Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Print preview View:

Taliesin,

Papurau’n ymwneud â'i waith fel golygydd y cylchgrawn Taliesin, [1965x1987].

Traethawd BA Saunders Lewis,

Copi, 1966, o draethawd BA Anrhydedd 'Imagery and poetic themes of S. T. Coleridge', Prifysgol Lerpwl, 1920, gan Saunders Lewis, ac mae'r gwreiddiol ar gadw yn Llyfrgell y Brifysgol honno.

John Saunders Lewis. Y gyfrol gyntaf,

Papurau'n ymwneud â'r gyfrol hon yn bennaf gan gynnwys llythyrau oddi wrth Saunders Lewis, 1949-1975. Ceir llythyr, 1989, oddi wrth Gyngor y Celfyddydau yn cynnig gwobr o fil o bunnau yn wobr iddo am y gyfrol.

Torion o'r wasg,

Torion o’r wasg, [1926]-[1966], gan gynnwys adolygiadau o weithiau Saunders Lewis, o’i golofn ‘Saunders Lewis yn trafod …’ yn Y Faner, a cherddi ganddo.

Tannau'r cawn,

Teipysgrifau cerddi William Jones a ddetholwyd gan D. Tecwyn Lloyd ar gyfer eu cyhoeddi yn 1965.

Jones, William, 1907-1964.

Enghreifftiau o'i ddychan,

'Buchedd Euraus Yffeirat' [yn gwneud hwyl am ben Euros Bowen, gweler Bro a Bywyd D. Tecwyn Lloyd am adysgrif], ynghyd â theipysgrif erthygl ddychanol 'Dryll o hen lawysgrif' gan Llywelyn Pinkerton Emerson [D. Tecwyn Lloyd] i Studia Celtica Japonica.

E Bymhet Geing,

Cyfrol yn cynnwys Pumed Keinc y Mabinogi yn ei law sef parodi ganddo mewn 'Hen Gymraeg' am ddau frawd yn ardal Penllyn, [1976].

Lady Gwladys a phobl eraill,

Copi llawysgrif o Lady Gwladys a phobl eraill (Abertawe, 1971) a gyflwynodd i'w wraig Gwyneth yn 1982 ac sy'n cynnwys llythyr oddi wrth Islwyn [Ffowc Ellis], 1958.

Elis, Islwyn Ffowc

Papurau llenyddol,

Papurau llenyddol, [1903]-1992, gan gynnwys cerddi, papurau'n ymwneud â'i ymchwil ar Saunders Lewis, ei waith fel golygydd Taliesin ac fel awdur erthyglau ac adolygydd.

Cytundebau,

Cytundebau rhyngddo â'r BBC, TWW, Teledu Harlech ac eraill, ynghyd â thri cytundeb cyhoeddi, 1987-1988.

Ceisiadau am swyddi,

Ceisiadau am swyddi fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Astudiaethau Efrydiau Allanol ym Mhrifysgol Caeredin, [cyn 1955], tiwtor cynorthwyol yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Bangor, 1955, a darlithydd cynorthwyol yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol Caerdydd (llenyddiaeth ddiweddar), 1957.

Results 101 to 120 of 207