Dangos 2258 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Carneddog Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

John W. Jones, (Ioan o'r Foel).

Y Foel Gwnus, Llithfaen. Hiraeth ar ôl ei ddiweddar dad [Richard O. Jones]. Bwriadu ysgrifennu ei hanes a chofnodi ei ddywediadau. Rhoi braslun o'i fywyd a'i waith.

Ioan o'r Foel (John W. Jones),

Foel Gwnus, Llithfaen. Llythyr, yn sôn yn bennaf am Tom y Cilia, Ioan Mai Evans ac ychydig o'i wiath. Ceir llith er cof am W. H. Roberts, Llithfaen.

Ioan o'r Foel (John W. Jones),

Foel Gwnus, Llithfaen. Gresyn iddo golli'r Eisteddfod eleni eto. Bu T. E. Nicholas yn darlithio ar dwyll Chamberlain - Sôn am ei lith wythnosol yn Y Cymro. Mwynhau ysgrif Canwy.

John Hugh Price,

Bournemouth. Diolch i Carneddog am y 'gydnabyddiaeth' yn y 'Manion'. Ei longyfarch ar ei briodas aur. Amgau englyn i'r pâr o waith Namorydd.

G. Prichard,

Porthmadog. Llythyr yn trafod Edward Morris fel ysgolfeistr.

Thomas J. Pritchard,

Swyddfa'r Heddlu, Conwy. Rhoi punt i helpu Carneddog gyda'r gwaith o gyhoeddi y gyfrol Tannau Tegfelyn. Canmol ei waith a'i golofn.

John Pugh,

Blaenlliw, Llanuwchllyn. Gofyn am hanes Eifion Wyn, cyfaddef mai ef oedd y gohebydd i'r Faner a alwodd Carneddog yn 'hen luman cadnoaidd'.

John Pugh,

Blaenlliw, Llanuwchllyn. Dymuno adferiad buan iddo ar ôl gweld llythyr ei fab yn yr Herald.

Elizabeth Richards,

Burlington, Colorado. Sôn am ei theulu a'r daith yn ôl i'r Amerig a'r difrod a wnaed gan y tywydd sych.

T. Richards.

(Llanfrothen). Cerdd groeso i weinidog newydd Siloam, Llanfrothen a Chroesor.

Tom Richards,

Y Llyfrgell, Coleg Bangor. Gofyn am gopi o'r llyfr O Greigiau'r Grug (cerdyn post).

Tom Richards,

Y Llyfrgell, Coleg Bangor. Crybwyll salwch Carneddog ac am y rhoddion a gafodd ar ei ymweliad diwethaf.

C. E. Roberts,

Cerrigydrudion. Cymryd deuddeg copi o Blodau'r Gynghanedd i'w gwerthu.

C. E. Roberts,

Cerrigydrudion. Diolch am y llyfrau, drwg ganddo glywed am ei afiechyd, annog yr ifanc i ddarllen a hybu llenyddiaeth Gymraeg.

Canlyniadau 121 i 140 o 2258