Showing 839147 results

Archival description
Advanced search options
Print preview View:

9559 results with digital objects Show results with digital objects

Datganiadau breindal / Royalty statements

Papurau (1965-2009), yn cynnwys datganiadau breindal, datganiadau Hawliau Benthyca Cyhoeddus yn ymwneud â gweithiau cyhoeddedig Emyr Humphreys, ynghyd â phapurau pellach yn ymwneud ag aelodaeth Undeb. / Papers (1965-2009), consisting of royalty statements and Public Lending Right (PLR) statements relating to published works by Emyr Humphreys, together with further papers relating to Union memberships.

Datganiadau breindal a Hawl Benthyca Cyhoeddus / Royalty and Public Lending Right statements

Datganiadau breindal (2007-2009), a datganiadau Hawliau Benthyg Cyhoeddus (PLR) (1982-2009), ar gyfer gweithiau gan Emyr Humphreys, ynghyd â dogfennaeth bellach yn ymwneud â PLR gan gynnwys canllawiau ymgeisio a gweithdrefn ar gyfer cofrestru (heb ddyddiad); manylion trefniant talu PLR (1993-1995); ffurflenni cofrestru PLR (1982; 2007); dogfennau amrywiol PLR eraill (1996-2009); a gohebiaeth gysylltiedig yn cynnwys llythyrau oddi wrth Sheila Armitage (2) a Gwasanaethau Cefnogi Darlledu (1), gydag ymatebion drafft gan Emyr Humphreys. / Royalty statements (2007-2009), and Public Lending Right (PLR) statements (1982-2009), for works by Emyr Humphreys, together with further documentation relating to PLR including application guide and procedure for registration (undated); PLR payment arrangement details (1993-1995); PLR registration forms (1982; 2007); various other PLR documents (1996-2009); and related correspondence consisting of letters from Sheila Armitage (2) and Broadcasting Support Services (1), with draft replies from Emyr Humphreys.

'Cymru a'r Cyfryngau Torfol' / 'Culture and the New Media'

Dau deipysgrif o erthygl gan Emyr Humphreys, un yn Gymraeg ac un yn Saesneg, gyda'r teitlau 'Culture and the New Media’ a ‘Diwylliant Cymru a’r Cyfryngau Torfol’, a gyhoeddwyd yn ‘Taliesin’ 29, 1974; gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1977; ac yn ‘O’r Pedwar Gwynt’ 5, 2017. Ceir yn y ffeil hefyd rywfaint o ohebiaeth gysylltiedig, gan gynnwys dau lythyr oddi wrth Emyr Humphreys ([?1974]; 1978) a dau oddi wrth Walford Davies (1978). / Two typescripts of an article by Emyr Humphreys, one in Welsh and one in English, titled ‘Culture and the New Media’ and ‘Diwylliant Cymru a’r Cyfryngau Torfol’, published in ‘Taliesin’ 29, 1974; by Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1977; and in ‘O’r Pedwar Gwynt’ 5, 2017. The file also contains some related correspondence, including two letters from Emyr Humphreys ([?1974]; 1978) and two from Walford Davies (1978).

'Cysgod y Pulpud'

Teipysgrif o erthygl gan Emyr Humphreys gyda’r teitl 'Cysgod y Pulpud: dathlu i R. Tudor Jones' (1985), a ymddangosodd yn y gyfrol 'Y Gair a'r Genedl: Cyfrol Deyrnged i R. Tudur Jones' wedi'i golygu gan E. Stanley John (Abertawe : Tŷ John Penry, 1986); ynghyd â phapurau amrywiol eraill, gan gynnwys tri theipysgrif o araith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1985); teipysgrifau o ddarnau byrion yn dwyn y teitlau ‘Lawen Chwedl’, ‘La Roche Guyon’, a ‘Gwraig yr Hanesydd’; teipysgrif o ‘Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Hanes Crefydd yng Nghymru 1890-1914 Cyfrol 1: tt.249’ gan R. Tudur Jones; crynodeb teipysgrif o ddrama ddogfen ‘The Register’; copi teipysgrif o’r enw ‘Newid Gosgedd’; dwy set o doriadau o ‘Y Dinesydd’, (1977), yn cynnwys teyrnged i John Gwilym Jones gan Emyr Humphreys; nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys, [?1981]; copi teipysgrif o adolygiad Emyr Humphreys o ‘Grym y Gair a Fflam y Ffydd’ gan R. Tudur Jones, ar gyfer ‘Golygfa’ 9 (1998); a chopi teipysgrif o draethawd gyda’r teitl ‘Arcadia’r Cerrig’. / A typescript of an article by Emyr Humphreys titled ‘Cysgod y Pulpud: teyrnged i R. Tudor Jones’ (1985), featured in the volume ‘Y Gair a’r Genedl: Cyfrol Deyrnged i R. Tudur Jones’ edited by E. Stanley John (Abertawe : Tŷ John Penry, 1986); together with various other papers, including three typescripts of a speech for Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1985); typescripts of short pieces titled ‘Lawen Chwedl’, ‘La Roche Guyon’, and ‘Gwraig yr Hanesydd’; a typescript of ‘Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Hanes Crefydd yng Nghymru 1890-1914 Cyfrol 1: pp.249’ by R. Tudur Jones; a typescript summary from docu-drama ‘The Register’; a typescript copy titled ‘Newid Gosgedd’; two sets of cuttings from ‘Y Dinesydd’, (1977), including a tribute to John Gwilym Jones by Emyr Humphreys; manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, [?1981]; a typescript copy of Emyr Humphreys’ review of ‘Grym y Gair a Fflam y Ffydd’ by R. Tudur Jones, for ‘Golygfa’ 9 (1998); and a typescript copy of an essay titled ‘Arcadia’r Cerrig’.

'Private Battles'

Teipysgrifau, gyda chywiriadau yn llaw Emyr Humphreys, o sgript ar gyfer pennod pedwar o ddrama deledu wedi’i theitlo ‘Private Battles’; ynghyd â phapurau eraill yn cynnwys teipysgrif o draethawd gyda’r teitl ‘Cefn Gwlad’, a llythyr at Emyr Humphreys oddi wrth Richard Houdmont (2001). / Typescripts, with corrections in the hand of Emyr Humphreys, of a script for episode four of a drama for television titled ‘Private Battles’; together with other papers including a typescript of an essay titled ‘Cefn Gwlad’, and a letter to Emyr Humphreys from Richard Houdmont (2001).

'Soar'

Drafft mewn llawysgrif a theipysgrif, gyda nodiadau yn llaw Emyr Humphreys, ar gyfer drama gyda’r teitl ‘Soar: Ffoaduriaid ac ant hyd at Soar’. / A draft in both manuscript and typescript, with notes in the hand of Emyr Humphreys, for a drama titled ‘Soar: Ffoaduriaid a ant hyd at Soar’.

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Papurau (heb eu dyddio), yn ymwneud â chynhyrchu sgript ar gyfer drama deledu yn seiliedig ar y stori fer 'Mel's Secret Love' gan Emyr Humphreys (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 'Natives' (London: Secker & Warburg, 1968)), gan gynnwys dau ddrafft teipysgrif o'r sgript, dau ddrafft llawysgrif, a nodiadau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys. / Papers (undated), relating to the production of a script for a television drama based on the short story ‘Mel’s Secret Love’ by Emyr Humphreys (originally published in ‘Natives’ (London: Secker & Warburg, 1968)), including two typescript drafts of the script, two manuscript drafts, and various manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys.

Gohebiaeth, nodiadau, a phapurau cysylltiedig / Correspondence, notes, and related papers

Gohebiaeth (1985-1991), yn ymwneud â chwmni Ffilmiau Bryngwyn a’i gynyrchiadau, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Emyr Humphreys (8), Gwyn Pritchard (3), Derek Jones & Victoria Carew Hunt (1), Nick Pearson (1), Derek Jones (4), Emyr & Siôn Humphreys (2), Emyr & Elinor Humphreys (1), Siôn Humphreys (1), a Heather Crowther (1). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nodiadau llawysgrif a theipysgrif amrywiol yn ymwneud â chynhyrchiad gyda’r teitl ‘The Triple Net: a portrait of the writer Kate Roberts 1891-1985’, a ddarlledwyd fel cyfres o bedair ffilm ar S4C yn 1988; slip taliad ar gyfer Sianel 4 (1991); nodiadau yn ymwneud â syniad am raglen yn seiliedig ar ‘Y Mabinogion’ (1988); a chopi o lythyr gan Emyr Humphreys ynghylch ‘Aneurin Bevan and the Welsh Language’ (1988). / Correspondence (1985-1991), relating to the Ffilmiau Bryngwyn company and its productions, including letters from Emyr Humphreys (8), Gwyn Pritchard (3), Derek Jones & Victoria Carew Hunt (1), Nick Pearson (1), Derek Jones (4), Emyr & Siôn Humphreys (2), Emyr & Elinor Humphreys (1), Siôn Humphreys (1), and Heather Crowther (1). The file also includes various manuscript and typescript notes relating to a production titled ‘The Triple Net: a portrait of the writer Kate Roberts 1891-1985’, which was transmitted as a series of four films on S4C in 1988; a remittance slip for Channel 4 (1991); notes relating to an idea for a programme based on ‘The Mabinogion’ (1988); and a copy of a letter from Emyr Humphreys regarding ‘Aneurin Bevan and the Welsh Language’ (1988).

Datganiadau breindal a chytundebau cyhoeddi / Royalty statements and publishing contracts

Papurau gweinyddol yn ymwneud â gweithiau cyhoeddedig Emyr Humphreys, yn cynnwys contractau a chytundebau cyhoeddi (1943-2005); a datganiadau breindal, datganiadau Hawliau Benthyca Cyhoeddus (PLR), a phapurau aelodaeth Undeb (1965-2009). / Administrative papers relating to published works by Emyr Humphreys, consisting of publishing contracts and agreements (1943-2005); and royalty statements, Public Lending Right (PLR) statements, and Union membership papers (1965-2009).

Nodiadau a drafftiau amrywiol / Various notes and drafts

Nodiadau a drafftiau llawysgrif a theipysgrif amrywiol yn ymwneud â’r ddrama deledu ‘Visitors’, gan gynnwys drafftiau teipysgrif, gyda nodiadau, o sgriptiau ar gyfer penodau 1, 2, 3, 5 a 6 a chyflwyniad a chrynodeb o bennodau; drafftiau llawysgrif ar gyfer pennod 1; ynghyd â theipysgrif ar gyfer pennod 4 o ddrama o’r enw ‘Lôn Goed’ gan Bethan Dwyfor a Bryn Fôn (heb ddyddiad), a llythyr oddi wrth Siôn Humphreys (1999). / Various manuscript and typescript notes and drafts relating to the television drama ‘Visitors’, including typescript drafts, with notes, of scripts for episodes 1, 2, 3, 5 and 6 and an introduction and episode summary; manuscript drafts for episode 1; together with a typescript for episode 4 of a drama titled ‘Lôn Goed’ by Bethan Dwyfor a Bryn Fôn (undated), and a letter from Siôn Humphreys (1999).

Teipysgrifau a phapurau cysylltiedig / Typescripts and related papers

Llyfr nodiadau a phapurau rhydd (1998), yn cynnwys dau deipysgrif, un gyda chywiriadau, o grynodeb ar gyfer y ddrama deledu ‘Visitors’, ynghyd â drafft llawysgrif o sgript ar gyfer pennod 1 yn llaw Emyr Humphreys. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys nodiadau llawysgrif amrywiol mewn sawl llaw wahanol (un un Emyr Humphreys) gan gynnwys coeden deulu o gymeriadau, crynodebau plot, a disgrifiadau o'r golygfeydd; a drafft llawysgrif o’r stori fer ‘The Photograph’ (cyhoeddwyd fel ‘Vennerberg’s Ghost’ yn Planet 140 (2000), 47-59). / A notepad and loose papers (1998), consisting of two typescripts, one with corrections, of a summary for the television drama ‘Visitors’, together with a manuscript draft of a script for episode 1 in the hand of Emyr Humphreys. The file also includes various manuscript notes in several different hands (one that of Emyr Humphreys) including character family trees, plot summaries, and scene descriptions; and a manuscript draft of the short story ‘The Photograph’ (published as ‘Vennerberg’s Ghost’ in Planet 140 (2000), 47-59).

Comisiynau a chytundebau / Commissions and agreements

Cytundebau a memoranda (1984-1997) ar gyfer sgriptiau ar gyfer cynyrchiadau gan Ffilmiau Bryngwyn, gan gynnwys cytundebau ar gyfer y drama ‘Yr Eneth Fwyn’ (BBC); y dramâu teledu ‘Dwylo’ (BBC), ‘Ŵyn i’r Lladdfa’ (S4C) a ‘Byw yn Rhydd’ (S4C); a’r gyfresau ddogfen ‘The Hidden Source’ a ‘British Myths’. / Contract agreements and memoranda (1984-1997) for scripts for productions by Ffilmiau Bryngwyn, including contracts for the teleplay ‘Yr Eneth Fwyn’ (BBC); the television dramas ‘Dwylo’ (BBC), ‘Ŵyn i’r Lladdfa’ (S4C) and ‘Byw yn Rhydd’ (S4C); and the documentary series ‘The Hidden Source’ and ‘British Myths’.

'Reg'

Copi teipysgrif o sgript ar gyfer drama lwyfan heb ei pherfformio gan Emyr Humphreys, dan y teitl ‘Reg’ ([c.1964]). / A typescript copy of a script for an unperformed stage play by Emyr Humphreys, titled ‘Reg’ ([c.1964]).

Nodiadau llawysgrif / Manuscript notes

Nodiadau llawysgrif (heb eu dyddio) yn llaw Emyr Humphreys ac un llaw arall, yn ymwneud â syniadau ar gyfer ffilm gan gynnwys crynodebau plot a nodiadau am cymeriadiau. / Manuscript notes (undated) in the hand of Emyr Humphreys and one other hand, relating to ideas for a film including plot summaries and character notes.

Ffotograffau / Photographs

Ffotograffau du a gwyn yn dangos cynyrchiadau o ddramâu teledu’r BBC, yn cynnwys dau o gynhyrchiad y BBC o ‘Esther’ gan Saunders Lewis (1961); dau o gynhyrchiad y BBC o ‘Treason’ gan Saunders Lewis (1959); un o gynhyrchiad y BBC o ddrama gan W. S. Jones ‘A Car in the Thicket’ (1959); a thri llun arall yn ymwneud â chynyrchiadau teledu (di-deitl a heb ddyddiad). / Black and white photographs depicting productions of BBC television plays, consisting of two of the BBC production of Saunders Lewis’s ‘Esther’ (1961); two of the BBC production of Saunders Lewis’s ‘Treason’ (1959); one from BBC production of W. S. Jones's play ‘A Car in the Thicket’ (1959); and three other photographs relating to TV productions (untitled and undated).

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Llyfr nodiadau (1999) yn cynnwys drafft llawysgrif o sgript wedi'i theitlo ‘Visitors’ mewn llaw anhysbys (llaw Siôn Humphreys o bosibl), ynghyd â drafftiau llawysgrif pellach o farddoniaeth a rhyddiaith a ysgrifennwyd yn llaw Emyr Humphreys. / An exercise book (1999) containing a manuscript draft of a script entitled ‘Visitors’ in an unidentified hand (possibly that of Siôn Humphreys), together with further manuscript drafts of poetry and prose written in the hand of Emyr Humphreys.

Dwy sgript gan W. S. Jones / Two scripts by W. S. Jones

Dwy sgript (heb eu dyddio) yn cynnwys teipysgrif o ddrama gyda’r teitl 'Pregeth Pwy' gan W. S. Jones ('Wil Sam'), a drafft teipysgrif o ddrama radio gyda’r teitl 'Y Gadair Olwyn', hefyd gan W. S. Jones. Er na chynhwyswyd y rhain yn y cyhoeddiad, rhaid nodi mai Emyr Humphreys a ysgrifennodd y rhagymadrodd i’r gyfrol ‘Deg Drama Wil Sam’ (Capel Garmon: Gwasg Carreg Gwalch, 1995). / Two scripts (undated) consisting of a typescript of a drama titled ‘Pregeth Pwy’ by W. S. Jones (‘Wil Sam’), and a typescript draft of a play for radio titled ‘Y Gadair Olwyn (The Wheel Chair)’, also by W. S. Jones. Although these were not included in the publication, it must be noted that Emyr Humphreys wrote the introduction to the volume ‘Deg Drama Wil Sam’ (Capel Garmon: Gwasg Carreg Gwalch, 1995).

Papurau Ffilmiau Bryngwyn / Ffilmiau Bryngwyn Papers

Papurau (1882-1898; 1983-2010) yn ymwneud â chwmni Ffilmiau Bryngwyn, gan gynnwys cytundebau, nodiadau, drafftiau, teipysgrifau, a gohebiaeth. Cynhyrchodd y cwmni sgriptiau ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm amrywiol, gan gynnwys ar gyfer S4C a'r BBC. / Papers (1882-1898; 1983-2010) relating to the Ffilmiau Bryngwyn company, including contracts, notes, drafts, typescripts, and correspondence. The company produced scripts for various TV and film productions, including for S4C and the BBC.

'A Toy Epic'

Drafft teipysgrif o sgript drama yn seiliedig ar nofel Emyr Humphreys ‘A Toy Epic’, wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan Manon Eames, ynghyd â llythyr at Emyr Humphreys oddi wrth John Rush (1998). / A typescript draft of script for a play based on Emyr Humphreys’ novel ‘A Toy Epic’, adapted for the stage by Manon Eames, together with a letter to Emyr Humphreys from John Rush (1998).

Drafft llawysgrif a phapurau cysylltiedig / Manuscript draft and related papers

Llyfr nodiadau (1998), yn cynnwys drafft llawysgrif o sgript ar gyfer drama 6-rhan wedi'i theitlo 'Visitors', wedi'i hysgrifennu mewn llaw anhysbys (llaw Siôn Humphreys o bosibl), ynghyd â rhai toriadau o'r wasg (heb eu dyddio) a drafftiau o ddau lythyr oddi wrth Siôn Humphreys. / A notepad (1998), containing a manuscript draft of a script for a 6-part drama titled ‘Visitors’, written in an unidentified hand (possibly that of Siôn Humphreys), together with some press cuttings (undated) and drafts of two letters from Siôn Humphreys.

Results 101 to 120 of 839147