwys rhai ar John Dryden, Ben Johnson, John Keats, Milton ac Alexander Pope [ymddengys mai fel ymarfer oeddent gan nad oes ôl cywiro arnynt gan law arall]; ynghyd â phapurau arholiad, Tymor y Drindod, 1918, yn y pwnc a rhestr o'r darlithoedd ar gyfer y tymor hwn.

Tystlythyrau

Tystlythyrau printiedig yn cynnwys un ar gyfer swydd Prifathro Ysgol Lewis Pengam, 1926; 1929 a 1936 ar gyfer swyddi prifathro; llythyr o gymeradwyaeth gan J. T. Job, 1929, ar gyfer swydd Prifathro Ysgol Sir Pwllheli a gan B[en] B[owen] Thomas a T. H. Parry-Williams pan oedd D. J. Williams yn cynnig am swydd gyda'r BBC yn 1936; ynghyd ag enghreifftiau o dystlythyrau unigolion eraill, 1912-1932; a thystlythyr a luniodd D. J. Williams ar gyfer y Parch. Lewis Valentine a oedd yn ymgeisio am swydd fel athro ar staff Coleg Bala-Bangor, [1950x1957].

Jôb, John T. (John Thomas), 1867-1938

Torion o'r wasg

Torion o'r wasg, [1912]-1969, yn cynnwys erthyglau ganddo neu amdano, gan gynnwys rhai o'r County Echo (yn arbennig 'Our Readers' Views') a'r Western Telegraph gan mwyaf yn ymwneud â phynciau fel gwleidyddiaeth yn lleol a chenedlaethol; addysg Gymraeg; cenedlaetholdeb; newyddion Abergwaun; ynghyd â llawer iawn o lythyrau at olygyddion papurau newydd oddi wrth D. J. Williams. Nodwyd y cynnwys a'r ffynhonnell ar yr amlenni yn fynych iawn ganddo.

Torion

Torion, [1912]-1953, yn ymwneud â phynciau amrywiol fel yr ymgyrch, 1948-1949, yn erbyn codi sinema yn Abergwaun a materion lleol ac adolygiadau o lyfrau gan awduron eraill gan gynnwys Pennar Davies (gol.), Saunders Lewis. Ei Feddwl a'i Waith (Dinbych, 1950).

Torion

Torion, [1955]-1969, yn ymwneud â phynciau amrywiol fel safbwynt gwleidyddol Desmond Donnelly; Plaid Cymru; crynodeb o anerchiad D. J. Williams i Gyngor yr Eglwysi Rhyddion, Abergwaun, yn Baner ac Amserau Cymru, 1957 a'i 'arwyr bore oes' yn Y Ddraig Goch, Rhagfyr 1958.

Papurau wedi'u crynhoi

Papurau, 1810-1969, gan gynnwys drafft yn llaw Waldo Williams o'i awdl 'Tŷ Ddewi' y dyfarnwyd iddi'r ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936, a cherddi eraill o'i waith; drama gan E. Eynon Evans; a sgript anterliwt gan W. R. Evans.

Barddoniaeth Waldo Williams

'Cywydd Waldo i'r Bwm Beili' (pan ddaeth i'w dŷ i gyrchu ei eiddo yn Haf 1955); llyfr nodiadau'n cynnwys drafft o awdl 'Tŷ Ddewi' gan Waldo Williams y dyfarnwyd iddi'r ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936; ynghyd â'r [cywydd mawl a ysgrifennodd i D. J. Williams adeg ei anrhegu yn Ysgol Haf Plaid Cymru, Abergwaun, Awst 1964] yn ei law.

Williams, Waldo, 1904-1971

Gwaith W. R. Evans

Sgript anterliwt 'Tri Chrafion Byd a Rhai Crafion Eraill, gan gynnwys Ambell Grafwr o Gymro' gan W. R. Evans, Y Barri, ynghyd â gwaith anghyflawn ganddo, [1959x1969].

Evans, W. R. (William Rees), 1910-1991

Results 121 to 140 of 187