Showing 187 results

Archival description
Papurau D. J. Williams, Abergwaun
Print preview View:

Tystysgrifau

Copi, 1907, o dystysgrif geni Siân Williams, 4 Awst 1884, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin; tystysgrif Band of Hope, 1892; tystysgrif ysgoloriaeth, 1896, i Ysgol Sir Port Talbot a thystysgrifau addysgol eraill, 1899-1900.

Llyfrau nodiadau

Llyfr nodiadau, 1903, yn cynnwys adysgrifau o gerddi Cymraeg a Saesneg poblogaidd. Llyfr nodiadau, 1905-[1951], yn cynnwys eitemau rhydd gan mwyaf gan gynnwys adroddiad am dysteb i'w thad y Parch. Dan Evans, Hawen, 1928, a theyrngedau iddo ar ei farwolaeth yn [1934]; 'Penillion i Miss Evans, ysgolfeistres ar achlysur ei phriodas', [1925] a 'Llinellau priodasol' iddynt gan 'Briallydd'; torion o gerddi gan Wil Ifan; ac adysgrifau o gerddi.

Llythyrau W (Walters-Williams, D.)

Llythyrau, 1918-[1965]. Ymhlith y gohebwyr mae Syr Percy E. Watkins (2), Tudor Watkins, AS (2), Harri Webb (3), Syr Wynn P. Wheldon (3), Alun Llywelyn-Williams (3), y Fonesig Amy Parry-Williams (1) a David Williams (2).

Watkins, Percy E. (Percy Emerson), Sir, 1871-1946

Llythyrau L (Lewis, S-Llwyd)

Llythyrau, [1936]-[1968]. Ymhlith y gohebwyr mae Timothy Lewis (2), [D.] Myrddin Lloyd (3), D. Tecwyn Lloyd (6), Bob Lloyd ('Llwyd o'r Bryn') (6) [cyhoeddwyd llythyrau Bob Lloyd yn 1966 mewn cyfrol Diddordebau Llwyd o'r Bryn a olygwyd gan Trebor Lloyd Evans], a T. Alwyn Lloyd (1).

Lewis, Timothy, 1877-1958

Nodiadau Francis Jones

Nodiadau o bapurau'n ymwneud â stad Ffrwdfâl, Sir Gaerfyrddin (Llawysgrifau LlGC 11760-11788); drafft o goeden deulu Glanyrannell gan Francis Jones; ynghyd â chopi teipysgrif o'i erthygl 'An absentee landlord' a gyhoeddwyd yn The Carmarthenshire Antiquarian Journal, [1939], yn ymwneud â Lewis Pryce Jones.

Jones, Francis, 1908-1993

Llythyrau at y wasg

Drafftiau o lythyrau D. J. Williams, [1931]-[1966], at y wasg ac at unigolion, gan gynnwys llythyrau at yr Aelodau Seneddol David Lloyd George, 1941, D. R. Grenfell, 1954, ac i'r Ysgrifennydd Gwladol Cledwyn Hughes, 1966; yr olaf yn ymwneud â'r hawl i gael rhybudd i adnewyddu trwydded radio yn Gymraeg.

Llythyrau D (Davies, D-I)

Llythyrau, 1920-1969, gan gynnwys rhai oddi wrth [D.] Jacob [Davies] (3), D. Oswald Davies (16), Eic Davies (18), E. Tegla Davies (1), George M. Ll. Davies (63) a'r Parch. Gwilym Davies (1).

Davies, D. Jacob (David Jacob), 1916-1974

Llythyrau Evans (GJ-JH)

Llythyrau, [1930]-[1969], gan gynnwys rhai oddi wrth George Ewart Evans (3), Gwynfor Evans (140) ac Ifor L. Evans (2). Yn y llythyrau oddi wrth Gwynfor Evans, 1942-1969, trafodir etholiadau, cyfarfodydd Plaid Cymru, a sefyllfa'r Blaid yn Sir Benfro. Adroddir am ei fywyd cyhoeddus yn darlithio i gymdeithasau a cheir cyfeiriadau at waith llenyddol D. J. Williams.

Evans, George Ewart

Llythyrau Jones (A-D)

Llythyrau, 1915-[1968]. Ymhlith y gohebwyr mae Cynan (2), Alun Jones (Cilie), Aneurin Jenkins-Jones (1), Bedwyr L[ewis] Jones (7), Bobi Jones (10), Dafydd [Jones, 'Isfoel'] (1), Dafydd Glyn Jones (2), [D.] Gwenallt Jones (25), gan gynnwys drafft o'i gerdd 'Rhydcymerau' er mwyn cael barn D. J. Williams ar ei ddisgrifiad o'i dad-cu Esgeirceir gan na welodd mohono erioed, [D. J.] Odwyn Jones (6), Dafydd Orwig [Jones] (3), ac englyn, [1966], gan Dic [Jones] wedi iddo brynu copi o Storïau'r Tir.

Cynan, 1895-1970

Llythyrau Jones (K-W)

Llythyrau, 1911-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Kitty Idwal Jones (1), Marian Henry Jones (1), Dr Martyn Lloyd-Jones (1), Nel Gwenallt [Jones] (7), R[obin] Gwyndaf Jones (2), [R.] Tudur [Jones] (2), Rhiannon Davies Jones (1), Rhydderch [Jones], S. B. Jones (5), Sam Jones (6), T. Gwynn Jones (5), T. Llew Jones (1), Tegwyn Jones (1), Dr Thomas Jones, CH (1), yr Athro Thomas Jones (3), W. Jenkyn Jones (2), ynghyd â grŵp o lythyrau oddi wrth Victor Jones, cyd ysgrifennydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (bu D. J. Williams yn Is-Lywydd yr Undeb).

Jones, Kitty Idwal, 1898-1984

Llythyrau N-O

Llythyrau, [1917]-1969. Ymhlith y gohebwyr mae James Nicholas (7), W. Rhys Nicholas (2), Tadgh Ó'Donnchadha (Torna) (4), J. Dyfnallt Owen (5) a B. G. Owens (1).

Nicholas, James

Llythyrau Williams (E-J)

Llythyrau, [1919]-1968. Ymhlith y gohebwyr mae Glanmor Williams (2), Griffith John Williams (7), J. E. Caerwyn Williams (9), ynghyd â cherddi yn llaw Waldo Williams a fenthycodd D. J. Williams iddo yn 1952 a chasgliad teipysgrif gan J. E. Caerwyn Williams o farddoniaeth Waldo Williams a gyhoeddwyd yn y wasg, 1938-1964 (wedi ymddangos yn Y Faner gan mwyaf), J. O. Williams (2), Jac [L. Williams] (13), Syr John Cecil-Williams (5) a John Roberts Williams (1).

Williams, Glanmor

Llythyrau Williams (M-T)

Llythyrau, [1915]-[1968]. Ymhlith y gohebwyr mae Morris [T.] Williams (1), [R.] Bryn [Williams] (1), Stephen [J. Williams] (5) a T. H. Parry-Williams (36).

Williams, Morris T. (Morris Thomas), 1900-1946.

Llythyrau oddi wrth Kate Roberts

Llythyrau, [1927]-1969, oddi wrth Kate Roberts at D. J. Williams, yn ymwneud â phynciau megis Plaid Cymru, ei gwaith creadigol hi, Gwasg Gee a'r Faner, ynghyd â thri llythyr, 1934, yn rhoi ei barn ar y sgetsys i'w cyhoeddi yn Hen Wynebau (Aberystwyth, 1934) ac ar ei weithiau eraill. Yn y ddau lythyr cyntaf defnyddia'r ffurf 'Catrin Robaits' wrth lofnodi. Yn fynych ceir sylwadau wedi'u hychwanegu gan Morris Williams (Morus Cyffin) arnynt.

Roberts, Kate, 1891-1985

Results 101 to 120 of 187