Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

G. W. Whittington, Gwauncaegurwen,

Ysgrifennu at W. J. Gruffydd i ddiolch iddo am bopeth a wna dros Gymru. Ceisiodd yntau fod yn ffyddlon i Gymru drwy ei oes, ond gwr yr un dalent ydoedd. Mae'n anfon cyfraniad bach at W. J. Gruffydd i'w roi at unrhyw achos teilwng ar wahân i'r Blaid Genedlaethol. Mae eisoes wedi cyfrannu at y Blaid gyda'r un post. Awgrymu y gellid cynorthwyo un o'r myfyrwyr i brynu llyfrau, neu roi gwobr i'r myfyriwr Cymraeg gorau ar ddiwedd y tymor. Nid yw am wybod sut y gwerir yr arian ac nid oes angen cydnabod ei lythyr ychwaith gan fod W. J. Gruffydd mor brysur.

Wynn P. Wheldon at Syr T. Carey Evans, Llundain,

Diolch iddo am anfon cynllun y ffenestr liw. Mae ganddo ragfarn yn erbyn ffenestri lliw. Mae'r cynllun yn artistig ac yn gymesur. Ni ellir gwrthod sylwadau W. J. Gruffydd yn ysgafn. Mae'r cynllun presennol yn awgrymu bod Morgan Llwyd ar y cyfan yn swyddog milwrol. Nid dyna oedd yn nodweddu'r Annibynwyr cynnar. Mae'n falch mai yn Gymraeg y bwriedir yr arysgrif ac ni ellir gwrthwynebu cyfieithiad Saesneg. Byddai'n well ganddo weld enw T. Carey Evans ar y taflenni fel Llywydd na'i enw ef os nad ydynt eisoes wedi eu hargraffu. Yr arysgrif yw: 'Pregethwr: Proffwyd: Llenor: Gwladgarwr'. Copi teipysgrif.

[Wynn P. Wheldon], Llundain S.W.1,

Mae'n ceisio ymryddhau o fod yn Llywydd Cronfa Goffa Morgan Llwyd. Hydera y bydd Syr T. Carey Evans wedi derbyn y gwaith hwnnw cyn bo hir. Cafodd ohebiaeth fywiog gyda J. W. Jones ac y mae'n cynnwys copi o lythyr a ysgrifennodd at Carey Evans. Mae ei fwriadau yn dda ond nid yw yn deall yr hyn sy'n ymhlyg yn y math hwn o beth. Mae ef a J. W. Jones yn teimlo'n flin at Bob Owen am awgrymu rhoi'r ffenestr yn y 'capel Sentars yn y Llan'. Mac ef, Wynn P. Wheldon, yn tueddu cytuno â Bob Owen. Maent i gyd yn rhy ddiamynedd yngl?n â beirniadaeth ac yn methu sylweddoli mai ychydig iawn o arian a gesglir i achos fel hwn.

W[ynn] P. Wheldon at [Ben Bowen Thomas], [Llundain],

Nid oedd yn deall fod disgwyl i'r Bwrdd [Addysg] i draethu barn ar sefyllfa D. J. Williams. O chwilio gwelir bod ateb wedi ei anfon ar Hyd. 8 yn dweud na all y Bwrdd dalu dim nes bod canlyniad yr achos yn hysbys. Nid oedd ganddynt wrthwynebiad i gyflogi rhywun yn lle Mr Williams. Nid yw'n deall i ba ddiben y defnyddir y Gronfa Amddiffyn onid i helpu mewn achos fel hwn. Copi teipysgrif.

Wynn P. Wheldon, Llundain, S.W.1,

Derbyniodd lythyr W. J. Gruffydd ac un tebyg oddi wrth [Ben Bowen Thomas], Warden Coleg Harlech. Mae'n anfon copi o'i ateb at Ben Bowen Thomas. Mae'n ddrwg ganddo glywed bod amgylchiadau ariannol [D. J.] Williams yn fain, ond ofer yw disgwyl cydymdeimlad swyddogol. Mae gofyn amdano yn gwneud y drwg yn waeth.

W[ynn] P. W[heldon], Llundain, S.W.1,

Cafodd lythyr yn enwi aelodau Pwyllgor Gwaith y Cyngor Canol ar Ddarlledu i Ysgolion. Mae'n falch o weld bod W. J. Gruffydd yn dal ar y pwyllgor; ond ef yw'r unig Gymro ar bwyllgor o bedwar ar bymtheg. Mae hyn yn annigonol ac y mae wedi achwyn. Dylid cael dau aelod o Gymry o leiaf.

Westminster Bank LTD., (Rheolwr), Abertawe,

Agorwyd cyfrif yn 1927 yn enw'r 'Welsh Drama League'. Mae yna gredyd o £24-7-3 yn y cyfrif erbyn hyn. Deallir nad yw'r corff yn dal i weithredu. W. J. Gruffydd oedd y Cadeirydd. Nid yw cyfeiriad yr Ysgrifennydd ganddynt ac y mae'r Trysorydd wedi marw. Hoffent wybod beth i wneud â'r cyfrif.

Western Mail (D. G. Prosser), Caerdydd,

Mae'n ymddiheuro bod W. J. Gruffydd wedi cael ei gamddehongli yn y Western Mail unwaith eto. Mae'n awgrymu y gallai W. J. Gruffydd gynnig crynodebau o unrhyw ddeunydd o'r Llenor a allai fod o ddiddordeb i ddarllenwyr y Western Mail yn y dyfodol. Mae'n croesawu cyfraniadau gan W. J. Gruffydd am ei fod yn gefnogol i'r rhyfel. Rhaid i bobl Cymru weld yn glir fod yn rhaid iddi gefnogi'r rhyfel er ei lles ei hunan. Awgrymu y dylai W. J. Gruffydd gyfieithu ei erthygl i'r Saesneg a'i chyhoeddi yn The Round Table. Awgrymu dwy neu dair erthygl o ryw fil o eiriau.

Western Mail (D. R. Prosser), Caerdydd,

Trafodwyd y posibilrwydd i W. J. Gruffydd ysgrifennu dwy erthygl i'r Western Mail ar Gymru a'r ymdrech ryfel. Bu'n holi yngl?n â'r cyngor ymgynghorol i Gymru. Nid yw'r canlyniadau yn addawol iawn. Cred yr aelodau seneddol mai eu gwaith hwy ydyw. Nid yw'r Llywodraeth yn debyg o drafod hyn oni bai fod yr aelodau seneddol yn cyflwyno'r mater. Gallai W. J. Gruffydd drefnu i gyfarfod â'r aelodau Cymreig yn dilyn ei erthyglau yn y papur.

Western Mail (J. A. Sandbrook), Caerdydd,

Esbonio bwriad y papur wrth geisio codi arian i hyrwyddo ymweliad y Gyngres Geltaidd â Chaerdydd. Enw da Cymru oedd yn y fantol. Byddai'n sarhad ar Gymru a Chaerdydd yn enwedig, pe byddid yn methu codi ychydig gannoedd er mwyn croesawu'r Gyngres yn unol â dymuniad y Cymmrodorion. Llwyddwyd i roi cystal croeso i Dywysog Cymru beth amser yng nghynt, ni ellid peidio â cheisio cynorthwyo'r Gyngres hefyd. Mae'r papur yn addo rhoi adroddiadau teilwng. Cafwyd papurau diddorol iawn yng nghynhadledd Bangor, 1927. Maent yn falch o glywed bod W. J. Gruffydd am eu cynorthwyo. Tybed a all W. J. Gruffydd ynghyd ag ysgolheigion amlwg eraill fel J. E. Lloyd, Ifor Williams, Henry Lewis, Lloyd Jones, Fleure, etc., gynorthwyo i wneud y cyfan yn llwyddiant?.

Western Mail (J. A. Sandbrook), Caerdydd,

Diolch i W. J. Gruffydd am ei erthygl ar Lenyddiaeth Cymru yn ystod teyrnasiad Siôr V. Ni chafodd gyfle i'w darllen eto ond mae'n sicr o fod yn wych a digonol. O.N. Newydd ddarllen yr erthygl. Y mae'n feistraidd. Hoffai petai W. J. Gruffydd yn ysgrifennu'n amlach i'r papur.

Western Mail (William Davies), Caerdydd,

Diolch am ei lythyr. Mae'n ddrwg ganddo fod gan W. J. Gruffydd achos i gwyno am y driniaeth a gafodd gan y papur. Yr oedd wedi darllen cyfraniad y 'Junior Member' ond heb sylwi ar y frawddeg dramgwyddus. Y mae arno gywilydd am fod mor esgeulus. Ni ddigwydd hynny eto. Yr oedd yn 66 oed y Llun cynt ac y mae yn dechrau teimlo ei oed. Nid yw am golli mwy o gyfeillion er hynny.

Ernest Weekley, Cricieth,

Mae wedi gorffen diwygio ei lyfr Jack and Jill [Llundain: John Murray, argraffiad cyntaf 1939, ail argraffiad 1948]. Mae'n anfon rhestr o fân gwestiynau. Mae'n gofyn am ystyron enwau ac y mae'n addo cydnabod ei gymorth yn y llyfr. Gofyn am y ffurf Yves, tybed a oes perthynas â'r ffurf Yvain? Hydera y caiff y llyfr weld golau ddydd eto wedi'r rhyfel. Os na fydd ef byw gall ei esgutorion ei gyhoeddi.

Ernest Weekley, Cricieth,

Diolch am lythyr diddorol W. J. Gruffydd. Mae yng Nghymru ar ôl treulio'r gaeaf yn Ucheldiroedd yr Alban gan fod ei gartref yn Richmond wedi profi'n darged i'r awyrennau Naziaidd ar ddau achlysur. Mae ei lyfrgell yn ddiogel ond y mae dan anfantais fawr o orfod bod hebddi. Mae dan anfantais wrth geisio ailysgrifennu ei lyfr Jack and Jill ar gyfer ailargraffiad. Mae'r llyfr yn gwerthu'n wael am ei fod yn rhy ddysgedig a'r cyhoedd yn dymuno sothach di-ddysg. Teimlodd fod yna ddiffyg yn yr elfen Gymreig yn Jack and Jill. Nid yw'n ysgolhaig Celtaidd a phan holodd Adran y Gymraeg Bangor, ni chafodd ateb. Mae wedi ymgorffori sylwadau W. J. Gruffydd. Daeth i fyw yng Nghricieth i fod yn agos at hen gyfaill a ymddeolodd yno. Mae'r lle yn ddymunol dros ben ac y mae'n edifar na fedr ddeall y Gymraeg a siaredir o'i gwmpas ym mhobman.

[Lord Josiah Clement] Wedgwood, T?'r Arglwyddi, Llundain,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ennill sedd y Brifysgol. Diolch iddo am y calondid hwn gan hyderu y caiff ddeugain mlynedd o wasanaeth. Gwahoddiad i bryd canol-dydd unrhyw ddydd Mawrth, Mercher neu Iau. Anfon copi o'i lyfr Testament to Democracy i'w adolygu mewn cyfnodolyn Cymraeg.

Stanley Watkins, Exeter,

Cydymdeimlo ag W. J. Gruffydd am na chafodd swydd [Prifathro] Caerdydd, bron na ellid ei longyfarch hefyd ar beidio â'i chael. Nid yw yn swydd i'w chwennych ac eto nid W. J. Gruffydd yw'r cyntaf i beidio â chael ei gydnabod yn ei ardal ei hunan.

Percy E. Watkins, Llundain, N.W.3,

Ysgrifennu i ddweud cymaint o bleser a gafodd o ddarllen 'Hen Atgofion' yn Y Llenor. Er nad yw ei wybodaeth o'r Gymraeg yn eang iawn mae'n gallu dirnad mawredd yr arddull a'r cynnwys. Mae W. J. Gruffydd wedi anfarwoli ei daid. Gofyn iddo ysgrifennu cymaint ag y gall yn y dull hwn.

Percy E. Watkins, Llundain, S.W.1,

Derbyniodd lythyr W. J. Gruffydd yngl?n ag ysgol Llanuwchllyn [rhif 810 uchod] a bydd yn ysgrifennu eto mewn ychydig ddyddiau gyda chanlyniad ei ymholiadau. Mae'n cofio am apwyntiad Owen Owen fel Prif Arolygydd y Bwrdd Canol Cymreig yn dda. Mae ganddo hefyd beth deunydd dogfennol sy'n taflu golau ar y digwyddiad.

[W. J. Gruffydd at Percy E. Watkins, Bwrdd Addysg, Llundain],

Mae'n ceisio llunio darlun brysiog o hanes addysg gynradd ar gyfer cofiant O. M. Edwards. Holi os gwyr ef am unrhywun yn y Bwrdd a all roi gwybodaeth iddo am hanes ysgol Llanuwchllyn. Ysgol yr Eglwys oedd hi yng nghyfnod O. M. Edwards. Hwyrach y bydd angen ei boeni eto yn nes ymlaen yngl?n ag addysg uwchradd. Dywed Mary Davies wrtho mai Percy E. Watkins sydd â'r wybodaeth yngl?n ag apwyntiad Owen Owen. Mae'n dymuno cael sgwrs ag ef. Copi teipysgrif.

Results 101 to 120 of 982