Showing 150 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Print preview View:

Llenyddiaeth Gymraeg

Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams, [1911x1963], ar lenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys deunydd perthynol i'r cyhoeddiad Gramadegau'r Penceirddiaid; nifer o ddarlithoedd ac erthyglau; ynghyd ag adysgrifau o lawysgrifau o wahanol ffynonellau a nodiadau amrywiol.

Gramadegau'r Penceirddiaid

Deunydd perthynol i'r cyhoeddiad Gramadegau'r Penceirddiaid a olygwyd gan G. J. Williams ac E. J. Jones (Caerdydd, 1934), gan gynnwys nifer o adysgrifau a chyfeiriadau at ramadegau mewn llawysgrifau, ynghyd â phapurau'n ymwneud â gramadegau Gutun Owain, Gwilym Tew, Einion Offeiriad a Dafydd Ddu Athro o Hiraddug. Mae rhai o'r papurau yn llaw E. J. Jones.

Jones, Evan J.

Y llawysgrifau Cymraeg

Mynegeion a slipiau ymchwil G. J. Williams, y mwyafrif yn cyfeirio at enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau Cymraeg; darlithoedd yn olrhain hanes y llawysgrifau; nodiadau ar eu perchnogaeth; a nifer o adysgrifau a llungopïau.

Rhestri llawysgrifau

Rhestr o lawysgrifau, yn llaw G. J. Williams, yn perthyn i'r cyfnod cyn 1400 hyd 1700; ynghyd â chopïau o rai o restri ('Schedules') llawysgrifau sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Papurau amrywiol

Deunydd amrywiol perthynol i weithgaredd G. J. Williams fel ymchwilydd, golygydd a darlledwr, gan gynnwys papurau'n ymwneud â Llên Cymru a'r Llenor; llyfryddiaethau; sgyrsiau radio; almanaciau; memorandwm ar hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif; a thorion papur.

Y Llenor

Deunydd amrywiol, 1921-1923, yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, yn ymwneud â chyhoeddi cylchgrawn Cymraeg newydd, yn dwyn y teitl Y Llenor, i lenwi'r bwlch a adawyd gan dranc Y Beirniad. Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd, Henry Lewis ac Ifor Williams.

Llyfryddiaethau

Llyfryddiaeth W. J. Gruffydd yn llaw G. J. Williams, ynghyd â gohebiaeth berthynol, 1935-1936; un dudalen yn cyfeiro'n bennaf at gyhoeddiadau G. J. Williams yn Y Genhinen, 1969-1973; llyfryddiaethau byr unigolion eraill yn nhrefn yr wyddor; a llyfryddiaethau ar bynciau amrywiol. Ceir hefyd ychydig restri yn cynnwys prisiau llyfrau.

Results 101 to 120 of 150