Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn,
Print preview View:

EW at 'Cyndeyrn' [Robert Davies],

Ni wyr eto p'un o'r chwech englyn canlynol a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pwl. P'un sydd orau ganddo ef? Cerddi buddugol eraill o'i eiddo. Cerdd y Gadair a'r Goron.

EW at T[im] E[vans],

Cas ganddo wrthod [gweler rhif 179] ond mae ei nerfau'n gandryll. Brawychwyd ef gan farwolaeth sydyn câr a chyfaill annwyl - yn mynd i'r angladd heddiw.

F. A. Rees, Llundain,

Yn ailddanfon llythyr G. Rees [rhif 200] a ddychwelwyd gan EW heb ei agor, gan fawr obeithio y gellir ei argyhoeddi nad oedd a wnelo GR ddim â'r hyn a gyhoeddwyd yn Y Brython.

G. Rees, Llundain,

Diolch i EW am ei dynerwch; na sonier am faddeuant. Danfonodd golygydd Y Brython lythyr 'y bawddyn annuwiol' iddo ond dieithr hollol iddo yw'r llawysgrifen.

EW at [?].

Diolch am y gyfrol - mae wedi ei darllen 'mewn ysbryd addfwynder'. Mynegi barn am gynnwys a chrefft y cerddi. Drafft.

Gradd MA,

Llythyrau a chardiau yn llongyfarch EW ar dderbyn gradd MA, er anrhydedd, gan Brifysgol Cymru, 1918.

Results 121 to 140 of 318