Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Llyfr casglu

Llyfr casglu Apel y Capeli Annibynol Cymreig y Parch. Evan Jones, Trelech, gyda tystlythyrau a manylion casgliadau yn yr Alban ac Iwerddon, Mawrth-Ebrill 1835 (ff. 2-11), a ddefnyddiwyd wedi hynnu gan Samuel Roberts fel llyfr nodiadau, [?1864]. = A Welsh Congregational Churches Appeal Fund collecting book of the Rev. Evan Jones, Trelech, with testimonials and details of collections in Scotland and Ireland, March-April 1835 (ff. 2-11), subsequently used by Samuel Roberts as a notebook, [?1864].
Yn cynnwys adysgrifau anghyflawn, [?1864], o 'Anerchion byrion wrth Fwrdd y Cymundeb' gan S.R. (ff. 12 verso-38 verso, 49-60), ac anerchiad i gyfarfod gweddi yn Birmingham yn Chwefror 1835 (ff. 42-48). Cyhoeddwyd rhain yn Samuel Roberts, Pregethau, areithiau a chaniadau (Utica, E.N., 1864), tt. 53-65, 71-75, 80-86, 221-224. = Contains incomplete transcripts, [?1864], of communion addresses by S.R. (ff. 12 verso-38 verso, 49-60), and of 'Outlines of an Address at the United Missionary Prayer Meeting in Birmingham' from February 1835 (ff. 42-48). There were published in Samuel Roberts, Pregethau, areithiau a chaniadau (Utica, N.Y., 1864), pp. 53-65, 71-75, 80-86, 221-224.

Jones, Evan, of Trelech, d. 1855.

Llyfr Melyn Tyfrydog

  • NLW MS 23969F.
  • File
  • 1763-1769

Cyfrol o achau, cerddi a nodion hynafiaethol, dyddiedig 1766 (ond a luniwyd tua 1763-1769), yn llaw Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), ac sy'n dwyn y teitl 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (t. xxv). Canolbwyntia rhan gyntaf y gyfrol ar achau disgynyddion Pymtheg Llwyth Gwynedd, y mwyafrif yn deuluoedd o Fôn (tt. 1-91; rhestrir y teuluoedd ar tt. xxvii-xxix). Ychwanegwyd arfbais liwiedig teulu Llwydiarth Esgob i gyd-fynd ag ach Hugh Hughes ei hunan ar t. 40. = A volume of pedigrees, poems and antiquarian notes, dated 1766 (but compiled around 1763-1769), in the hand of Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), and entitled 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (p. xxv). Pedigrees of the descendants of the Fifteen Tribes of North Wales, mostly Anglesey families, fill the first part of the volume (pp. 1-91; the families are listed on pp. xxvii-xxix). The coloured arms of the family of Llwydiarth Esgob are appended to the pedigree of Hugh Hughes himself (p. 40).
Cynhwysa'r gyfrol hefyd nodiadau hynafiaethol (t. 97 passim), trioedd a chynghorion (tt. 107-110, 116-119), ynghyd â nifer helaeth o gerddi Cymraeg (t. xiii passim), rhai wedi eu copïo o 'Delyn Ledr' William Morris, Caergybi (bellach BL Add. MS 14873) (tt. xvi, 119), ac eraill o gyfrol Evan Evans, Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (t. 182). Ymysg cerddi cyfoes y llawysgrif, ceir rhai gan David Ellis (t. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (t. 269), Hugh Hughes (tt. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (t. 235), a Goronwy Owen (t. 263). Diweddarwyd rhai o nodiadau hynafiaethol y gyfrol mewn dwylo diweddarach, hyd oddeutu 1858 (t. 50). Am restr o gynnwys y gyfrol, yn llaw Hugh Hughes, gweler t. xvii. = The volume also contains antiquarian notes (p. 97 passim), triads and wisdom (pp. 107-110, 116-119), together with a great number of Welsh poems (p. xiii passim), some copied from the 'Telyn Ledr' of William Morris of Holyhead (now BL Add. MS 14873) (pp. xvi, 119), and others from Evan Evans' Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (p. 182). Amongst contemporary poems in the manuscript are compositions by David Ellis (p. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (p. 269), Hugh Hughes (pp. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (p. 235), and Goronwy Owen (p. 263). Antiquarian notes of a later period were added to the manuscript, until c. 1858 (p. 50). For a list of the volume's contents, in the hand of Hugh Hughes, see p. xvii.

Hughes, Hugh, 1693-1776

Dyddiadur,

Llyfr nodiadau, 1957-1976, yn eiddo i T. Llew Jones, a ddefnyddiwyd yn achlysurol fel dyddiadur rhwng Tachwedd 1957 a Mawrth 1963 (ff. 1-61), gyda chofnodion unigol ar gyfer 16 Mehefin 1971 a 16 Hydref 1976 (ff. 61 verso-66). Ceir adroddiad, Chwefror-Mawrth 1963, o restiad ac erlyniad Emyr Llewelyn, a gyhuddwyd o danio ffrwydryn yng Nghwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63). = Notebook, 1957-1976, of T. Llew Jones, used sporadically as a diary between November 1957 and March 1963 (ff. 1-61), with single entries for 16 June 1971 and 16 October 1976 (ff. 61 verso-66). Included is an account, February-March 1963, of the arrest and prosecution of Emyr Llewelyn, accused of causing an explosion at Cwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Waldo Williams (ff. 2-45 verso passim), a'i gystudd olaf a'i farwolaeth (ff. 61 verso-64), Gwenallt (ff. 6, 52 verso), Proinsias Mac Cana (f. 6 recto-verso), Saunders Lewis (ff. 7 recto-verso), Alun Cilie (ff. 15, 20 verso, 38 verso, 64 verso-65), Cassie Davies (f. 17), Dic Jones (ff. 20 verso, 22), John Alun Jones (ff. 22, 52 verso, 54), W. Rhys Nicholas (ff. 22, 60 verso), Euros Bowen (ff. 29 verso-30 verso), Bobi Jones (ff. 31, 52 verso), Dilwen M. Evans (f. 32 recto-verso), Dewi Emrys (f. 41 verso), W. R. P. George (ff. 51, 58), Gwilym Tudur (f. 56 verso-57), ac Elwyn Jones (ff. 59 verso-60 verso); ceir cyfeiriadau hefyd at gystadlaethau'r Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Glyn Ebwy, 1958 (ff. 3 verso-4, 9, 31 verso, 33 verso-36), a Chaernarfon, 1959 (ff. 39 verso-40 verso), sinema symudol yn Nhregroes (ff. 4 verso-5), Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (f. 13 recto-verso), cyfarfod Plaid Cymru yn Aberaeron (f. 16 recto-verso), cyfarfod yr Urdd yn Llandysul (f. 17 verso), a barddoniaeth Gymraeg (ff. 29 verso-31).

Papurau Ioan Cunllo

  • NLW MS 16623i-iiiE.
  • File
  • 1834-1933

Papurau, 1834-1933, yn ymwneud a'r bardd gwlad John Morris Jones (Ioan Cunllo) o Rydlewis, sir Aberteifi, wedi eu dwyn ynghyd gan Daniel Thomas, Rhydlewis. = Papers, 1834-1933, relating to the country poet John Morris Jones (Ioan Cunllo) of Rhydlewis, Cardiganshire, collected together by Daniel Thomas, Rhydlewis.
Mae'r llawysgrif yn cynnwys barddoniaeth gan Ioan Cunllo, 1834-1884 (16623iE, ff. 1-34); llythyrau iddo oddi wrth D. Silvan Evans, 1864-1869, Iago Emlyn, 1869, a Robyn Ddu Eryri, 1876 (16623iE, ff. 37-49); cerddi gan Tegid, Robyn Ddu Eryri, Einion Evans, Gwilym Gwenog ac eraill, 1843-[19 gan., ail ½] (16623iE, ff. 35-36, 50-51, 54-59); a chopi o'r Haul, 35.8 (Awst 1933), yn cynnwys erthygl ar Ioan Cunllo (16623iE, ff. 60-79); gyda rhestr, ar bedair amlen, yn disgrifio trefn flaenorol y llawysgrif (16623iE, ff. i-iv); llyfr nodiadau yn llaw Daniel Thomas yn cynnwys yn bennaf adysgrifau, [20 gan., ½ cyntaf], o farddoniaeth Ioan Cunllo (16623iiE); llyfr lloffion yn cynnwys torion papur newydd, 1849-1923, yn bennaf o farddoniaeth, llythyrau ac erthyglau Ioan Cunllo a newyddion ardal Llandysul (16623iiiE). = The manuscript contains poetry by Ioan Cunllo, 1834-1884 (16623iE, ff. 1-34); letters to him from D. Silvan Evans, 1864-1869, Iago Emlyn, 1869, and Robyn Ddu Eryri, 1876 (16623iE, ff. 37-49); poems by Tegid, Robyn Ddu Eryri, Einion Evans, Gwilym Gwenog and others, 1843-[19 cent., second ½] (16623iE, ff. 35-36, 50-51, 54-59); and a copy of Yr Haul, 35.8 (August 1933), containing an article on Ioan Cunllo (16623iE, ff. 60-79); with a list on four envelopes describing a previous arrangement of the contents (16623iE, ff. i-iv); a notebook in the hand of Daniel Thomas mainly containing transcripts, [20 cent., first ½], of Ioan Cunllo's poetry (16623iiE); a scrap book containing newspaper cuttings, 1849-1923, mainly of Ioan Cunllo's poetry and news relating to the Llandysul area (16623iiiE).

Ioan Cunllo, 1803-1884.

Results 1281 to 1284 of 1284